Rhoddwyd y gymynrodd i Brifysgol ϲʹ gan Dr John Trevor Williams, a oedd yn enwog fel un o “dadau’r” Doomsday Vault fel y’i gelwir, sef y Svalbard Global Seed Vault yn Norwy. Mae miliynau o hadau wedi eu storio yno ar gyfer y dyfodol yn ddwfn o dan rew parhaol yr Arctig. Graddiodd Dr Williams, a oedd yn gyn Ysgrifennydd Gweithredol, ac yna’n Gyfarwyddwr yr International Board for Plant Genetic Resources yn Rhufain, o Brifysgol ϲʹ, gan ennill PhD mewn Botaneg Amaethyddol yma yn 1962.
Eglura Dr Katherine Steele, Uwch Ddarlithydd mewn Cynhyrchu Cnydau Cynaliadwy yn yr Ysgol Gwyddorau Naturiol, arwyddocâd y poly-dwneli:
“Dylai’r twneli newydd a’r twneli sydd wedi’u hadnewyddu yng Nghanolfan Ymchwil Henfaes bara hyd at 10 mlynedd, gan roi cyfleoedd i fwy o fyfyrwyr sy’n gweithio ar brojectau amaethyddol wedi’u seilio ar fotaneg.
Maent yn arbennig o bwysig ar gyfer gwneud profion ymwrthedd i glefydau ar wahanol gyltifarau. Mae’r twneli’n lleihau’r siawns i sborau clefydau na chynlluniwyd ar eu cyfer ddod i mewn o’r amgylchedd a heintio planhigion sy’n cael eu profi.”
Gwnaeth Dr Williams gyfraniad enfawr dros ei yrfa tuag at warchod genynnau cnydau bwyd y byd. Yn yr International Board for Plant Genetic Resources yn Rhufain arweiniodd raglen o gasglu, cadw a rhannu'r amrywiadau cnydau y mae ffermwyr wedi eu tyfu ers canrifoedd - sef yr adnoddau genetig sydd eu hangen i fridio planhigion a gwella cnydau.
Ar y pryd roedd ffermwyr yn defnyddio hadau newydd a oedd yn cynhyrchu cnydau mwy ac roedd llawer o'r amrywiadau traddodiadol mewn perygl o ddiflannu. Un ffordd o ddiogelu amrywiaeth genetig oedd cadw hadau mewn banc genynnau ar gyfer cadwraeth tymor hir. Erbyn iddo ymddeol fel cyfarwyddwr, roedd dros 1,000 o fanciau neu gasgliadau genynnau o amgylch y byd.
Cymynrodd i Brifysgol ϲʹ gan 'Dad' banc hadau’r Doomsday Vault
Diolch i gymynrodd i Brifysgol ϲʹ mae gan staff a myfyrwyr sy'n ymchwilio i ymwrthedd i glefydau mewn planhigion poly-dwneli newydd i ynysu cnydau sy'n tyfu.