Myfyrwyr yn ymweld â Thŷ'r Senedd a'r Goruchaf Lys
Mae tîm Cyfraith Gyhoeddus Prifysgol Ïã¸ÛÁùºÏ²Ê¹ÒÅÆ×ÊÁÏ wedi bod i Lundain yr wythnos hon gyda myfyrwyr sy’n astudio’r Gyfraith.
Yr wythnos hon ymwelodd rhai o’n hisraddedigion a’n myfyrwyr ôl-raddedig yn y Gyfraith â phrifddinas y DU gyda’r nod o ymweld ag adeiladau gwleidyddol allweddol ac ehangu eu dealltwriaeth am y gyfraith gyhoeddus.
Ymunodd Stephen Clear â ein myfyrwyr yn Llundain gan ymweld â Goruchaf Lys y DU a Senedd y DU. Wedi’i hwyluso gan AS Plaid Cymru Hywel Williams, cafodd y myfyrwyr gyfle i fynd ar daith o amgylch Senedd y DU a chael profiad o sut fydd hi i fod yn rhan o wleidyddiaeth yn y DU.
Cafodd ein myfyrwyr cyfle i gael taith o Balas San Steffan, gwylio dadleuon yn Nhŷ’r Cyffredin a Thŷ’r Arglwyddi’r DU, i gyd mewn un ymweliad. Fe lwyddon nhw hyd yn oed i wylio Cwestiynau’r Prif Weinidog yn fyw gyda’r prif weinidog newydd Rishi Sunak.
Rhoddodd y daith fewnwelediad gwych i’n myfyrwyr sy’n ymchwilio i Gyfraith Gyhoeddus, ond rhoddodd hefyd gyfle i fyfyrwyr eraill sy'n astudio'r Gyfraith ddysgu mwy am y system gyfreithiol yma yn y DU.
Rydym yn edrych ymlaen at ein digwyddiad cyfreithiol nesaf a fydd yn gweld Hywel Williams AS yn ymweld â ni ym Mhrifysgol Ïã¸ÛÁùºÏ²Ê¹ÒÅÆ×ÊÁÏ fel darlithydd gwadd.