Mae eliffantod yn hynod gyson yn eu patrymau symud tymhorol ar draws nifer o flynyddoedd, yn ôl ymchwil gan y sŵolegydd a’r darlithydd ym Mhrifysgol ϲʹ, Dr Rhea Burton-Roberts. Mae canfyddiadau Rhea, a gyhoeddwyd yn Scientific Reports, yn dangos bod yn well gan grwpiau teuluol o eliffantod ym Mharc Cenedlaethol Kruger aros mewn ardaloedd y maent yn eu hadnabod yn dda, ond gall diffyg bwyd yn ystod cyfnodau arbennig o sych eu gyrru i symud i chwilio am fwyd mewn cynefinoedd llai cyfarwydd.
Defnyddiodd astudiaeth PhD Rhea, ar ecoleg symudiadau eliffantod, wyth mlynedd o ddata am leoliadau eliffantod a gasglwyd o 13 o grwpiau teuluol o eliffantod ym Mharc Cenedlaethol Kruger yn Ne Affrica. Roedd yn broject cydweithredol yn cynnwys gwyddonwyr o Brifysgol KwaZulu-Natal (UKZN), Sefydliad Gwyddorau India, Ymddiriedolaeth Ashoka a Pharciau Cenedlaethol De Affrica.
Eglurodd Rhea,
“Roedd y data a gasglwyd o goleri GPS a wisgwyd gan yr eliffantod yn cofnodi eu safle bob 30 munud, gan roi golwg diddorol iawn i ni ar eu hymddygiad symud yn ystod nifer o dymhorau wrth i faint o fwyd oedd ar gael ac amodau amgylcheddol newid.
Dangosodd ddadansoddiad Rhea fod yr eliffantod yn cadw at gynefinoedd ac ardaloedd penodol o'r 20,000 km2 yn y Parc Cenedlaethol. Mae gan eliffantod ddeiet sy'n newid yn ôl y tymhorau, gan ffafrio glaswellt maethlon sydd fwyaf toreithiog yn y tymor gwlyb (y gwanwyn a’r haf) a newid i blanhigion coediog yn y tymor sych (yr hydref a’r gaeaf). Roedd yr amrywiaeth mwyaf yn eu hymddygiad tymhorol wedi'i ysgogi gan faint y glawiad, yn enwedig yn ystod y tymor sych.
Grwpiau teuluol o eliffantod
Meddai Rhea,
“Pe bai’r glawiad yn uwch na’r arfer wrth symud i mewn i’r tymor sych, roedd yn well gan yr eliffantod gadw at eu cynefinoedd, gan arbed eu hegni a manteisio ar ansawdd a chyflenwad helaeth o lystyfiant.”
Dim ond pan leihaodd y glawiad yn y cyfnod annisgwyl hwn wrth symud o'r tymor gwlyb i’r tymor sych, y dechreuodd yr eliffantod chwilio am y bwyd oedd ar ôl a manteisio ar ardaloedd newydd o'u cynefin. Mae'n ymddangos bod yr eliffantod yn Kruger yn addasu eu hymddygiad symud tymhorol yn unol ag amodau amgylcheddol i sicrhau eu bod yn gallu bodloni eu gofynion egnïol a maethol sylweddol. Mae angen i fenyw llawn dwf fwyta tua 150 kg o fwyd y dydd.
Ychwanegodd yr Athro Rob Slotow (UKZN), cydweithredwr a darparwr data allweddol,
“Yn safanau Affrica, mae newid hinsawdd yn ysgogi mwy o amrywiad mewn patrymau glawiad a thymheredd uwch. Mae deall sut mae eliffantod yn ymateb i’r newidiadau hyn, yn enwedig i sychder amlach a phrinder bwyd, yn chwarae rhan hollbwysig mewn cadwraeth rhywogaethau.”
Fodd bynnag, gallai newidiadau i symudiadau gael effaith ar rywogaethau eraill, a gall hefyd fod yn her mewn ardaloedd lle mae’r cynefin eisoes yn dameidiog a lle mae llawer o wrthdaro gyda bodau dynol.
Dywedodd y cydawdur Graeme Shannon,
“Mae’r canlyniadau’n hynod ddiddorol, gan ei bod yn ddiddorol iawn gweld sut mae eliffantod yn dangos defnydd mor gyson o gynefinoedd allweddol, er gwaethaf eu cyrff mawr a diet cyffredinol iawn.”