Bydd arbenigwr blaenllaw mewn llenyddiaeth Arthuraidd yn dychwelyd i Brifysgol Ïã¸ÛÁùºÏ²Ê¹ÒÅÆ×ÊÁÏ ar Chwefror 8fed i ddatgelu manylion am y Brenin Arthur ac am frwydr arwyddocaol a gymerodd lle rhwng y Brythoniaid a’r Eingl-sacsoniaid.
Mae dyddiad a lleoliad y frwydr allweddol hon wedi achosi cryn benbleth i arbenigwyr y cyfnod. Yn ei ddarlith gyweirnod i nodi pumed pen-blwydd Canolfan Astudiaethau Arthuraidd, ‘King Arthur's Masterpiece: The Battle of Badon’ bydd yr Athro P.J.C. Field yn dweud wrthym yn union leoliad, pa bryd a sut y brwydrwyd y frwydr, a hyd yn oed am Arthur.
Gofynnir i bobl sydd am fynychu’r ddarlith yn Narlithfa Eric Sunderland ym Mhrif Adeilad Prifysgol Ïã¸ÛÁùºÏ²Ê¹ÒÅÆ×ÊÁÏ am 17.00 gofrestru o flaen llaw drwy e bost at arthur@bangor.ac.uk
Fel yr esbonia’r Athro Peter Field,
“Roedd y Brenin Arthur real yn arweinydd yn y rhyfel rhwng y Brythoniaid a’r goresgynwyr Eings-sacsonaidd yn y bumed ganrif. Brwydr Badon oedd ei fuddugoliaeth fwyaf. Er ei bod bellach yn angof, mae ei heffeithiau yn dal i fod gyda ni.â€
Fel yr esbonia’r Athro Raluca Radulescu, Cyfarwyddwr y Ganolfan,
"Mae brwydr Badon yn allweddol i fuddugoliaethau Arthur yn Historia Brittonum, sef gwaith gan Nennius, mynach o’r 9fed ganrif. Hon yw buddugoliaeth olaf Arthur yn erbyn y Sacsoniaid, sydd wedi bod yn ysbrydoliaeth i sawl awdur ffuglen a hanes i ddatblygu delwedd o frenin a ddylanwadodd ar ei elynion ac oedd yn ennyn dewrder yn ei gydwladwyr, i ddyfynnu William o Malmesbury, hanesydd o’r 12fed ganrif.â€
O 1964 hyd ei ymddeoliad yn 2004, bu’r Athro Field yn darlithio yn Ysgol Llenyddiaeth Saesneg ac yn cyfarwyddo’r MA Llenyddiaeth Arthuraidd unigryw. Arweiniodd ei 50 mlynedd o ysgolheictod ar Syr Thomas Malory, yr awdur rhamantau o’r bymthegfed ganrif, at gyhoeddr argraffiad llawn o Le Morte Darthur gan Malory yn 2013. Gwasanaethodd yr Athro Field hefyd fel Llywydd y Gymdeithas Arthuraidd Ryngwladol (2002-2005), ac mae wedi gwneud ymchwil yn ddiweddar i ganfod gwir leoliad Camelot.
Mae’r ddarlith yn nodi i ail-lansiad y Ganolfan, mewn digwyddiad sy’n dathlu gwaith ein staff a’n myfyrwyr presennol, ond hefyd yn canolbwyntio ar waith un o ysgolheigion Arthuraidd mwyaf blaenllaw Prifysgol Ïã¸ÛÁùºÏ²Ê¹ÒÅÆ×ÊÁÏ, yr Athro Emeritws P.J.C. Field
Mae Canolfan Astudiaethau Arthuraidd, Prifysgol Ïã¸ÛÁùºÏ²Ê¹ÒÅÆ×ÊÁÏ yn gyfnewidfa ymchwil ryngwladol. Ein nod yw caniatáu i ysgolheigion academaidd ac ymchwilwyr lleyg ddod ynghyd i rannu arbenigeddau ar y chwedlau Arthuraidd, o gyfryngau print, llawysgrifol a gweledol o bob cyfnod, drwy amrywiaeth o ddulliau damcaniaethol. O'r herwydd mae'n sianelu degawdau o ymchwil Arthuraidd o'r radd flaenaf ym Mangor yn y Gymraeg a'r Saesneg. Fe’i lansiwyd yn ffurfiol ym mis Ionawr 2017 ac ers hynny mae llu o weithgareddau, gan gynnwys ymchwil, effaith a digwyddiadau ymgysylltu, wedi’u cynnal.
Bydd Cymrodoriaeth P.J.C. Field hefyd yn cael ei lansio yn y digwyddiad. Crëwyd cronfa’r Gymrodoriaeth i gefnogi ymchwilwyr gwadd sy’n dymuno cydweithio â’n hymchwilwyr, a defnyddio adnoddau digyffelyb y Ganolfan a’i chasgliadau.
Ar y noson bydd cyfle i weld detholiad o lyfrau prin o’n casgliadau Arthuraidd, mewn arddangosfa arbennig wedi curadu ar gyfer y digwyddiad gan yr Athro Raluca Radulescu, cyd-gyfarwyddwr y Ganolfan. Bydd hefyd bosteri ymchwil a chyflwyniadau gan ein hymchwilwyr ôl-raddedig.