Myfyrwyr yn creu cynnyrch gan ddefnyddio gwlân cynaliadwy o Gymru
Derbyniodd myfyrwyr Dylunio Cynnyrch ym Mhrifysgol ϲʹ her gan y project 'Gwnaed â gwlân', a gyllidir gan Lywodraeth Cymru, i greu cynnyrch arloesol gan ddefnyddio gwlân o Gymru. Atebodd y myfyrwyr yr her drwy gynhyrchu gwarchodwyr mwd beiciau mynydd, esgyll bwrdd syrffio a phowlen ffrwythau, ymhlith pethau eraill.
Nod y project yw gwireddu potensial gwlân fel deunydd naturiol, cynaliadwy ac amlbwrpas a heriwyd y myfyriwr i gynhyrchu naill ai cynnyrch newydd neu i ystyried defnyddio gwlân yn lle deunydd sy'n bodoli eisoes.
Dyluniodd Bryn Richards o Swydd Lincoln handlenni i beiriannau ymarfer corff, sy'n dangos cryfder gwlân. Eglurodd Bryn, “Cafodd yr handlenni eu creu trwy gywasgu resin i wlân o Gymru mewn mowld dwy ran i adeiladu defnydd gweuedig cryf. Yna cafodd y ddau hanner eu gludo a'u bolltio at ei gilydd i greu handlen gref. Mae’r project hwn wedi fy ngalluogi i ymchwilio i’m menter fusnes, Malosi Gym Equipment, sydd dim ond megis dechrau, ond rwy’n gobeithio mynd â’r cynnyrch i’r cam gweithgynhyrchu ar ôl i mi gwblhau fy ngradd.”
Cyfunodd Leanne Melia o Gaerlŷr wlân â gwymon o’r ardal leol i greu deunydd cynaliadwy y gellir ei gompostio i gymryd lle plastig. Meddai Leanne, “Mae torri’r gwymon i lawr a haenu’r gwlân gyda’i gilydd, yn rhoi strwythur cyfansawdd i’r defnydd sy’n ei wneud yn gryf a gwydn. Mae ychwanegu haen denau o epocsi yn golygu bod y deunydd yn gallu gwrthsefyll dŵr a’i fod yn ddiogel i gadw bwyd ynddo, sy'n golygu bod ganddo hyd yn oed mwy o ddefnyddiau. Gellid defnyddio'r broses hon ar gyfer pob math o gynnyrch pob dydd ond canolbwyntiais ar eitemau cegin, yn benodol powlen ffrwythau. Dyma’r tro cyntaf i mi weithio gyda gwlân a gwymon, felly mae'r project wedi gwneud i mi werthfawrogi y gellir troi unrhyw ddeunydd yn rhywbeth arall, a gellir creu cynnyrch gyda bron unrhyw ddeunydd. Mae digonedd o wlân ar gael, ac mae’r project hwn wedi dangos y gellir ei ddefnyddio at bwrpas gwahanol ac y gall fod yn ddeunydd amlbwrpas a chynaliadwy.”
Datblygodd Gwion Roberts o Waunfawr, sy’n syrffiwr brwd, asgell i fwrdd syrffio. Meddai “Cyfunais wlân ag epocsi a’i roi mewn mowld i greu asgell gyda nodweddion tebyg i asgell wedi ei gwneud o ffibr carbon a ffibr gwydr. Gan fod sbwriel un dyn yn drysor i ddyn arall, gallai defnyddio gwlân fel deunydd amgen helpu’r diwydiant gweithgynhyrchu mewn ardaloedd mwy gwledig gan ei fod ar gael yn rhwydd.”
Mae Gwnaed â Gwlân yn broject Cymru gyfan dan arweiniad Menter Môn gyda chyllid gan Lywodraeth Cymru ac mae’n dod â rhwydwaith eang o randdeiliaid ynghyd sy’n cynrychioli pob rhan o’r gadwyn cyflenwi gwlân. Cynlluniwyd y project gyda’r nod o ddod â rhanddeiliaid gwlân o Gymru ynghyd i wireddu potensial gwlân fel deunydd naturiol, cynaliadwy ac amlbwrpas, trwy adeiladu ar ei dreftadaeth gyfoethog, gwella dealltwriaeth, hwyluso cydweithio a chynnig atebion cynnyrch arloesol i heriau cyfredol.
Meddai Aled Williams, darlithydd Dylunio Cynnyrch ac arweinydd y project, “Roedd hwn yn gyfle gwych i’r myfyrwyr archwilio prosesau gweithgynhyrchu modern yn ein gweithdy a hefyd gweithio ar friff byw sydd â chyrhaeddiad cenedlaethol fel rhan o’i agenda.”
Meddai Elen Parry, rheolwr project Gwnaed â Gwlân, “Mae cost cneifio wedi bod yn fwy na’r pris mae ffermwyr yn ei gael am gnu ers peth amser. Gydag ymwybyddiaeth gynyddol o broblemau’n ymwneud â’r amgylchedd a’r hinsawdd, rhaid i ni edrych ar frys ar ffyrdd newydd o ddefnyddio deunyddiau naturiol fel gwlân i greu cynhyrchion cynaliadwy. Mae myfyrwyr Dylunio Cynnyrch ϲʹ wedi meddwl am syniadau dyfeisgar a fydd yn arddangos gwlân Cymru fel sgil-gynnyrch amrywiol a chynaliadwy y gellir ei ddatblygu i ddiwallu anghenion cynhyrchu masnachol yn y dyfodol.”