Project Transship II yw’r project ôl-osod mwyaf o’i fath hyd yma a bydd yn gweld y Prince Madog yn cael ei ôl-osod gyda system gyriant hybrid trydan hydrogen a fydd yn galluogi gweithrediad allyriadau sero i isel erbyn 2025.
Mae'r project yn rhan o Rownd 3 Cystadleuaeth (CMDC3), a ariennir gan yr Adran Drafnidiaeth mewn partneriaeth ag Innovate UK. Bydd yn cael ei gyflwyno gan gonsortiwm o arloeswyr mawr y Deyrnas Unedig mewn technoleg forwrol werdd a systemau hydrogen, dan arweiniad OS Energy sy’n berchen ar, ac yn gweithredu, fflyd o longau gwasanaeth alltraeth pwrpasol.
Mae partneriaid eraill y consortiwm yn cynnwys H2Tec, rhan o’r arbenigwr technolegau hydrogen o Gaeredin, Logan Energy, yn ogystal â Solis Marine Engineering, Newcastle Marine Services, Chartwell Marine, Cedar Marine, Stone Marine Propulsion a phrifysgolion Caerwysg a Newcastle-Upon-Tyne. Cefnogwyd y consortiwm yn ei gais gan Menter Môn, datblygwr Canolfan Hydrogen Caergybi, partner cyflenwi hydrogen gwyrdd lleol posibl ar gyfer y consortia.
Yn ddiweddar, dathlodd y Prince Madog, sy’n eiddo ar y cyd gan Brifysgol ϲʹ yng Nghymru, 20 mlynedd o wasanaeth i addysg a gwyddoniaeth. Mae'r llong ymchwil wedi newid y ffordd yr ydym yn deall gwyddorau môr ac arfordirol a dyma'r unig un o'i bath yn y Deyrnas Unedig ac un o'r rhai mwyaf yn Ewrop.
Bydd y system gyriant hydrogen newydd, a fydd yn gweithio ar y cyd â phrif injan tanwydd disel, yn galluogi gweithrediad allyriadau sero ar gyflymder araf neu dros bellteroedd byr - megis teithiau dysgu dyddiol gyda myfyrwyr o Ysgol Gwyddorau Eigion Prifysgol ϲʹ. Mewn gweithrediad arferol, bydd y system hybrid a dyluniad gyriant newydd yn lleihau allyriadau hyd at 60%.
Yn ôl Offshore Renewable Energy Catapult (), amcangyfrifir y bydd y sector cymorth alltraeth werth £26 biliwn erbyn 2050 ac y bydd angen 1,200 o longau ychwanegol i wasanaethu diwydiant y Deyrnas Unedig a chefnogi’r newid i sero net erbyn 2050.
Mae tua 90% o'r holl nwyddau traul yn cael eu symud ar y môr, ac mae'r diwydiant llongau yn fyd-eang yn gyfrifol am 940 miliwn tunnell o CO2 - sy'n cyfateb i o leiaf 2.5% o gyfanswm allyriadau CO2 y byd.
Mae’r Sefydliad Morwrol Rhyngwladol wedi gosod targed i dorri’r allyriadau hyn 50% erbyn 2050 a llywodraeth y Deyrnas Unedig yw’r gyntaf yn y byd i gynnwys allyriadau o forgludiant rhyngwladol yn ei chyllideb garbon ddomestig.
Dywedodd Martin Nuernberg, Rheolwr-Gyfarwyddwr : “Mae OS Energy wrth ei fodd i fod yn arwain y project arloesol hwn sy’n cydosod consortiwm cryf o arloeswyr blaenllaw yn y diwydiant i wthio ffiniau systemau gyriant morwrol traddodiadol a pharatoi’r ffordd ar gyfer dyfodol glanach a mwy cynaliadwy i’r diwydiant llongau. Mae project Transship II yn destament i'n hymrwymiad i arloesi a chyfrifoldeb amgylcheddol a bydd yn dangos potensial defnyddio technoleg werdd yn y diwydiant morwrol."
Dywedodd yr Athro John Turner, Pennaeth Ysgol Gwyddorau’r Eigion Prifysgol ϲʹ:
“Gyda ffocws o’r newydd ar ddiwydiant ynni adnewyddadwy’r môr, mae hwn yn ddatblygiad cyffrous i’w groesawu i’r Prince Madog o ran hwyluso ein haddysgu a’n hymchwil. Gydag uchelgais i fod yn arweinwyr yn y maes hwn, mae’n briodol bod ein llong yn symud drosodd i dechnoleg flaengar sy'n lleihau allyriadau'n sylweddol. Mae lleihau ein hôl-troed carbon drwy symud drosodd i bŵer hydrogen yn golygu y gall Prifysgol ϲʹ barhau i adeiladu ar ein dealltwriaeth o’r amgylchedd a lleoliad ffisegol safleoedd ynni morol mewn ffordd gynaliadwy.”
Dywedodd Dafydd Gruffydd, Rheolwr-Gyfarwyddwr Menter Môn: “Mae hyn yn newyddion gwych i’r consortia a Menter Môn gan ei fod yn rhoi’r cyfle i ni gefnogi ehangu economi gylchol hydrogen werdd leol sy’n dod i’r amlwg o’n cyfleuster cynhyrchu Canolfan Hydrogen Caergybi ym Mharc Cybi, sy’n cael ei ddatblygu ar hyn o bryd. Bydd hyn yn cael ei bweru gan ein isadeiledd ynni llanw Morlais gan ddarparu ateb gwirioneddol wyrdd i gludiant ac ynni morol a fydd er budd yr economi leol.”
Dywedodd Aelod Portffolio Newid Hinsawdd Cyngor Ynys Môn, y Cynghorydd Nicola Roberts, “Mae'r fenter hon yn gam cadarnhaol ar y daith i ddatblygu economi carbon isel ar Ynys Môn ac mae hefyd yn cyd-fynd â rhaglen Ynys Ynni Môn. Rydym yn falch iawn o weld y bydd y project arloesol hwn yn galluogi llong ymchwil y Prince Madog i gael ei phweru gan hydrogen, gan leihau allyriadau CO2 a datblygu ateb ynni glanach i’r diwydiant llongau.”
Mae'r Prince Madog yn llong ymchwil amlbwrpas a ddefnyddir i gynnal ymchwil môr ar hyd arfordir Prydain ac ym Môr Iwerddon a'r Môr Celtaidd. Fel yr unig long ymchwil morwrol yn y Deyrnas Unedig, fe'i defnyddir yn aml i hyfforddi gwyddonwyr môr y dyfodol ym Mhrifysgol ϲʹ a thu hwnt.
Disgwylir i'r gwaith ôl-osod, a fydd yn cymryd hyd at ddwy flynedd, ddechrau ym mis Ebrill. Unwaith y bydd wedi'i gwblhau, bydd y Prince Madog yn derbyn hydrogen o Ganolfan Hydrogen Caergybi ar Ynys Môn, Gogledd Cymru.