Mae manteision iechyd afalau yn cael eu defnyddio i’w llawn botensial fel cynhwysyn iach ar gyfer y diwydiant bwyd a diod.
Mae afalau yn llawn maetholion sy’n fuddiol i’ch iechyd a lles; ffibr, fitaminau, siwgrau ffrwythau a gwrthocsidyddion. Mae Prifysgol ϲʹ yn cydweithio gyda Pennotec o Bwllheli, a’r pobydd The Pudding Compartment, Fflint gan ddefnyddio echdynion afalau i wneud rhai o hoff fwydydd y genedl yn iachach, heb gyfaddawdu o ran blas.
Mae dau ddigwyddiad blasu yn cael eu cynnal i nodi penllanw’r prosiect arloesol hwn i greu fersiynau iachach o rai o’n hoff felysion wedi eu pobi gan gynnwys brownis siocled, pice ar y maen, fflapjacs a chwcis ceirch.
Bydd y digwyddiad blasu cyntaf yng ngwneuthurwyr seidr Jaspels, Aberffraw, Ynys Môn ar ddydd Sadwrn 25ain Mawrth 2023. Dilynir hyn gan sesiwn flasu fwy ym mharc gwyddoniaeth M-SParc ger Gaerwen ar ddydd Mawrth 28ain Mawrth. Mae croeso i bawb ddod i flasu’r opsiynau iachach a rhannu eu barn.
Mae’r prosiect cydweithredol yn rhan o weithgareddau Isadran Bwyd a Diod Llywodraeth Cymru i gefnogi datgarboneiddio’r diwydiant bwyd a Her Adferiad Covid, sy’n cefnogi ymdrechion diwydiant bwyd Cymru i gynorthwyo adferiad y wlad o Covid drwy fwydydd iachach, mwy cynaliadwy.
Dywedodd Adam Charlton o Ganolfan Biogyfansoddion Prifysgol ϲʹ,
“Dyma enghraifft wych o sut y gellir troi sgil-gynnyrch a allai gael ei daflu fel arall, sef ‘pomace’ afal yn yr achos hwn - y gweddillion solet sy’n weddill ar ôl gweithgynhyrchu sudd afal, yn rhywbeth hynod ddefnyddiol.
"Rydyn ni wedi bod yn gweithio gyda Pennotec a The Pudding Compartment ar ddatblygu’r cynnyrch ffibr afal ei hun, a hefyd lleihau’r lliw yn y ffibr afal, fel y gellir ei ddefnyddio mewn cymwysiadau bwyd eraill lle mae angen hynny.”
Dywedodd Jonathan Hughes o Pennotec, “Sefydlwyd y gronfa Her Datgarboneiddio ac Adfer Covid i gefnogi defnydd mwy cynaliadwy o adnoddau bwyd Cymreig i ddatblygu bwydydd iachach ar gyfer ein poblogaeth.
“Datblygu cadwyni cyflenwi lleol a defnyddio adnoddau bwyd lleol a fyddai fel arall yn cael eu gwaredu yw’r ffordd orau o ddatgarboneiddio’r diwydiant bwyd a gwella lles ein cymunedau.”
Bydd y melysion wedi eu pobi ar gyfer y digwyddiad yn cael eu cynhyrchu gan The Pudding Compartment, Y Fflint – cynhyrchydd blaenllaw nwyddau wedi’u pobi â llaw ar gyfer y diwydiant gwasanaeth bwyd.
Dywedodd Steve West, Rheolwr Gyfarwyddwr The Pudding Compartment,
“Rydym yn gyffrous iawn i fod yn gweithio ar y prosiect cydweithio arloesol hwn a fydd yn agor marchnadoedd gwerthu newydd gan ei fod yn bodloni rhai tueddiadau hynod bwysig o ran cwsmeriaid.
“Rydym wedi bod wrth ein bodd gydag ansawdd y cynnyrch sydd, yn ein barn ni, yn well na llawer o'r cynhyrchion braster/siwgr uwch ar y farchnad. Bydd yn wych cael adborth o’r byd go iawn i weld a yw darpar gwsmeriaid yn cytuno!”
Mae’r cynhwysion afal; suropau afalau a ffibrau iach, yn disodli hyd at 40% o frasterau a siwgrau mewn bwydydd parod, ac fe’u cynhyrchir gan ddefnyddio afal wedi’i wasgu o seidr a sudd afal gan gwmni arobryn Jaspel’s Anglesey Cider.
Ymwelwch â Jaspel’s, Aberffraw o 12pm tan 4pm ddydd Sadwrn 25 Mawrth 2023 neu barc gwyddoniaeth M-SParc ger Gaerwen o 10am tan 12pm ddydd Mawrth 28 Mawrth 2023 i roi cynnig ar y danteithion newydd blasus hyn a rhoi eich barn ar werth bwydydd iachus.
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â enquiries@pennotec.com