Mae Achrediad Rhyngwladol Cadwraeth y Gerddi Botaneg (BGCI) ar gyfer sefydliadau botanegol sy'n dymuno sefydlu eu rhinweddau ac mae cyflawni鈥檙 achrediad yn dangos bod yr Ardd yn cydymffurfio 芒'r safonau rhyngwladol uchaf fel gardd fotaneg.
Dywedodd y curadur, Natalie Chivers, 鈥淒yma benllanw dros ddwy flynedd o waith i ddangos ein bod yn bodloni鈥檙 meini prawf llym i ennill cydnabyddiaeth y BGCI fel Gardd Fotaneg Achrededig, sy鈥檔 ein gosod ar y llwyfan rhyngwladol gyda gerddi botaneg eraill o fri fel Gardd Fotaneg Frenhinol Caeredin, Gardd Fotaneg Prifysgol Caergrawnt, yr Eden Project a鈥檙 ardd sy鈥檔 bartner inni yng Nghymru, Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru, ymhlith llawer o sefydliadau eraill o bwys ledled y byd. Bu Paul Smith, Swyddog Cofnodion Planhigion gwirfoddol, wrthi am fisoedd lawer yn casglu ac yn paratoi鈥檙 dystiolaeth ac yn cysylltu 芒 BGCI a rhanddeiliaid eraill, i鈥檔 helpu ni lunio鈥檙 cais a鈥檌 gyflwyno. Dyma lwyddiant i鈥檙 Ardd Fotaneg ar y cyd 芒 Chyfeillion Gardd Fotaneg Treborth, sy鈥檔 darparu miloedd o oriau o gymorth gwirfoddol i鈥檙 Ardd bob blwyddyn鈥.
Caiff Gerddi Botaneg sy'n gwneud cais am Achrediad eu hasesu ar feini prawf sy'n cwmpasu arweinyddiaeth, arbenigedd garddwriaethol arbenigol, rheoli casgliadau, addysg gyhoeddus, gweithgareddau cymunedol a diwylliannol, gweithredoedd cadwraeth, ymchwil gwyddonol, staff, rhwydweithio a chynaliadwyedd.
Dywedodd Paul Smith, 鈥淧an welais yr ohebiaeth oddi wrth BGCI yn dweud y bu鈥檙 cais yn llwyddiannus, roeddwn wrth fy modd ac roedd yn rhyddhad hefyd. Bu鈥檔 broses fanwl iawn a oedd cwmpasu llawer o wahanol agweddau o Dreborth nad oeddwn wedi鈥檜 gwerthfawrogi鈥檔 llawn cyn dechrau helpu gyda鈥檙 gwaith hwn. Yn ogystal 芒 darparu crynodeb a throsolwg o gasgliad planhigion Treborth, rydym wedi cyflwyno rhestrau o ddwsinau o bapurau ymchwil a thraethodau ymchwil a wnaed yn Nhreborth, sy鈥檔 dogfennu鈥檔 fanwl ein cyfraniad helaeth at addysg myfyrwyr prifysgol a鈥檙 cyhoedd, ac eglurodd ein r么l o ran lles ymwelwyr, a rhoddodd dystiolaeth o鈥檔 gwaith cadwraeth ar nifer o rywogaethau prin iawn megis y Cotoneaster cambricus sydd mewn perygl difrifol ac sy'n tyfu ar y Gogarth yn unig a hynny dim ond 20 milltir ar hyd yr arfordir o'r Ardd Fotaneg. Dyma gydnabyddiaeth haeddiannol i bopeth a gyflawnodd Treborth a phroffesiynoldeb y staff a鈥檙 gwirfoddolwyr.鈥
Mae BGCI yn gweithio gyda dros 800 o erddi botaneg mewn 118 o wledydd, y mae eu gwaith cyfunol yn ffurfio鈥檙 rhwydwaith cadwraeth planhigion mwyaf yn y byd. Daw鈥檙 Achrediad 60 mlynedd ar 么l sefydlu Gardd Fotaneg Treborth ac mae鈥檔 nodi cyfnod newydd cyffrous yn ei datblygiad o fewn y Brifysgol a鈥檙 gymuned gadwraeth fyd-eang.