Ysgol Busnes Ïã¸ÛÁùºÏ²Ê¹ÒÅÆ×ÊÁÏ yn cael ei chynrychioli mewn Cynhadledd EFiC yn yr Eidal
Ym mis Gorffennaf, bydd Ayan Orujov, un o aelodau’r gyfadran, yn cynrychioli’r Ysgol Fusnes mewn Cynhadledd flaenllaw yng Nghanolfan Gyllid Essex (EFiC) mewn Bancio a Chyllid Corfforaethol yn Gaeta, Yr Eidal. EFiC sy’n trefnu’r gynhadledd a hynny yn Ysgol Fusnes Essex a’r Laboratory of Bank, Business, Finance, and Ethics (BifeLab). Bydd yn cynnwys cyfuniad arbennig o academyddion, ymarferwyr a llunwyr polisi blaenllaw.
Rhannwch y dudalen hon
Mae Ayan a Laurence yn defnyddio ffenomenau chwaraeon a'u heffaith ar gymdeithas, i archwilio'r buddugoliaethau annisgwyl a difyr mewn chwaraeon a'u heffaith bosibl ar fasnachu buddsoddwyr manwerthu. Maent yn cynnig y gall canlyniadau annisgwyl mewn chwaraeon, sy’n groes i’r disgwyl, roi hwb sylweddol i hwyliau buddsoddwyr manwerthu, gan arwain at brynu mwy o stoc. Yr hyn sy’n allweddol i’r ymchwil yw’r syniad bod sentiment yn ysgogi penderfyniadau buddsoddwyr manwerthu. Roedd hynny’n amlwg iawn yng ngwallgofrwydd diweddar y 'memynnau-stoc'.
Mae'r papur yn ceisio darganfod yr elfennau seicolegol sy'n sail i'r gefnogaeth i'r tîm gwan. Mae’n gwahanu buddugoliaethau’r timau gwan yn erbyn y timau sydd gasaf gan bobl gan ddangos mai Schadenfreude — pleser sy’n deillio o anffawd rhywun arall — yw’r effaith amlycaf, yn enwedig i’r canlyniadau chwaraeon mwyaf annisgwyl.
Mae'r ymchwil yn ymchwilio i hyd yr hwb i sentiment a ddaw yn sgil buddugoliaethau chwaraeon annisgwyl, a'r effaith ar ymddygiad buddsoddwyr manwerthu ac, o bosibl, enillion ar y farchnad stoc. Maent hefyd yn archwilio sut y gall nodweddion stoc penodol eu gwneud yn fwy agored i newidiadau mewn sentiment.
Mae ymchwil Ayan a Laurence i'r maes newydd hwn yn cyfrannu'n sylweddol at y llenyddiaeth ar effaith hwyliau achlysurol ar benderfyniadau buddsoddwyr ac effaith digwyddiadau chwaraeon ar fuddsoddwyr a'r farchnad stoc. Mae'n cryfhau ein dealltwriaeth o rôl sentiment ar ymddygiad buddsoddwyr manwerthu.
Mae'r papur yn addo ychwanegu dimensiwn newydd i'n dealltwriaeth o'r cydadwaith cymhleth rhwng y marchnadoedd ariannol ac elfennau cymdeithasol. Mae Cynhadledd EFiC mewn Bancio a Chyllid Corfforaethol yn llwyfan wych i’r archwiliad, trwy feithrin trafodaethau difyr a chyfleoedd am adborth gan amrywiol arbenigwyr yn y maes. Rydym yn hyderus y bydd cyfranogiad Ayan yn fanteisiol i’r Ysgol ac yn cyfrannu’n ystyrlon at ymchwil yn y maes.