Academi Gwyddor Marchnata yn New Orleans
Mynychodd aelod o Grŵp Cynllunio Ymchwil Deall Defnyddwyr, Dr Sonya Hanna, Gynhadledd Flynyddol 2023 yr Academi Gwyddor Marchnata yn New Orleans ym mis Mai.Ìý
Marketing for better cities: setting the agenda for responsible, inclusive, smart, and equitable places.ÌýAcademi Gwyddor Marchnata (sesiwn banel arbennig).
Mynychodd aelod o Grŵp Cynllunio Ymchwil Deall Defnyddwyr, Dr Sonya Hanna, Gynhadledd Flynyddol 2023 yr Academi Gwyddor Marchnata yn New Orleans ym mis Mai.Ìý Nod y digwyddiad oedd gosod y sylfeini ar gyfer cyswllt pendant rhwng marchnata lleoedd a chynaliadwyedd economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol lleoedd; i fframio’n ddamcaniaethol densiynau a chyfaddawdau rhwng twf economaidd dinasoedd a rhanbarthau a’u nodau cynaliadwyedd mewn cyfnod ansicr.
Ystyriodd y panel sut y daeth y pandemig yn dir ffrwythlon ar gyfer adfywio'r sylw a roddir i gynaliadwyedd a chyflymu trawsnewidiadau digidol mewn dinasoedd a rhanbarthau. Trafodwyd hefyd sut yr ysgogodd Covid-19 newidiadau sylweddol mewn arferion marchnata a defnyddio, a gadael ei ôl ar bob agwedd ar ymgysylltiad pobl â lleoedd. Bu trafodaethau hefyd am rymuso defnyddwyr, a sut mae ehangu cyfleoedd ar gyfer ymgysylltu â rhanddeiliaid wedi deillio o ddatblygiad cyflym technoleg gwybodaeth a chyfathrebu, a’r arferion ‘cyfunol’ cynyddol o ddefnyddio lleoedd (e.e., ar gyfer gwaith, astudio, ymweld, a siopa), sydd, bob un, wedi mynnu dulliau ac arferion newydd o farchnata lle.Ìý Yn olaf, cafwyd trafodaeth hefyd ynghylch yr ymwybyddiaeth gynyddol o gynaliadwyedd cymdeithasol sy’n ysgogi’r maes marchnata a brandio lleoedd i weithredu o dan bwysau democrataidd sy’n gymdeithasol sensitif, er mwyn darparu ar gyfer anghenion y rhai mwyaf bregus ac i ganiatáu i breswylwyr gyfrannu at benderfyniadau sy’n effeithio ar ddyfodol y lle. Mae'r tueddiadau hyn wedi ail-lunio a chryfhau'r berthynas angenrheidiol rhwng marchnata, polisi cyhoeddus a'r buddiannau cyfunol.
Sbardunodd y digwyddiad drafodaethau rhwng ysgolheigion a oedd yn canolbwyntio ar arferion marchnata cyfrifol, cynhwysol, craff a theg.ÌýYn ogystal â’r rhai sy’n gweithio’n uniongyrchol ym maes marchnata a brandio lleoedd, roedd y digwyddiad yn arbennig o berthnasol i academyddion ym meysydd twristiaeth, lletygarwch, adwerthu a gwasanaethau, y sector cyhoeddus, a chynaliadwyedd.
Prif gyflwyniadau:
- Sustainability: the challenge of boosting a collective sense of IdentityÌýin a global crisis (Sonya Hanna,ÌýPrifysgol Ïã¸ÛÁùºÏ²Ê¹ÒÅÆ×ÊÁÏ)
- The Challenge of Scale (Dominic Medway, Prifysgol Fetropolitan Manceinion)
- Ethics of Vulnerability: an approach to place branding (Cecilia Cassinger, Prifysgol Lund, Sweden).
- City Branding Beyond Greenwashing and Deceptive Social Advertising (Martin de Jong, Prifysgol Erasmus, yr Iseldiroedd).
Cadeiryddion y Panel: Mihalis Kavaratzis (Prifysgol Fetropolitan Manceinion) a Cecilia Pasquinelli (Prifysgol Napoli Parthenope, yr Eidal).
Ìý