Mae’r Adran dros Ddiogelwch Ynni a Sero Net wedi comisiynu Arup, yr ymgynghoriaeth datblygu cynaliadwyedd byd-eang, y Labordy Niwclear Cenedlaethol, labordy’r Deyrnas Unedig ar gyfer ymholltiad niwclear, a’r Sefydliad Dyfodol Niwclear ym Mhrifysgol ϲʹ i gydweithio i nodi a mapio’r deunydd hanesyddol sydd ar gael o ran ymchwil, datblygu a chyflwyno niwclear, a allai gefnogi datblygiad a darpariaeth Uwch Dechnolegau Niwclear fel rhan o’r amrywiaeth ynni carbon isel diogel.
Mae’r project Casglu Gwybodaeth am Adweithyddion Modiwlaidd Uwch wedi'i gynllunio i gefnogi rhaglen ymchwil, datblygiad a darpariaeth Adweithyddion Modiwlaidd Uwch a chyflwyniad ehangach o’r adweithyddion hynny yn y Deyrnas Unedig, er mwyn helpu i gyflawni targed allyriadau nwy sero net y llywodraeth erbyn 2050. Bydd y project â’r nod o helpu i leihau’r amser, y risg a’r gost o’u datblygu a’u darparu trwy ledaenu'r wybodaeth a galluogi sefydliadau yn y Deyrnas Unedig i gael mynediad at gyllido rhyngwladol.
Bydd arbenigwyr gyda’r gorau yn y byd o Arup, y Labordy Niwclear Cenedlaethol a Phrifysgol ϲʹ yn cyd-drafod ag arbenigwyr y diwydiant o bob rhan o’r sector ynni niwclear i nodi, mapio a chatalogio’r wybodaeth sydd ar gael a wnelo â chyfleusterau hanesyddol y Deyrnas Unedig a rhaglenni ymchwil a datblygiad. Gallai'r wybodaeth hanesyddol hon chwarae rhan flaenllaw yn cefnogi'r broses o drawsnewid i system ynni carbon isel, diogel yn y Deyrnas Unedig.
Dywedodd Tim Hawley, Cyfarwyddwr y Project Casglu Gwybodaeth am Adweithyddion Modiwlaidd Uwch: “Mae gan y project hwn y potensial o chwarae rhan bwysig mewn dyfodol ynni carbon isel. Gwyddom fod gan sefydliadau a chydweithwyr yn y sector ynni niwclear gyfoeth o wybodaeth rhyngddynt, ac mae hyn yn fater o ganfod y wybodaeth honno a'i chatalogio.
“Mae gennym arbenigwyr o Arup, y Labordy Niwclear Cenedlaethol a Phrifysgol ϲʹ yn gweithio ar y mater, ond byddwn hefyd angen cyfraniad gan bob rhan o’r diwydiant. Bwriad y Project Casglu Gwybodaeth am Adweithyddion Modiwlaidd Uwch yw ymchwilio i sut orau i hwyluso rhannu mwy o wybodaeth ar draws y diwydiant niwclear ym maes Uwch Dechnoleg Niwclear, er mwyn i’r sector cyfan allu elwa. Bydd ein timau yn chwilio am gefnogaeth bellach maes o law.”
Dywedodd Dr Gareth Headdock, Is-lywydd y Llywodraeth ac Adeiladu Newydd, Labordy Niwclear Cenedlaethol: “Mae hon yn rhaglen hollbwysig i gefnogi uwch dechnolegau niwclear. Bydd yn sicrhau bod degawdau o wybodaeth yn cael ei storio’n ofalus, i gefnogi ein huchelgais niwclear i’r dyfodol. Ni yw’r labordy cenedlaethol y mae’r llywodraeth yn ymddiried ynddo, ac yn hynny o beth rydym yn falch o gefnogi Arup â’n rhwydwaith a’n gallu helaeth i gloddio am ddata.”
Meddai’r Athro Simon Middleburgh, Cyd-gyfarwyddwr Sefydliad Dyfodol Niwclear Prifysgol ϲʹ: “Bydd y fenter hon sy’n cael ei thywys gan yr Adran dros Ddiogelwch Ynni a Sero Net dan arweiniad ARUP yn symbylu’r gadwyn gyflenwi sgiliau hanfodol sy’n ofynnol ar gyfer y genhedlaeth nesaf o arloesi niwclear, gan sicrhau ein bod yn cwrdd â her cynhesu byd-eang a chyflenwad ynni gyda systemau niwclear glân a datblygedig.
“Mae’n gyfnod hynod gyffrous i beirianneg niwclear, gyda chyfleoedd clir i sicrhau effaith wirioneddol ac mae partneriaid y diwydiant yn chwilio am dalent a fydd yn ein harwain at ddyfodol carbon isel. Mae Prifysgol ϲʹ yn falch o fod yn rhan o’r tîm sy’n cyflwyno’r project cyffrous hwn ac yn gwerthfawrogi’r cyfle i gydweithio â phartneriaid blaenllaw ar draws y Deyrnas Unedig.”
I ddysgu mwy, cysylltwch â AMRKnowledgeCapture@arup.com neu ewch i’r dudalen ar wefan y Labordy Niwclear Cenedlaethol (NNL).