Yr wythnos hon bu Gweinidog yr Economi, Llywodraeth Cymru’n ymweld â M-SParc ar Ynys Môn i gyhoeddi Cymorth Llywodraeth Cymru a £2.5 miliwn o gyllid tuag at ail adeilad i’r Parc Gwyddoniaeth arloesol gan barhau ar y daith i greu cyfleoedd economaidd pellach yn y rhanbarth.
Croesawyd y Gweinidog gan Rheolwr Gyfarwyddwr M-SParc, Pryderi ap Rhisiart, i M-SParc i ddysgu mwy am eu gwaith parhaus i gefnogi arloesedd Cymreig i ffynnu.
Yn ddiweddar, cyhoeddodd M-SParc gynlluniau uchelgeisiol ar gyfer ail adeilad ar y safle, M-SParc 2.0, yn dilyn cyfnod cychwynnol llwyddiannus, gyda’r adeilad cyntaf bron â bod yn llawn gyda galw mawr amdano ers i’r drysau agor yn 2018. Mae’r cynllun newydd uchelgeisiol yn cael ei gefnogi ac yn derbyn £2.5 miliwn o gyllid gan Lywodraeth Cymru.
Mae’r cyllid yma’n golygu y gall y prosiect uchelgeisiol nawr gymryd ei gam cyntaf tuag at ddatblygu cyfleuster sy’n canolbwyntio ar arloesi carbon isel a di-garbon, gan sicrhau bod mwy o gwmnïau’n gallu cael mynediad at swyddfeydd a labordai yn ogystal â chyfres lawn o wasanaethau cymorth busnes pwrpasol. Gyda ffocws ar gefnogi cwmnïau ac ymchwil yn y sector carbon isel, clywodd y Gweinidog sut y bydd M-SParc 2.0 yn cefnogi cenhadaeth M-SParc i danio uchelgais ac arloesedd ar gyfer Cymru gynaliadwy.
Clywodd y Gweinidog hefyd am ymweliad diweddar â sefydliad technoleg MIT yn yr Unol Daleithiau, sy’n rhan o bartneriaeth strategol a ffurfiwyd gan Lywodraeth Cymru er mwyn canolbwyntio ar gyflymu datblygiad cysyniadau arloesol, gan helpu’r rhai sy’n cymryd rhan i ehangu eu gwaith a chyrraedd cynulleidfa fyd-eang.
Dywedodd Vaughan Gething, Gweinidog yr Economi, Llywodraeth Cymru:
“Roeddwn wrth fy modd yn ymweld ag Ynys Môn a gweld arloesedd yn ffynnu yn M-SParc. Mae Llywodraeth Cymru yn falch o gefnogi datblygiadau M-SParc 2.0. Gyda'r cyllid hwn, gall M-SParc ehangu ymhellach, creu gyrfaoedd, a darparu cymorth i'r cwmnïau sydd wedi'u lleoli yno. Mae M-SParc yn ganolbwynt ar gyfer arloesi ac entrepreneuriaeth i gyd o dan yr un to. Roedd yn bleser cyfarfod a chlywed gan fusnesau sy’n elwa ar ein partneriaeth â MIT. Edrychaf ymlaen at weld rhagor o lwyddiant ar y safle yn y blynyddoedd i ddod.”
Trafododd y Gweinidog hefyd werth y cysylltiad a sefydlwyd rhwng M-SParc ac MIT. Mae Sefydliad Technoleg Massachusetts (MIT) yn un o sefydliadau ymchwil ac academaidd gorau'r byd, sy'n enwog am ragoriaeth mewn meysydd fel Technoleg, Peirianneg, Gwyddorau ac Arweinyddiaeth. Roedd M-SParc yn gallu rhannu gyda’r Gweinidog sut mae ffocws ar sectorau fel hyn yn cyd-fynd yn berffaith â meysydd arbenigedd M-SParc ei hun, a sut oedd y rhaglen a gefnogir gan Lywodraeth Cymru yn caniatáu i M-SParc fynd â chwmnïau tenantiaid a’r eco-system ehangach draw i MIT i rannu gwybodaeth a meithrin eu cysylltiadau rhyngwladol.
Mae llawer o’r cwmnïau a fynychodd yr ymweliad yn parhau i weithio gyda MIT ar brosiectau a rhaglenni amrywiol, mewn sectorau gan gynnwys Deallusrwydd Artiffisial, gan ddangos gwir werth y rhaglen i fusnesau. Yn ddiweddar, cynhaliodd M-SParc ddigwyddiad hybrid, dros Haia, platfform a grëwyd gan un o denantiaid M-SParc, gyda Dr Phil Budden, uwch ddarlithydd yn MIT yn fyw o Boston. Mae cael mynediad at raglen Cyswllt Diwydiannol drwy Lywodraeth Cymru yn golygu y bydd mwy o ddigwyddiadau fel hyn yn dod i’r amlwg yn ddiweddarach yn y flwyddyn, yn cynnwys MIT, M-SParc a’i holl ecosystem, ac yn ychwanegu budd ychwanegol a gwerthfawr i fusnesau sydd wedi’u lleoli yn M-SParc.
Meddai Pryderi, Rheolwr Gyfarwyddwr M-SParc, "Rydym mor falch o allu cydweithredu fel hyn, sy'n gyfle anhygoel i'n tenantiaid. Gyda'i gilydd, mae'r cyhoeddiadau diweddaraf hyn yn cyfrannu'n fawr at ein gwaith o danio uchelgais yn y rhanbarth, ac mae gwneud hyn ar y cyd yn wych. Dyna sy'n gwneud M-SParc y gartref arloesedd a chyfleoedd. Edrychaf ymlaen i weld M-SParc a'n tenantiaid yn tyfu wrth i ni ehangu ar y safle.”
Dywedodd Yr Athro Paul Spencer, Dirprwy Is-ganghellor Ymchwil ym Mhrifysgol ϲʹ, “Mae enw da byd-eang y Brifysgol am ymchwil ac arloesi yn rhoi cyfle i ddenu busnesau carbon isel i’n Parc Gwyddoniaeth – M-SParc. Yn hollbwysig, bydd datblygiad y safle yn ysgogi’r galw, gan gyflawni'r nod hirdymor o feithrin cymuned fusnes ac ymchwil ffyniannus fydd o fudd i'r rhanbarth cyfan. Mae cynlluniau twf y Parc Gwyddoniaeth yn gam cadarnhaol tuag at ddarparu llwyfan i arddangos arbenigedd a doniau’r ardal ymhellach tra’n dangos ymrwymiad cryf i economi Gogledd Cymru.”
Ers cyhoeddi’r newyddion am y cynlluniau i gael ail adeilad ar y safle, mae M-SParc wedi cynnal digwyddiad cymunedol ‘Drysau Agored’, a oedd yn llawn adolygiadau cadarnhaol ynglŷn â’r datblygiadau, ac yn gyfle i M-SParc a’r tenantiaid ysbrydoli pobl ifanc a'u teuluoedd am gyfleoedd gyrfa yn y rhanbarth.
Os oes gennych unrhyw ymholiadau am y datblygiad, neu os ydych eisiau gwybod mwy am rai o'r prosiectau y mae M-SParc yn gweithio arnynt, cysylltwch â egni@m-sparc.com