Mae llawer o ffermwyr yn chwilio am ffyrdd o gynhyrchu eu cnydau’n fwy cynaliadwy ond gall y gofynion penodol ar gyfer tyfu cnwd tatws ei gwneud hi’n her i ymgorffori tatws mewn cylchdro cynaliadwy. Gellir disgwyl i ganlyniadau'r project TRIP gynnig sawl ffordd i dyfwyr leihau'r hyn sydd ei angen i dyfu cnydau tatws, ynghyd ag effaith y tyfu hwnnw. Mae cydweithio rhwng partneriaid TRIP yn rhoi cyfle cyffrous i ddod â gwahanol feysydd datblygu ynghyd ac i dyfwyr tatws roi gwyddoniaeth ar waith.
Mae angen brys i leihau allyriadau nwyon tŷ gwydr pob sector, gan gynnwys amaethyddiaeth. Bydd y project Innovate UK hwn yn ein galluogi i asesu potensial y strategaethau newydd hyn i leihau allyriadau nwyon tŷ gwydr heb effeithio ar faint cnydau tatws. Mae’r project wedi’i gynllunio i gymharu allyriadau nwyon tŷ gwydr a faint o gnwd a gynhyrchir o ddulliau cynhyrchu confensiynol a newydd drwy gynnal arbrofion ar blotiau ac ar gaeau ffermydd masnachol. Yn ogystal, mae gennym ni gyfle i brofi synhwyrydd mesur nwyon tŷ gwydr newydd gydag un o’n partneriaid project.
Dywedodd Josh Davies o’r Ganolfan Biogyfansoddion ym Mhrifysgol ϲʹ, “Fel ymchwilydd ar ddechrau fy ngyrfa, mae gen i ddiddordeb mawr mewn dulliau gwyddoniaeth a fydd yn helpu i leihau allyriadau nwyon tŷ gwydr yn enwedig yn y sector amaethyddiaeth. Mae'r prosiect TRIP felly yn gyfle gwych i mi ddatblygu fy mhrofiadau ymhellach. Fy rôl fydd helpu i ddatblygu’r prosesau a ddefnyddir i fonitro a phennu allyriadau nwyon tŷ gwydr a mesur y cynnwys nitrogen yn y pridd drwy gydol y prosiect.”
Dywedodd Emma Marshall, Pennaeth Datblygu a Chysylltiadau Alumni ym Mhrifysgol ϲʹ, “Mae’r datblygiadau cyffrous hyn wedi bod yn bosibl drwy’r gefnogaeth i’r prosiect gan gymynrodd a adawyd i Brifysgol ϲʹ gan y cyn-fyfyriwr Dr Trevor Williams. Mae Dr Williams, dderbyniodd doethuriaeth mewn Botaneg Amaethyddol yn 1962, yn enwog fel un o “dadau” yr hyn a elwir y 'Doomsday Vault', sef y yn Norwy, a dyma lle mae miliynau o hadau yn cael eu storio am y dyfodol yn ddwfn o dan rew parhaol yr Arctig. Rydym yn hynod falch o gyflawniadau Dr Williams, ac yn sicr y byddai’n falch o’r hyn y mae ei gymynrodd hael i Fotaneg Amaethyddol ym Mhrifysgol ϲʹ wedi helpu i’w gyflawni.”