Adrian Gepp yn cyflwyno yn y cynhadledd Royal Statistical Society (RSS) 2023
Roedd y Cynhadledd Royal Statistical Society (RSS) 2023 yn Harrogate rhwng Medi 4 a Medi 7. Wnaeth yr Athro Adrian Gepp rhoi dau gyflwyniad yn y gynhadledd. Cyflwynwyd y cyntaf gan un o'i gyd-awduro’n ar y testun "The Quest fôr Optimal Trade Execution: Statistical Models vs Atinforcement Learning". Mae'r ymchwil hwn yn sefydlu fframwaith ac yna'n ei ddefnyddio i gymharu dulliau dadansoddi data traddodiadol â dulliau modern o gyflawni masnach. Yn benodol, y dasg yw sut i brynu (neu werthu) swm penodol o gyfranddaliadau yn fwy proffidiol gydag amserlen benodol. Yn gynt yn y gynhadledd, cafwyd cyflwyniad gan yr Athro Gepp am raglenni blaengar newydd yr Ysgol Busnes ym Mangor ym maes dadansoddi data busnes. Mae dyfyniad o sgwrs yr Athro Gepp yn amlygu hynny.
"mae'r galw am ddadansoddwyr data busnes yn fwy na'r cyflenwad. Fodd bynnag, mae un adroddiad diwydiant yn nodi bod llai na thraean o brosiectau dadansoddeg yn arwain at fewnwelediadau gweithredadwy. Rwy'n credu y gall addysg prifysgol mewn dadansoddeg data chwarae rhan fawr wrth wella'r ffigur hwn sy'n peri pryder."
Fel sy’n amlwg o’r gynhadledd RSS, mae rhaglenni dadansoddeg data Ysgol Busnes Ïã¸ÛÁùºÏ²Ê¹ÒÅÆ×ÊÁÏ yn cael eu llywio gan ymchwil gydag addysgwyr sydd hefyd yn ymchwilwyr gweithredol. Lansiodd Ysgol Busnes Ïã¸ÛÁùºÏ²Ê¹ÒÅÆ×ÊÁÏ ei MSc mewn Dadansoddeg Data Busnes ym mis Ionawr eleni, gyda’r BSc yn dilyn ym mis Medi.