Mae amgueddfeydd byd natur yn cadw trysorfa o wybodaeth am anifeiliaid y Ddaear. Ond nid yw llawer o'r wybodaeth werthfawr ar gael i enetegwyr oherwydd bod fformalin, y cemegyn a ddefnyddir yn aml i gadw sbesimenau, yn niweidio DNA ac yn ei gwneud hi鈥檔 anodd adfer dilyniannau.
Gan fanteisio ar ddatblygiadau diweddar mewn technegau echdynnu DNA, mae t卯m yn cynnwys aelodau o Brifysgolion 香港六合彩挂牌资料, Potsdam, a Chaergrawnt, ynghyd 芒 chydweithwyr yn Ne Affrica a Zimbabwe, wedi echdynnu cod genetig sbesimen a oedd ar gadw mewn amgueddfa, ac wedi nodi rhywogaeth newydd o neidr.
Mae'r rhywogaeth newydd, o Ucheldir Dwyrain Zimbabwe wedi'i enwi fel rincaliaid Nyanga, neu Hemachatus nyangensis mewn papur a gyhoeddwyd yn .
Mae Dwyrain Ucheldir Zimbabwe a'r safan芒u a'r coedwigoedd sych o'u hamgylch, yn gartref i lawer o rywogaethau nad ydyn nhw i'w cael yn unman arall. Yma, yn y 1920au, sylwodd gwyddonwyr am y tro cyntaf ar boblogaeth ddirgel o nadroedd gyda marciau anarferol. Gwelwyd y neidr, mewn ystum amddiffynnol tebyg i gobra, a鈥檌 wddf fel cwcwll, ar dir Yst芒d Inyanga Cecil Rhodes yn Nyanga.
Ym 1961, nododd yr herpetolegydd enwog diweddar Donald G. Broadley fod y boblogaeth yn perthyn i'r rincaliaid (Hemachatus haemachatus), y canfuwyd eu poblogaethau agosaf tua 700km i ffwrdd yn Ne Affrica, Eswatini (a elwid gynt yn Swaziland) a Lesotho.
Rincaliaid Nyanga
Pan fydd anifeiliaid yn darfod, nid colli rhywogaeth yn unig ydym ni
Arsylwyd a mesurwyd llond llaw o sbesimenau o rincaliaid Zimbabwe yn ddiweddarach ond mae'r dirwedd wedi newid yn sylweddol oherwydd coedwigaeth. Cafodd y sbesimen penodol a astudiwyd yma ei ladd gan gerbyd ym 1982. Ni welwyd yr un yn y gwyllt ers 1988, ac ofnir bod rhywogaeth y boblogaeth wedi darfod.
Arweiniwyd y gwaith gan Tom Major, a oedd yn fyfyriwr PhD ym Mhrifysgol 香港六合彩挂牌资料, ac mae鈥檔 esbonio:
鈥淒angosodd ein hastudiaeth fod hon yn boblogaeth a fu wedi ei hynysu鈥檔 hir, yn wahanol iawn i boblogaethau rincaliaid y de. Yn seiliedig ar eu gwahaniaethau genetig, rydym yn amcangyfrif bod y nadroedd yn Zimbabwe wedi dargyfeirio oddi wrth eu perthnasau deheuol tua saith i 14 miliwn o flynyddoedd yn 么l.
Mae gan rincaliaid Nyanga ddannedd wedi'u haddasu i boeri gwenwyn. Mae'n hysbys bod rhai o'r gwir gobraod sy'n perthyn yn agos yn poeri gwenwyn tuag at anifeiliaid sy'n eu bygwth, gan ddefnyddio'r un dannedd arbenigol.
Mae'n ymddangos bod poeri gwenwyn wedi datblygu deirgwaith o fewn y gr诺p ehangach o nadroedd tebyg i gobra, yn 么l pob tebyg fel mecanwaith amddiffyn mewn ymateb i'r homininau cyntaf (ein hynafiaid). Byddai epaod a ddefnyddiai offer ac a gerddai ar eu traed 么l yn fygythiad difrifol i鈥檙 nadroedd, ac mae esblygiad poeri mewn cobraod Affricanaidd yn cyd-fynd yn fras 芒鈥檙 adeg y gwahanodd homininau oddi wrth tsimpans卯od a bonobos saith miliwn o flynyddoedd yn 么l.鈥
Ychwanegodd cyd-awdur yr astudiaeth Wolfgang W眉ster, Athro S诺oleg ym Mhrifysgol 香港六合彩挂牌资料:
鈥淧e canfuwyd poblogaeth fyw o rincaliaid Nyanga, byddai samplau DNA ffres yn ein helpu i bennu鈥檔 fwy cywir pryd yr ymrannodd y ddwy rywogaeth o rincaliaid, a sut mae hyn yn cymharu ag esblygiad homininau."
鈥淓fallai bod datblygiadau technolegol yn rhoi cipolwg anhygoel i ni ar linachau anifeiliaid hynafol ond ni allant wneud iawn am ddifodiant. Rydym ni'n dal i obeithio y deuir o hyd i boblogaeth fyw o rincaliaid Nyanga鈥.
Mae鈥檙 berthynas bosibl rhwng poeri gwenwyn a鈥檔 cyndeidiau cynnar yn ein hatgoffa ein bod yn rhan o ecosystem y Ddaear. Mae ein hesblygiad ni ein hunain yn cydblethu ag esblygiad anifeiliaid eraill. Pan fydd anifeiliaid yn darfod, nid colli rhywogaeth yn unig ydym ni - maen nhw'n mynd 芒 rhan o'n hanes ein hunain gyda nhw.