Mewn rhai rhannau o'r byd, megis Canada, caiff y mawndiroedd eu cloddio a defnyddir y pridd mawnog i wneud compost ar gyfer y diwydiant garddwriaethol.
Mewn ymdrech i ddatrys y gwrthdaro rhwng effeithiau amgylcheddol a defnydd economaidd mawndiroedd, datblygwyd dull i adfer corsydd, a fydd yn eu galluogi, maes o law, i gyflawni eu swyddogaeth ecolegol a chronni carbon unwaith eto.
Bydd y PhD hwn, sydd wedi鈥檌 gyllido鈥檔 llawn, ym Mhrifysgol 香港六合彩挂牌资料 yn edrych ar ffyrdd o ddatblygu ein dealltwriaeth o wyddor mawndiroedd i wella'r broses hon o adfer ac amddiffyn.
Meddai Dr Christian Dunn, sy'n arwain y project: "Mewn mannau lle mae mawn wedi鈥檌 gloddio'n hanesyddol, neu lle mae鈥檔 parhau i gael ei gloddio, mae angen i ni wneud popeth o fewn ein gallu i helpu i adfer a diogelu'r cynefinoedd unigryw hyn.
Dim ond tua thri y cant o wyneb y ddaear sydd wedi ei orchuddio 芒 mawndiroedd ond eto maent yn storio o leiaf ddwywaith y carbon a geir yn holl goedwigoedd y byd.
Mae angen i ni wneud yn si诺r bod cymaint a phosibl o'r carbon hwnnw'n aros yn y mawndiroedd a bod mawndiroedd sy'n cael eu cynaeafu i gynhyrchu mawn - yn y rhannau hynny o'r byd sy'n caniat谩u hynny - yn dychwelyd i storio carbon cyn gynted 芒 phosibl.
Bydd y PhD hwn yn gweithio gydag academyddion a phartneriaid yn y diwydiant i edrych ar sut y gallwn gael mawndiroedd yng Nghanada i storio a dal y swm mwyaf posibl o garbon.鈥
鈥淏ydd hynny鈥檔 golygu edrych ar y gweithgarwch microbaidd ac ensymig yn y mawn ac atal y broses ddadelfennu, sydd yn y pen draw yn rhyddhau'r carbon ac yn atal y mawn-bridd rhag cronni,鈥 ychwanegodd Dr Dunn.
Caiff yr efrydiaeth ymchwil hon dros gyfnod o dair blynedd ei hariannu gan Premier Horticulture Limited ac mae'n cynnig ariantal blynyddol safonol (cyfradd 2023/24, wedi'i fynegrifo'n flynyddol) a bydd yr holl ffioedd academaidd yn cael eu talu. Os oes gennych ddiddordeb mewn gwybod mwy am y PhD:聽 Developing Methods to Maximise Carbon Sequestration in Peatlands, yna ewch i:聽聽