Ymunodd ) y Brifysgol â Keysight Technologies, cwmni sy'n arwain y farchnad ym maes dylunio, efelychu a datrysiadau trwy brofion, i gyflwyno seminar hyfforddi undydd ar dechnegau profi a mesur ar gyfer systemau cyfathrebu.
Cafodd myfyrwyr peirianneg electronig, ymchwilwyr, a chwmnïau telathrebu lleol ddarlithoedd technegol gan arbenigwyr Keysight, ar bynciau megis gofal a chynnal a chadw offer, i leihau risg prawf a gwella cywirdeb mesuriadau.
Yn ystod y dydd, cafodd y myfyrwyr glywed am y cyfleoedd sydd gan Keysight i'w cynnig o ran gyrfaoedd a lleoliadau, a sgwrsio am eu hastudiaethau gyda myfyrwyr gradd Meistr, PhD ac Ymchwilwyr ôl-Ddoethurol presennol y Ganolfan DSP. Roedd y diwrnod hefyd yn cynnwys taith o labordai ymchwil ac arloesi’r Ganolfan DSP, sy’n cynnwys llawer o ddarnau o offer profi Keysight sydd o’r radd flaenaf, ac arddangosiadau byw o dechnegau cyfathrebu digidol y Ganolfan DSP.
Mae'r Seminar Hyfforddiant yn un agwedd ar rodd 'Gwerth Cymdeithasol' Keysight, fel rhan o'i dendr i gyflenwi offer project Bargen Twf Gogledd Cymru y Ganolfan DSP. Caiff y seminar hyfforddi ei chyflwyno'n flynyddol am bum mlynedd a'r nod yw hybu sgiliau a chyflogaeth leol, a chyfrannu yn y pen draw at lesiant economaidd a chymdeithasol y gymuned.
Roedd y Seminar yn gyfle gwych i fyfyrwyr gryfhau eu gwybodaeth o wyddoniaeth profi a mesur, ac i gysylltu â chymheiriaid, aelodau o’r staff, a gweithwyr proffesiynol y diwydiant. Gobeithiwn y bydd yr hyfforddiant yn gefn i’w hastudiaethau ac y bydd yn fodd i atgyfnerthu eu brwdfrydedd i ddilyn gyrfa yn y technolegau cyfathrebu.
Roedd yn bleser cydweithio â Keysight i drefnu a chyflwyno’r digwyddiad, ac i arddangos yr ymchwil arloesol mewn cyfathrebu sy’n seiliedig ar DSP sy’n digwydd yma ym Mhrifysgol Ïã¸ÛÁùºÏ²Ê¹ÒÅÆ×ÊÁÏ, gyda chefnogaeth offer arbenigol Keysight. Rydym yn edrych ymlaen at barhau â’r bartneriaeth gyda Keysight i gyflwyno digwyddiad llwyddiannus arall y flwyddyn nesaf.
Mae rhagor o wybodaeth a lluniau o'r digwyddiad ar gael ar dudalennau a y Ganolfan Prosesu Signalau Digidol.Â