Prifysgol ϲʹ yn cipio Gwobr Effaith Gyffredinol yng Ngwobrau Effaith NERC 2023
Cipiodd tîm ymchwil dŵr gwastraff Prifysgol ϲʹ y Wobr Effaith Gyffredinol a derbyn £20,000 yng Ngwobrau Effaith NERC 2023.
Cipiodd tîm ymchwil dŵr gwastraff Prifysgol ϲʹ y Wobr Effaith Gyffredinol a derbyn £20,000 yng Ngwobrau Effaith NERC 2023.
Daeth tua 150 o westeion at ei gilydd ar gyfer y seremoni o dan sgerbwd y morfil glas, ‘Gobaith’, yn Neuadd Hintze enwog yr Amgueddfa Hanes Natur yn Llundain.
Mae’r gwobrau’n tynnu sylw at y gwyddorau amgylcheddol yn y DU, sydd yn hollbwysig i reolaeth gyfrifol o’n planed, a chafodd y sefydliadau ar y rhestr fer eu dethol a’u beirniadu gan baneli annibynnol o ffigurau academaidd, unigolion o ddiwydiant, y llywodraeth ac eraill sy’n ymgysylltu â’r cyhoedd.
Dywedodd yr Athro Peter Liss, Cadeirydd Gweithredol dros dro NERC, “Mae Gwobrau Effaith NERC 2023 yn cydnabod gwaith rhyfeddol ein cymuned gwyddorau’r amgylchedd.
“Mae ymchwil ein henillwyr, y rhai sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol, a’r holl geisiadau eleni yn mynd i’r afael â rhai o faterion mwyaf dybryd y blaned. Mae’r rhain yn cynnwys olrhain COVID-19 yn ystod y pandemig yn ein dŵr gwastraff, llywio polisi enillion net bioamrywiaeth Lloegr a helpu i lunio’r drafodaeth fyd-eang ar fynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd. Mae’r effeithiau ysbrydoledig yn dangos y buddiannau enfawr y mae’r gwyddorau amgylcheddol yn rhoi i’n cymdeithas, ein heconomi a’n hamgylchedd.”
Dywedodd yr Is-ganghellor, yr Athro Edmund Burke, “Mae hyn yn newyddion ardderchog. Llongyfarchiadau mawr i’r tîm gwyliadwriaeth dŵr gwastraff ar ennill y wobr fawreddog hon, sy’n gyfle unwaith eto i godi proffil rhyngwladol y Brifysgol gyda gwyddoniaeth sy’n arwain y byd o ran effaith gymdeithasol.”
Ychwanegodd yr Athro Davey Jones, “Rydym yn edrych ymlaen at ddefnyddio’r wobr ariannol i greu mwy o effaith o amgylch y prosiect, yn benodol sut y gallwn ddefnyddio’r data sy’n cael ei gynhyrchu i hysbysu rhanddeiliaid fel defnyddwyr hamdden dŵr a’r awdurdodau am ansawdd dŵr ac iechyd yr amgylchedd. Rydym hefyd yn edrych ymlaen at rannu ein hymchwil gyda’r cyhoedd drwy arddangosfa yn yr Amgueddfa Hanes Natur yn y dyfodol, sy’n gyffrous iawn.
“Mae hon yn sicr yn wobr i’r holl dîm ac mae’n cydnabod ymroddiad a chefnogaeth barhaus ein timau labordy a maes trwy gydol y pandemig yn ogystal â’n cydweithwyr ledled y Deyrnas Unedig.”
Daw’r wobr hon yn dilyn y cyhoeddiad diweddar bod tîm dŵr gwastraff Prifysgol ϲʹ wedi ennill Gwobr Pen-blwydd y Frenhines am eu gwaith gwyliadwriaeth iechyd cyhoeddus.