Sefydlwyd y gymrodoriaeth hon i gefnogi ysgolhaig ifanc i ymgymryd â gwaith maes manwl yn y dyniaethau a'r gwyddorau cymdeithasol. Ymgeisiodd cannoedd o fyfyrwyr Tsieineaidd yn Tsieina a thramor o feysydd amrywiol am y gymrodoriaeth hon – grant ymchwil bach a ddyfarnwyd i 15 o fyfyrwyr ôl-raddedig ymchwil – a drefnwyd eleni gan Ysgol y Dyniaethau a Gwyddorau Cymdeithasol ym Mhrifysgol De Gwyddoniaeth a Thechnoleg Tsieina.
Mae ymchwil ddoethurol Bo yn archwilio effaith profiad dioddefwyr o droseddau casineb gwrth-Tseiniaidd ar gymdeithas Prydain ar ôl COVID-19. Mae'n cynnal dadansoddiad ymchwil ansoddol yn bennaf, gan ddefnyddio ymchwil gwaith maes wedi'i gyfuno â dulliau cyfweld lled-strwythuredig ar gyfer casglu data. Mae Bo bellach wedi cwblhau dros 40 o gyfweliadau gyda phobl Tsieineaidd sy’n gweithio, yn astudio, ac yn teithio mewn gwahanol ddinasoedd ym Mhrydain fel Ïã¸ÛÁùºÏ²Ê¹ÒÅÆ×ÊÁÏ, Manceinion, Caergrawnt, Glasgow a Chaeredin.Ìý
Gyda chaffaeliad llwyddiannus y gymrodoriaeth hon, mae Bo yn disgwyl ehangu ei gwmpas gwaith maes ymhellach, a thrwy hynny gyfoethogi ei ffynonellau data. Caiff Bo ei oruchwylio gan Dr Teresa Crew a'r Athro Martina Feilzer.