Mae croesrywio rhwng rhywogaethau鈥檔 ffenomen a ddigwyddai鈥檔 amlach nag a feddylid yn flaenorol. Yn y gorffennol, digwyddodd gyda bodau dynol modern; amcangyfrifir bod ein genom yn cynnwys tua 2% o DNA Neanderthalaidd.
Gwyddom bellach fod y lyncs Iberaidd (Lynx pardinus) hefyd wedi croesrywio 芒 rhywogaethau agos yn y gorffennol diweddar.
Mae Prifysgol 香港六合彩挂牌资料 wedi cyfrannu at astudiaeth newydd a gyhoeddwyd yn Nature Ecology & Evolution. Mae'r astudiaeth yn dangos bod y lyncs Iberaidd wedi rhyngfridio 芒'r lyncs Ewrasiaidd (Lynx lynx) dros yr ychydig filoedd o flynyddoedd diwethaf. Byddai hyn wedi helpu i gynyddu ei amrywiaeth genetig ac mae hynny'n bwysig, o ystyried y sefyllfa bresennol, lle nad yw goroesiad hirdymor y lyncs Iberaidd yn sicr.
Dan arweiniad cyngor ymchwil gwyddonol Sbaen, sef Consejo Superior of Investigaciones Cient铆ficas (CSIC), aeth y t卯m gwyddonol ati i ddadansoddi DNA y tri sbesimen hynafol o lyncs Iberaidd: un o And煤jar tua 4300 o flynyddoedd yn 么l, un arall o Alcanar yng Nghatalwnia tua 2500 o flynyddoedd yn 么l, ac un arall o鈥檙 Algarve ym Mhortiwgal tua 2100 o flynyddoedd yn 么l. Yna aethont ati i gymharu'r wybodaeth hon 芒 data genetig o sbesimenau cyfoes. Roedd yr hyn a welsant yn gwbl annisgwyl: roedd amrywiaeth genetig y lyncs hynafol yn is nag amrywiaeth genetig y lyncs cyfoes.
Cyfrannodd Dr Axel Barlow o Ysgol Gwyddorau Amgylcheddol a Naturiol Prifysgol 香港六合彩挂牌资料 at y gwaith.
Dywedodd,
鈥淢ae鈥檙 astudiaeth wir yn dangos p诺er DNA hynafol. Wrth edrych i鈥檙 gorffennol roeddem yn gallu datgelu proses allweddol a luniodd amrywiaeth genetig yn yr anifeiliaid hynod ddiddorol yma, a oedd yn amhosibl wrth edrych ddim ond ar ffynonellau DNA modern.鈥
Doedd mudiad y boblogaeth hanesyddol o lyncs Iberaidd ddim yn esbonio'r cynnydd mewn amrywiaeth genetig. Wrth i'r boblogaeth leihau dros amser, dylai amrywiaeth genetig fod yn is, nid yn uwch. Nid yw鈥檔 bosibl ychwaith bod yr unigolion hynafol yn perthyn i boblogaethau cwbl ynysig, gan fod dadansoddiadau genetig yn dangos eu bod yn cymysgu 芒'i gilydd a gyda hynafiaid y lyncs cyfoes. Felly, beth allai fod wedi digwydd yn ystod y ddwy neu dair mil o flynyddoedd diwethaf?
听
Un ateb posibl yn 么l y t卯m gwyddonol yw croesrywio.
Dyma Mar铆a Lucena, awdur cyntaf yr astudiaeth, o CSIC, yn esbonio mwy,
鈥淒atgelodd y dadansoddiadau fod y lyncs modern yn rhannu mwy o ddeunydd genetig 芒鈥檜 chwaer rywogaeth, y lyncs Ewrasiaidd, na chyda rhywogaethau h欧n o鈥檙 lyncs.鈥
Mae hyn yn awgrymu bod cyfnewid genetig wedi digwydd rhwng y ddwy rywogaeth yn ystod y ddwy fil o flynyddoedd diwethaf.鈥
Ymhellach, mae'r canlyniadau'n dangos bod gan y sbesimenau hynafol mwyaf diweddar o lyncs Iberaidd, y rhai o Gatalwnia a鈥檙 Algarve, fwy o amrywiadau genetig sy鈥檔 dod o'r lyncs Ewrasiaidd nag sydd gan yr un hynaf o And煤jar. Filoedd o flynyddoedd yn 么l, efallai y byddai dosbarthiad y lyncs Iberaidd wedi cyrraedd cyn belled 芒 de Ffrainc a gogledd yr Eidal, a bu'r lyncs Ewrasiaidd yn byw yng ngogledd penrhyn Iberia tan yn lled ddiweddar, gan greu cyfleoedd ar gyfer cyfnewid genynnau rhwng y ddau rywogaeth. Byddai llif genynnau'r lyncs Ewrasiaidd i'r lyncs Iberaidd wedi lledu wedyn i bob poblogaeth fodern.
Achubiaeth genetig
Mae amrywiaeth genetig rhywogaethau yn hanfodol er mwyn iddynt addasu i newidiadau yn eu hamgylchedd. Fodd bynnag, amrywiaeth genetig y lyncs Iberaidd oedd un o'r isaf yn y byd. Profodd y rhywogaeth ddirywiad mawr yn ystod yr 20fed ganrif a adawodd dim ond tua 100 o unigolion wedi'u rhannu'n ddwy boblogaeth fach, ynysig yn Do帽ana ac yn And煤jar. Mewn ymateb i'r sefyllfa hon, penderfynwyd cymysgu'r ddwy boblogaeth enetig wahanol.
鈥淭rwy groesi unigolion nad oeddynt yn perthyn o gwbl i鈥檞 gilydd, fe wnaethom osgoi鈥檙 mewnfridio a oedd wedi cronni yn y ddwy boblogaeth fach鈥, eglura Jos茅 Antonio Godoy, ymchwilydd yng Ngorsaf Fiolegol Do帽ana CSIC. 鈥淵n 么l ein data, mae鈥檔 ymddangos bod gan 鈥済roesiadau鈥 y ddwy boblogaeth fwy o lwyddiant atgenhedlu a rhagor o obaith goroesi. Ar yr un pryd, mae hefyd yn cynyddu鈥檙 amrywiaeth enetig sydd ar gael ar gyfer addasu i newidiadau amgylcheddol.鈥
Er gwaethaf adferiad llwyddiannus yn ystod degawdau cyntaf yr 21ain ganrif, nid yw'r lyncs Iberaidd hyd yma wedi cyrraedd isafswm poblogaeth a fyddai'n sicrhau amrywiaeth genetig dderbyniol yn y dyfodol. Mewn astudiaeth ddiweddar arall, cyfrifodd y gr诺p ymchwil fod angen o leiaf 1100 o fenywod a allai atgenhedlu, a dim ond 326 a gofrestrwyd yng nghyfrifiad 2022. Yn ogystal, roedd yn hanfodol cynyddu nifer yr isboblogaethau a gwella cysylltedd rhyngddynt er mwyn sicrhau cyfnewid genetig. Nod project LIFE-Lynxconnect, a ariennir gan y Comisiwn Ewropeaidd, yw cyflawni poblogaeth hunangynhaliol, sy鈥檔 enetig hyfyw yn y tymor hir, o鈥檙 lyncs Iberaidd trwy gysylltu'r gwahanol isboblogaethau a chreu dwy isboblogaeth newydd.
A allai croesrywio 芒 rhywogaethau eraill fod yn ateb i amrywiaeth genetig isel ymhlith rhywogaethau sydd mewn perygl, megis y lyncs Iberaidd? Mae'r opsiwn hwn yn aml yn cael ei ddiystyru gan y byddai'r epil yn llai tebygol o oroesi ac atgenhedlu, gan leihau hyfywedd y boblogaeth yn hytrach na'i chynyddu.
鈥淵n gyffredinol, y disgwyliad yw y byddai鈥檙 rhan fwyaf o鈥檙 genynnau sy鈥檔 mynd i mewn i un rhywogaeth o rywogaeth arall yn cael canlyniadau negyddol ac yn cael eu dileu dros amser gan ddethol naturiol, ond gallai rhai adfer amrywiadau swyddogaethol neu hyd yn oed ganiat谩u addasu i amodau amgylcheddol newydd,鈥 eglura Jos茅 Antonio Godoy.
鈥淔odd bynnag, nid ydym yn gwybod eto pa ganlyniadau a gafodd y croesrwyio yn y gorffennol yr ydym wedi鈥檌 ganfod yn y lyncs Iberaidd, ac nid oes modd i ni ragweld canlyniadau hybrideiddio naturiol neu fwriadol yn y dyfodol鈥. Bydd angen ymchwil pellach ar hyd y llinellau hyn.
Ar y chwith: Lyncs Iberaidd听 Llun: Antonio Rivas /EBD-CSIC. Ar y dde: Lyncs Ewrasiaidd. Llun: Martin Mecnarowski
Papur: Maria Lucena-Perez, Johanna L. A. Paijmans, Francisco Nocete, Jordi Nada5, Cleia Detry, Love Dal茅n, Michael Hofreiter, Axel Barlow, Jos茅 A. Godoy. Nature Ecology & Evolution听
听