ϲʹ

Fy ngwlad:
Hills and fields of Mid Wales

Dylid ystyried gwerth maethol cig wrth gymharu olion troed carbon

Rhaid ystyried gwerth maethol cig wrth gymharu olion traed carbon – dyna’r neges allweddol o astudiaeth ddiweddar.

Mae ymchwil i ôl troed amgylcheddol systemau cynhyrchu fferm yn gwbl angenrheidiol er mwyn i ni allu symud y diwydiant ffermio yn ei flaen mewn modd gwybodus sy’n seiliedig ar dystiolaeth. Er bod systemau cynhyrchu cig oen dan bwysau cynyddol i leihau eu hôl troed amgylcheddol a chyfrannu at leihau nwyon tŷ gwydr, bydd yr ymchwil hwn yn sicr yn helpu i lywio trafodaethau ynghylch y diet gorau posibl ar gyfer systemau cynhyrchu cig oen o safbwynt maeth dynol a chynaliadwyedd amgylcheddol
Dr Prysor Williams,  Ysgol Gwyddorau Amgylcheddol a Naturiol

Gellir gweld y papur llawn yma: