香港六合彩挂牌资料

Fy ngwlad:
 gwartheg mewn sied

Sut y bydd galw cynyddol am gig a llaeth yn cael effaith amgylcheddol ar ffermydd ucheldir Kenya

Mae arbenigwyr ym Mhrifysgol 香港六合彩挂牌资料 ar fin gweithio gyda thyddynwyr yn ucheldiroedd Kenya i asesu effeithlonrwydd eu harferion pori ac effaith yr arferion hynny ar yr amgylchedd.

Mae ffermydd tyddynwyr yn hanfodol i ddeinameg ecolegol ecosystemau ucheldir Kenya. Byddwn yn cynnwys ffermwyr mewn gwyddoniaeth dinasyddion, fel y gallwn i gyd ddeall goblygiadau ecolegol ac economaidd rheoli porfeydd yn yr ardaloedd bioamrywiol a bregus hyn. Byddwn hefyd yn modelu effeithiau lledaenu arferion da a chael gwared ar yr arferion hynny nad ydynt efallai mor effeithiol yn economaidd nac yn amgylcheddol. Yn ein tro, gallwn wedyn wneud argymhellion mwy gwybodus i lunwyr polisi. Gallai鈥檙 wybodaeth newydd hefyd arwain at ledaenu arferion da i ranbarthau tebyg yn Affrica.

Gall dull deublyg wella effeithlonrwydd a lleihau diraddio amgylcheddol ac allyriadau, tra bod y bwlch gwybodaeth presennol yn rhwystr i鈥檙 buddsoddiad sydd ei angen i fodloni gofynion ac i鈥檙 wlad gyfan gyrraedd ei thargedau amgylcheddol,

Dr James Gibbons,  Darlithydd Uwch mewn Modelu Ecolegol, Ysgol Gwyddorau Amgylcheddol a Naturiol

Mae'r ymchwil yn un o 13 o geisiadau llwyddiannus i'r rhaglen 'Datgloi potensial byd natur i ddarparu atebion hinsawdd a gwella bywoliaeth'. Mae hon yn rhaglen Cymorth Datblygu Swyddogol y Deyrnas Unedig (ODA) sy鈥檔 ariannu ymchwil i atebion sy鈥檔 seiliedig ar natur i newid yn yr hinsawdd a lleihau tlodi, a reolir gan y Ganolfan Fyd-eang ar Fioamrywiaeth ar gyfer Hinsawdd drwy DEFRA.

鈥淩ydym yn gyffrous iawn i gyhoeddi鈥檙 rownd gyntaf o dderbynwyr grantiau drwy鈥檙 Ganolfan Fyd-eang ar Fioamrywiaeth ar gyfer Hinsawdd (GCBC) mewn partneriaeth ag RBG Kew a DAI Global UK. Mae hon yn garreg filltir arwyddocaol ac yn gam cyntaf tuag at ddarparu datrysiadau hinsawdd i boblogaethau bregus trwy weithio mewn partneriaeth 芒 sefydliadau ar draws De鈥檙 Byd i ddefnyddio potensial natur i wella gwytnwch hinsawdd a gwella bywoliaethau,鈥 meddai鈥檙 Athro Gideon Henderson, Prif Ymgynghorydd Gwyddonol, Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig y Deyrnas Unedig.