Mae’r gwelliannau a wnaed ganddynt wrth wella rhagolygon tonnau, yn eu hymgais i gynorthwyo ag ymdrech y rhyfel, bellach yn cael eu hystyried yn gychwyn ar gefnforeg ffisegol yma yn y Deyrnas Unedig.
Cefnforeg Ffisegol ym Mangor
Ym 1963 crëwyd adran newydd Cefnforeg Ffisegol ym Mhrifysgol Ïã¸ÛÁùºÏ²Ê¹ÒÅÆ×ÊÁÏ gyda phenodiad Jack Derbyshire fel Pennaeth Adran a’r Athro cyntaf mewn Cefnforeg Ffisegol. Ers hynny, mae astudiaeth cefnforeg ffisegol ym Mhrifysgol Ïã¸ÛÁùºÏ²Ê¹ÒÅÆ×ÊÁÏ wedi mynd o nerth i nerth.
Mae ymchwil yn yr Ysgol sydd gyda’r orau yn y byd hefyd yn rhychwantu’r byd, o’r Arctig i’r Antarctig, o fesur cymysgu dyfroedd ar raddfa centimedr i astudio llanw’r byd drwy hanes y Ddaear, a nodweddu adnoddau ynni morol ac effeithiau eu defnydd.
Ychwanegodd yr Athro Tom Rippeth,
“Roedd Jack yn ffigwr adnabyddus yn y gymuned leol yma ym Mhorthaethwy nes y bu farw yn 2004. Yr hyn sy’n llai adnabyddus yw ei waith gyda Grŵp-W yn ystod y rhyfel a bod ei waith sylfaenol ar donnau’r cefnforoedd yn dal i gael ei ddysgu ledled y byd.â€