香港六合彩挂牌资料

Fy ngwlad:
 dyn yn edych drwy delesg么p ar draws llyn neu afon.

Astudiaeth yn dangos y defnydd o wyddoniaeth gymunedol fel dull cadwraeth o amcangyfrif poblogaethau bywyd gwyllt

Mae amcangyfrif poblogaethau bywyd gwyllt yn hanfodol i ymdrechion cadwraeth. Maent yn galluogi cadwraethwyr i osod nodau, monitro camau rheoli a gwerthuso llwyddiannau ym maes cadwraeth.聽

Mae ein canfyddiadau yn dangos dull ymarferol a chost-effeithiol i amcangyfrif dwysedd a maint poblogaethau gan ddefnyddio data gwyddoniaeth gymunedol. Mae yna bobl wych yn gweithio ar hyn o gwmpas y byd ac efallai mai鈥檙 canlyniad pwysicaf yw bod cyfraniadau gwyddoniaeth gymunedol yn dod yn fwyfwy gwerthfawr i gadwraeth.

Dr Tyler Hallman,,  Darlithydd yn yr Ysgol Gwyddorau Amgylcheddol a Naturiol ac awdur arweiniol yr astudiaeth

Mae'r dull arloesol hwn ac ymdriniaethau arloesol eraill o amcangyfrif poblogaethau yn addawol i gadwraethwyr ledled y byd. Maent yn galluogi amcangyfrif poblogaethau ar raddfa fanwl tra'n defnyddio'r wybodaeth enfawr o filiynau o arsylwadau a gyflwynir gan wyddonwyr cymunedol ledled y byd.

Yn ddiweddar bu Tyler yn gydawdur ar astudiaeth <https://esajournals.onlinelibrary.wiley.com/doi/10.1002/ecy.4292> arall dan arweiniad y Swiss Ornithological Institute sydd wedi datblygu ffordd newydd o ddadansoddi data o gronfeydd data gwyddonwyr cymunedol mawr, a elwir yn fodelau samplu pellter integredig (IDS). Mae'r ddwy astudiaeth yn defnyddio samplu o bell, sy'n seiliedig ar y syniad po bellaf y mae anifail oddi wrth arsylwr, y lleiaf tebygol y mae o gael ei ganfod. Pan fyddwn yn mynd allan i arolygu bywyd gwyllt, rydym bron bob amser yn colli pethau. Dyna natur arolygon bywyd gwyllt. Yn gyffredinol, rydym yn canfod cyfran lawer uwch o'r anifeiliaid sydd yn agos atom na'r rhai sydd ymhellach i ffwrdd. Mae hyn yn golygu, pan fyddwch yn defnyddio cyfrifon crai (y niferoedd a adroddwyd nad ydynt yn cymryd hyn i ystyriaeth), sy'n ffurfio'r mwyafrif o ddata gwyddoniaeth gymunedol, eich bod yn gyffredinol yn tan gyfrif y nifer sydd yno mewn gwirionedd.聽

Ychwanegodd Tyler,

鈥淓r efallai na fydd modelu ystadegol yn cyffroi鈥檙 rhan fwyaf o bobl, mae鈥檙 astudiaeth hon yn darparu dull arloesol o gyfuno cryfderau arolygon bywyd gwyllt a gynhelir gan weithwyr proffesiynol ac arolygon gwyddoniaeth gymunedol a gyflwynir gan y cyhoedd i gynhyrchu amcangyfrifon poblogaeth dibynadwy, sy鈥檔 gwbl hanfodol i gadwraeth.鈥

Mae gan y ddwy astudiaeth y potensial i wella cywirdeb ac argaeledd amcangyfrifon poblogaeth bywyd gwyllt yn sylweddol a gallent ychwanegu'n fawr at werth gwyddoniaeth gymunedol at ddibenion cadwraeth.