Mae coedwigoedd yn dyrannu carbon yn yr ecosystem uwchben ac oddi tan y ddaear a hynny mewn ymateb i'r adnoddau sydd ar gael. Mae data am gynhyrchiant gwreiddiau mân a data morffolegol a gasglwyd gan Brifysgol ϲʹ yn gwella ein dealltwriaeth o ddeinameg carbon coedwigoedd a’r strategaethau caffael maetholion sydd eu hangen er mwyn cynnal tyfiant coed pan fo lefelau uwch o CO2.
Mae gan ein canlyniadau oblygiadau pwysig o ran sut y caiff datblygiad coedwigoedd y dyfodol ei fodelu ym modelau system y Ddaear, gyda’r posibilrwydd o fireinio rhagfynegiadau ynghylch yr effaith ar ddynoliaeth yn sgil newid yn yr hinsawdd yn y dyfodol.
Dechreuodd arbrawf FACE BIFoR yn 2017 gan fesur effaith lefelau uwch o CO2 ar gynhyrchiant pren trwy ddefnyddio sganio laser i drawsnewid diamedrau coed yn fàs prennaidd. Cyfrifodd gwyddonwyr swm net y cynhyrchiant (NPP) trwy gyfuno cynhyrchiant pren y derw a’r isdyfiant gyda chynhyrchiant dail, gwreiddiau mân, blodau a hadau, a chyda faint o garbon organig sy’n cael ei ryddhau gan y gwreiddiau.
Canfu ymchwilwyr fod yr NPP 9.7% a 11.5% yn fwy mewn CO2 uchel nag mewn amodau amgylchynol yn 2021 a 2022, yn y drefn honno - cynnydd o tua 1.7 tunnell o ddeunydd sych fesul hectar y flwyddyn. Roedd y rhan fwyaf o'r cynnydd o ganlyniad i gynhyrchu pren ac nid oedd unrhyw newid yng nghynhyrchiant gwreiddiau mân na dail.
Bydd arbrawf FACE BIFoR yn parhau i’r degawd nesaf, gan ddarparu cyfleoedd i ddadansoddi ymatebion hirdymor a rhyngweithiadau â ffactorau amgylcheddol eraill.