听
Canolfan Genedlaethol Addysg Grefyddol Cymru a听Heddwch yn ein Haddysg
Ym mis Mawrth eleni, lansiodd y Ganolfan brosiect cydweithredol lle mae myfyrwyr cyfredol Athroniaeth, Moeseg a Chrefydd, Prifysgol 香港六合彩挂牌资料, wedi bod yn gweithio gyda chyfarwyddwyr y Ganolfan ac athrawon Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg ac Addysg Grefyddol, i greu adnoddau addysg ar gyfer dysgwyr Cam Cynnydd 4 (Cyfnod Allweddol 3): Heddwch yn ein Haddysg. Bwriad yr adnoddau hyn yw ysgogi trafodaethau, ac i ddysgwyr adlewyrchu ar eu cymdeithas, eu cymunedau a鈥檜 bywydau eu hunain, gan ddysgu am y cyd-destunau ehangach. Beth yw heddwch? Sut mae gweld heddwch yn ein hoes? Yn ogystal 芒 rhyfeloedd a gwrthdaro o鈥檙 fath, beth arall sy鈥檔 peryglu heddwch?
Ac ym mis Gorffennaf 2024, derbyniodd myfyrwyr israddedig a doethurol Athroniaeth, Moeseg a Chrefydd, Prifysgol 香港六合彩挂牌资料, sydd wedi bod yn gweithio ar y prosiect Heddwch yn ein Haddysg anrhydedd o鈥檙 mwyaf gan Academi Heddwch Cymru a Chanolfan Materion Rhyngwladol Cymru, pan gyflwynwyd iddynt 鈥榃obr Treftadaeth Heddwch鈥 yn Eisteddfod Ryngwladol Llangollen. Dyfernir Gwobrau Heddychwyr Ifanc yn flynyddol i ddathlu gwaith ac angerdd pobl ifanc dros weithio tuag at fyd a chymdeithas fwy heddychlon, felly roedd yn arbennig gweld y bobl ifanc a fu鈥檔 rhan o鈥檙 prosiect yma鈥檔 cael eu cydnabod am eu hymdrechion.
Meddai Dr Gareth Evans-Jones, un o gyfarwyddwyr Canolfan Genedlaethol Addysg Grefyddol Cymru a chydlynydd Heddwch yn ein Haddysg, 鈥淩oeddem mor falch o weld y criw yn derbyn cydnabyddiaeth genedlaethol am eu holl waith caled. Rydw i wedi fy rhyfeddu at asbri ac angerdd bob un ohonyn nhw, ac wedi mwynhau鈥檔 fawr y broses o gydweithio i ddatblygu adnoddau ar gyfer pwnc sydd o ddirfawr bwys i bob un ohonom.鈥
A heddiw鈥檔 Ddiwrnod Heddwch y Cenhedloedd Unedig, priodol yw myfyrio ar yr adnoddau hyn, a chlywed safbwyntiau鈥檙 bobl sydd yn rhan o Heddwch yn ein Haddysg, felly dyma bytiau gan ddau o fyfyrwyr cyfredol Athroniaeth, Moeseg a Chrefydd, Prifysgol 香港六合彩挂牌资料:
听
Gemma Waite (BA Athroniaeth, Moeseg a Chrefydd)
Haia, fy enw i yw Gemma, a dwi ar hyn o bryd yn astudio Athroniaeth, Moeseg a Chrefydd ym Mhrifysgol 香港六合彩挂牌资料 gyda鈥檙 gobaith o wneud cwrs TAR i fod yn athrawes Add Gref mewn ysgol uwchradd. Dwi hefyd wedi bod yn gweithio gyda Chanolfan Genedlaethol Addysg Grefyddol Cymru ar y prosiect Heddwch yn ein Haddysg i greu adnoddau ar gyfer dysgwyr CC4 (CA3) i archwilio mater heddwch ymhellach. Rydym wedi bod yn gweithio ar adnoddau sydd yn archwilio elfennau gwahanol o heddwch, gan gynnwys agweddau crefyddol, diffiniadau am fathau o heddwch a gwrthdaro, a sut i ymateb i hynny. Rydw i鈥檔 benodol wedi gweithio ar greu adnoddau am berthynas Iddewiaeth a heddwch a gwrthdaro, yn ogystal ag astudiaeth achos ar gyfer dysgwyr am Malala Yousafzai a鈥檌 chyfraniad i heddwch.听
Y gobaith gyda鈥檙 adnoddau yma yw sicrhau fod gan y dysgwyr ddealltwriaeth well o heddwch, a chydnabod nad yw heddwch a gwrthdaro dim ond yn bodoli o fewn cyd-destun rhyfel. Hefyd, mae鈥檔 gyfle i ddysgu mewn amryw ffyrdd creadigol i ymateb, boed mewn ffurfiau ysgrifenedig, gweithio o fewn grwpiau, a ffyrdd eraill sydd, efallai, yn llai ffurfiol na gwersi arferol. Mi fydd nifer o鈥檙 dysgwyr wedi profi rhyw fath o wrthdaro yn eu bywydau (boed hyn yn bwlio, anghytuno gyda ffrindiau neu eu teulu), ac yn ceisio sicrhau heddwch yn dilyn hynny 鈥 a bydd dysgwyr yn cael archwilio heddwch a gwrthdaro fel hynny, yn lle dim ond trwy gyd-destun rhyfel (er bod hynny dal yn bwysig).听
Dwi鈥檔 gweithio gyda鈥檙 Ganolfan ar y prosiect yma i gael profiad o greu adnoddau ar gyfer dysgwyr o wrando ar beth sydd yn apelio atyn nhw, ac ar destun sydd hefyd yn bwysig iawn i mi. Hefyd, mae gweithio gyda鈥檙 Ganolfan wedi bod yn brofiad gwych i gael, a bydd yn edrych yn dda ar fy CV wrth ymgeisio ar gyfer cwrs TAR. Dwi hefyd yn gobeithio gweithio gyda鈥檙 Ganolfan ar nifer o brosiectau eraill yn y dyfodol i sicrhau bod gan ddysgwyr addysg lawnach ar nifer fawr o bynciau gwahanol, a heddwch yn ganolog iddynt.
Richard Scott (PhD Astudiaethau Crefyddol)
Helo, fy enw i ydy Richard, dwi鈥檔 ymchwilydd PhD ym maes Astudiaethau Crefyddol, ac yn ddiweddar, rydw i wedi bod yn gweithio gyda Chanolfan Genedlaethol Addysg Grefyddol Cymru ar ei phrosiect Heddwch yn ein Haddysg, sy鈥檔 anelu at greu adnoddau a gwersi i fyfyrwyr CC4 (Cyfnod Allweddol 3). Mae heddwch yn gysyniad y mae holl brif grefyddau'r byd yn ymdrechu amdano, ond eto, nid yw'n cael ei roi ar waith yn aml, ac rydyn ni wedi'n hamgylchynu gan fyd sy鈥檔 ymddangos fel nad ydyw鈥檔 gallu mynd i'r afael 芒 realiti heddychlon, felly rydw i'n gweld hwn yn bwnc mor bwysig.听
Wrth feddwl am greu adnoddau i fyfyrwyr, felly, a sut i archwilio鈥檙 cysyniadau rhyngberthynol o heddychiaeth, cymod, goddefgarwch, a gwrthdaro, roeddwn am archwilio llwybrau meddwl crefyddol sydd heb eu trafod yn fanwl, er mwyn i bobl fedru ystyried meddylfryd sy'n wahanol i'w rhai nhw a gweld sut y gallen nhw wella eu dealltwriaeth o鈥檜 hunain o gysyniadau heddwch, trais a di-drais. Felly, roeddwn i eisiau archwilio ffydd sy鈥檔 cael ei hanwybyddu鈥檔 aml, ond sy鈥檔 cynnwys llawer o harddwch a llonyddwch, sef ffydd yr un ar ddeg Gwrwaid: Siciaeth.听
Dechreuodd fy niddordeb yn y grefydd hon am y tro cyntaf pan gefais argyfwng ffydd pan oeddwn i鈥檔 16 oed, ac mi ges fy swyno鈥檔 syth gan ei gweledigaeth egalitaraidd, ynghyd ag agwedd radical tuag at roi heddwch ar waith. Yn wir, pregethodd Gwrw Nanak weledigaeth unedig, nid o dan faner grefyddol, ond yn wir, yn enw yr hil ddynol gyfan. Dywed 28ain Pauree y Japji Sahib, 鈥淏ydded ffydd yn yr Arglwydd yn ffon gerdded i chi. Gwelwch frawdoliaeth holl ddynolryw fel y radd uchaf o iogi. Ymgrymaf iddo, ymgrymaf yn ostyngedig.鈥 Nid dim ond achlust oedd hyn ychwaith, roedd Gwrw Nanak, a鈥檙 holl Gwrwaid a ganlyn hefyd wedi ymrwymo i ddod 芒 heddwch duwiol i鈥檙 ddynolryw i gyd trwy ymddygiad cywir, oherwydd, fel y dywedodd Nanak hefyd, 鈥淕wirionedd yw鈥檙 rhinwedd uchaf [yn cyfateb i Dduw], ond yn uwch byth y mae bywoliaeth wirionedd."听
Felly, ym mhob un o鈥檙 trefi a鈥檙 temlau, y gwrdwar芒u, a sefydlwyd gan y Gwrwaid, maen nhw鈥檔 rhoi鈥檙 egwyddor sewa, neu wasanaeth, ar waith, gan gyflwyno, er enghraifft, y langar, pryd bwyd dyddiol am ddim lle byddai pobl o bob crefydd a chast yn eistedd gyda鈥檌 gilydd ac yn bwyta, er mwyn cyflwyno cytgord dynol.听
Felly mae Siciaid, yn dilyn rheol Gwrw Arjan Dev, a'r Gwrwaid olaf: 鈥淢ae'r Meistr trugarog bellach wedi gorchymyn nad oes neb yn gwylltio, yn gormesu nac yn peri poen ar un arall. Bydd pawb yn cadw mewn heddwch ac mewn cyfundrefn ddiniwed鈥, ac yn dod i gymorth unrhyw un sy'n cael ei ormesu ac sy'n wynebu gwrthdaro. Mae鈥檙 ddwy agwedd ar heddwch a gwarchodaeth realistig i鈥檙 dirywiedig wedi鈥檜 cyfuno mewn un ffydd sy鈥檔 cael ei hanwybyddu yn y Byd Gorllewinol heddiw. Ac rydw i鈥檔 meddwl y bydd dangos ymrwymiad y Siciaid i heddwch i鈥檙 myfyrwyr yn gallu ailystyried eu syniadau ynghylch yr hyn ydi heddychiaeth, heddwch a gwrthdaro.
听
Heddwch yn ein Haddysg
Mae鈥檙 pecyn adnoddau wrthi鈥檔 cael ei olygu ar hyn o bryd ac yn cael ei safoni gan arbenigwyr yn y maes, ond mae croeso i athrawon a鈥檙 sawl sydd 芒 diddordeb yn y prosiect gysylltu er mwyn dysgu mwy am y pecyn, drwy e-bostio: ncrew@bangor.ac.uk.
Rhai o鈥檙 testunau a archwilir yn y pecyn adnoddau yw:
- Diffiniadau a symbolau.
- Crefydd a heddwch: Cristnogaeth, Bwdhaeth, Iddewiaeth, Siciaeth, Islam, Jediiaeth.
- Yr amgylchedd, gwleidyddiaeth a heddwch.
- Gwrthdaro mewnol.
- Heddwch a gwrthdaro lleol: bwlio.
- Rhyfel a heddwch.
- Ffigyrau nodedig.
- Enghreifftiau Cymreig megis Henry Richards, yr 鈥楢postol Heddwch鈥 a Deiseb Heddwch y Merched (1923-1924).