Edrychodd yr astudiaeth, a arweiniwyd gan ymchwilwyr o Brifysgol 香港六合彩挂牌资料 ac a ariannwyd gan Sefydliad Nuffield a'r Academi Brydeinig, ar effaith cysylltiadau cymunedol a chymdeithasol ar allu pobl i gael mynediad at gyngor a chymorth i ddatrys problemau lles cymdeithasol.
Canfuwyd bod maint rhwydweithiau cymdeithasol pobl a鈥檙 cysylltiadau rhyngddynt yn darparu cymorth cyfyngedig i ddatrys y problemau lles cymdeithasol y maent yn eu hwynebu. Y ffactor bwysicaf yw natur y broblem ei hun: mae problemau gyda budd-daliadau a phroblemau ariannol fel arfer yn haws eu datrys o gymharu 芒 phroblemau sy鈥檔 ymwneud 芒 thai, gofal cymdeithasol, anghenion addysgol arbennig ac iechyd meddwl.听
Meddai鈥檙 prif ymchwilydd Dr Sarah Nason, o Ysgol Hanes, y Gyfraith a Gwyddorau Cymdeithas ym Mhrifysgol 香港六合彩挂牌资料: 鈥Dyled, budd-daliadau, anghenion addysgol arbennig, problemau gofal iechyd, mae'r rhain i gyd yn broblemau bob dydd y mae llawer ohonom yn eu hwynebu, ac mae鈥檔 hollol naturiol troi at bobl rydych yn eu hadnabod ac yn ymddiried ynddynt am gymorth a chyngor. Ond rydym wedi canfod bod gorfod siarad 芒 mwy o bobl neu wasanaethau cefnogi yn arwydd bod y broblem yn fwy cymhleth ac anodd ei datrys.鈥
Astudiodd y t卯m bedair ardal wahanol ar draws Cymru a Lloegr: Bryngwran, pentref ym M么n yng ngogledd Cymru; Deeplish, rhan o Rochdale ar gyrion Manceinion; Dartmouth, tref yn Nyfnaint; a thair ward ym mwrdeistref Hackney yn Llundain.
Cynhaliodd yr ymchwilwyr gyfweliadau unigol gyda 191 o bobl i gyd, gan fapio gyda phwy roedd y cyfranogwyr yn siarad yn rheolaidd, megis ffrindiau, teulu, cydweithwyr neu wirfoddolwyr cymunedol, ac at bwy y gallent droi gydag unrhyw broblemau鈥檔 ymwneud 芒 lles cymdeithasol. Gofynnwyd iddynt hefyd faint o'r cysylltiadau hyn oedd yn adnabod ei gilydd, er mwyn gweld faint o gysylltiadau oedd gan yr unigolyn yn ei rwydwaith cymdeithasol.
Siaradodd yr ymchwilwyr hefyd 芒 sefydliadau cymunedol ac awdurdodau lleol, gan nodi ffynonellau o gyngor ffurfiol ac anffurfiol a chefnogaeth gymunedol ym mhob ardal.
Canfuwyd bod gan unigolion a oedd yn byw yn y cymunedau gwledig yn Nyfnaint a gogledd Cymru rwydweithiau mwy gyda mwy o gysylltiadau, o gymharu 芒 rhwydweithiau gyda llai o bobl a llai o gysylltiadau yn y lleoliadau trefol yn Hackney. Yn Deeplish yn Rochdale, roedd y rhwydweithiau cymdeithasol yn gymharol fach, ond gyda chysylltiadau eithaf da. Roedd hyn yn gysylltiedig ag ethnigrwydd, roedd mwyafrif y cyfranogwyr yn Deeplish yn dod o Dde Asia a ganddynt hwy oedd y rhwydweithiau gyda'r gyfran uchaf o aelodau'r teulu ynddynt. Roedd gan y bobl wyn a nododd eu bod yn Saeson rwydweithiau cymdeithasol llai yn gyffredinol na'r rhai a nododd eu bod yn Brydeinwyr neu'n Gymry. Roedd y rhwydweithiau mwyaf cysylltiedig ymhlith pobl a nododd eu bod yn Gymry.
Canfu'r ymchwilwyr hefyd fwy o debygrwydd rhwng rhwydweithiau cymdeithasol ym mhob cymuned yn yr astudiaeth na rhwng rhai pobl gyda nodweddion unigol, megis oedran, rhyw, statws cyflogaeth neu anabledd yn ardaloedd yr astudiaeth.
Meddai Dr Nason: 鈥Nid bwriad ein hymchwil yw bod yn gynrychioliadol yn ystadegol o鈥檙 ardaloedd yn yr astudiaeth, gan mai dim ond gr诺p cymharol fach o bobl ym mhob cymuned y b没m yn eu cyfweld. Ond o'r cyfweliadau hynny ac o'n dadansoddiadau, mae lleoliad ac ethnigrwydd yn ymddangos yn ffactorau pwysig er mwyn deall sut mae pobl yn ymwneud 芒'u cymuned ac yn ceisio cefnogaeth. Mae hyn yn tanlinellu pwysigrwydd darparu cefnogaeth a chyngor sy鈥檔 lleol, yn gymunedol ac yn ddiwylliannol sensitif yn hytrach na darparu gwasanaethau 鈥榶r un fath i bawb鈥 ar lefel genedlaethol.鈥
Er bod llawer o wasanaethau'n symud i 'ddigidol yn ddiofyn' yn hytrach na chynnig cefnogaeth wyneb yn wyneb, nid oedd gwasanaethau digidol yn bodloni anghenion llawer o bobl. Ym mhob ardal yn yr astudiaeth, dywedodd y cyfranogwyr fod cael gafael ar gefnogaeth a chyngor yn lleol ac yn y cnawd yn bwysig iddynt, ac roedd llawer o bobl yn ystyried bod mynediad lleol yn 听hanfodol.听
Er y gwahaniaethau rhwng y pedair ardal yn yr astudiaeth, canfu'r ymchwilwyr mai dim ond effaith gyfyngedig oedd maint a chysylltiad rhwydweithiau cymdeithasol yn ei gael ar y tebygolrwydd y byddai problemau lles cymdeithasol pobl yn cael eu datrys.
Y ffactor fwyaf wrth ddatrys problemau oedd natur y broblem ei hun. Yn y pedair ardal, roedd pobl 芒 phroblemau鈥檔 ymwneud 芒 budd-daliadau lles neu broblemau ariannol yn fwy tebygol o fod wedi cael cymorth gan wasanaethau cynghori ffurfiol a chael datrys eu problemau na phobl gyda phroblemau鈥檔 ymwneud 芒 thai, gofal cymdeithasol, darpariaeth anghenion addysgol arbennig neu wasanaethau iechyd meddwl.
鈥淢ae yna brosesau sydd wedi hen ennill eu tir i ddelio ag anghydfodau lles neu ddyled, ac er y gall y rhain fod yn frawychus, gyda chefnogaeth a鈥檙 cyngor cywir mae鈥檙 problemau hyn yn cael eu datrys yn gyffredinol,鈥 meddai Dr Nason. 鈥淥nd mae鈥檔 amlwg bod y problemau oedd leiaf tebygol o gael eu datrys yn ymwneud 芒 gwasanaethau awdurdodau lleol sydd wedi dioddef toriadau sylweddol yn y gyllideb dros y degawdau diwethaf, a lle mae gwasanaethau wedi eu hymestyn i鈥檙 fath raddau nad ydynt yn gallu dod i ben 芒鈥檜 gwaith mwyach. Ni all rhwydweithiau cymdeithasol cryfach a mwy o gefnogaeth a chyngor wneud iawn yn llwyr am y diffyg buddsoddiad yn y gwasanaethau cyhoeddus.鈥
Ffactorau eraill oedd yn effeithio ar allu pobl i gael cefnogaeth oedd diffyg addysg yngl欧n 芒 hawliau, ymwybyddiaeth gyfyngedig o wasanaethau cynghori, teimladau o stigma neu gywilydd wrth geisio cymorth, a cholli ffydd yn y wladwriaeth. Ond roedd arwyddoc芒d pob un o'r ffactorau hyn yn wahanol yn ardaloedd yr astudiaethau. Er enghraifft, roedd stigma/cywilydd yn cael ei ystyried yn broblem benodol yng nghefn gwlad gogledd Cymru, roedd diffyg addysg ffurfiol yn her yn Rochdale, ac roedd diffyg ffydd yn y wladwriaeth ar ei uchaf ymhlith cymunedau ymylol yn Dartmouth a phobl iau yn Hackney.听
Mae鈥檙 astudiaeth yn pwysleisio鈥檙 rhan bwysig a chwaraeir gan ganolfannau neu hybiau cymunedol, sy鈥檔 darparu gwasanaethau hanfodol i鈥檞 cymunedau lleol, gan gynnwys cyngor ar les cymdeithasol. Ond mae'r ymchwilwyr yn rhybuddio bod y sefydliadau hyn yn aml yn brin o adnoddau ac na allant gymryd lle gwasanaethau cyngor cyfreithiol mwy ffurfiol.
鈥淵m mhob un o鈥檙 cymunedau yn yr astudiaeth, roedd pobl yn wirioneddol werthfawrogi hybiau neu ganolfannau lleol sy鈥檔 darparu cymorth pob dydd fel banciau bwyd,鈥 meddai Dr Nason. 鈥淥nd mae angen cyngor cyfreithiol arbenigol ar rai problemau y mae pobl yn eu hwynebu, ac mae鈥檙 canolfannau cymunedol hyn yn dibynnu ar allu cyfeirio pobl at wasanaethau mwy ffurfiol. Heb gyllid priodol i鈥檙 sector cynghori ffurfiol, bydd y problemau鈥檔 parhau. Efallai bod cymunedau鈥檔 gallu cael cymorth, ond nid ydynt yn gallu cael mynediad at gyfiawnder.鈥
I weld yr adroddiad ewch i听https://swladviceandcommunities.com/听
听