Lansio Ysgol Feddygol Gogledd Cymru: Cyfnod newydd ar gyfer addysg feddygol a gofal iechyd yng Ngogledd Cymru
Heddiw (3 Hydref, 2024) mae Ysgol Feddygol Gogledd Cymru ym Mhrifysgol Ïã¸ÛÁùºÏ²Ê¹ÒÅÆ×ÊÁÏ yn cael ei lansio’n swyddogol. Mae’n garreg filltir bwysig yn yr ymdrechion i fynd i'r afael ag anghenion gofal iechyd Gogledd Cymru. Cafodd yr ysgol ei sefydlu i chwarae rhan hanfodol yn y gwaith o hyfforddi meddygon y dyfodol er mwyn gwasanaethu GIG Cymru a phobl y rhanbarth.
Mae'r garfan gyntaf o fyfyrwyr meddygol, sy'n cynnwys cymysgedd o bobl ifanc sydd wedi gadael yr ysgol a myfyrwyr graddedig, wedi dechrau astudio ym Mhrifysgol Ïã¸ÛÁùºÏ²Ê¹ÒÅÆ×ÊÁÏ y semester hwn. Nhw fydd y rhai cyntaf i gael eu holl hyfforddiant meddygol yn y Gogledd.
Eleni, bydd yr ysgol yn derbyn 80 o fyfyrwyr, ond bydd y nifer yn cynyddu'n raddol i gyrraedd 140 y flwyddyn o 2029-30 ymlaen. Dechreuodd y gwaith cynllunio ar gyfer yr Ysgol Feddygol newydd yn 2020, pan gytunodd Prifysgol Ïã¸ÛÁùºÏ²Ê¹ÒÅÆ×ÊÁÏ, Prifysgol Caerdydd, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr a Llywodraeth Cymru i weithio mewn partneriaeth i sefydlu'r ysgol.
Mae thema'r lansiad, ‘Cyfnod Newydd ar gyfer Addysg Feddygol yng Ngogledd Cymru,’ yn tynnu sylw at yr effaith drawsnewidiol y bydd yr Ysgol yn ei chael. Dros y degawd nesaf, disgwylir i'r Ysgol Feddygol dderbyn a hyfforddi cannoedd o fyfyrwyr drwy raglen israddedig 5 mlynedd a llwybr Mynediad i Raddedigion 4 blynedd. Drwy gynyddu cyfleoedd hyfforddi, bydd yr Ysgol yn helpu i fynd i'r afael â heriau gofal iechyd lleol ac yn annog mwy o feddygon cymwys i aros a gweithio yn y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru.
Un o agweddau unigryw'r rhaglen yw y bydd myfyrwyr yn cwblhau eu trydedd flwyddyn ar ei hyd allan yng nghymunedau Gogledd Cymru, gan ennill profiad amhrisiadwy mewn Meddygaeth Teulu a fydd yn eu paratoi at eu gyrfa yn y dyfodol. Y profiad clinigol hwn a'r bartneriaeth â Phrifysgol Caerdydd sydd wedi gosod y sylfaen ar gyfer sefydlu ysgol feddygol annibynnol yng Ngogledd Cymru.
Dywedodd y Prif Weinidog, Eluned Morgan, “Mae recriwtio meddygon medrus yn her fawr ar draws y Deyrnas Unedig ac Ewrop. Bydd yr Ysgol Feddygol yn gam enfawr ymlaen ar gyfer recriwtio meddygon yng Nghymru, gan alluogi mwy o fyfyrwyr meddygol i hyfforddi yn y rhanbarth, sy'n dda i'n Gwasanaeth Iechyd, yn enwedig yn y Gogledd.
"Mae sefydlu'r Ysgol Feddygol yn cyflawni un o ymrwymiadau ein Rhaglen Lywodraethu ar gyfer y rhanbarth, ac yn benllanw pum mlynedd o waith caled gan y bwrdd iechyd a'r prifysgolion. Cyn bo hir, bydd yr ysgol yn cyflenwi meddygon i'r Gwasanaeth Iechyd – a'r rheini wedi cael hyfforddiant modern o'r radd flaenaf fydd yn eu galluogi i ddarparu gofal rhagorol yn y dyfodol."
Dywedodd yr Athro Edmund Burke, Is-ganghellor Prifysgol Ïã¸ÛÁùºÏ²Ê¹ÒÅÆ×ÊÁÏ, "Wrth i Brifysgol Ïã¸ÛÁùºÏ²Ê¹ÒÅÆ×ÊÁÏ ddathlu 140 mlynedd ers ei sefydlu, mae cael lansio Ysgol Feddygol Gogledd Cymru yn garreg filltir allweddol i'r brifysgol ac i'r rhanbarth. Mae'n adlewyrchu ein hymrwymiad i addysg ragorol, i ymchwil arloesol, ac yn adlewyrchu’r ymrwymiad i fynd i'r afael ag anghenion gofal iechyd yn lleol. Ar y cyd â'n partneriaid, rydym yn llunio dyfodol iachach drwy hyfforddi'r genhedlaeth nesaf o weithwyr gofal iechyd proffesiynol yn ein cymunedau."
Dywedodd Dyfed Edwards, Cadeirydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, "Bydd yr Ysgol Feddygol newydd yn allweddol wrth helpu i fynd i'r afael â'r heriau o ran hyfforddi a dal gafael ar feddygon, a bydd yn cryfhau'r ddarpariaeth o ran gofal iechyd dwyieithog ar draws y rhanbarth. Rydym yn cydnabod bod meddygon yn tueddu i ymarfer yn agos at lle buon nhw'n hyfforddi, felly'r nod yw annog myfyrwyr i ddatblygu gyrfaoedd gydol oes yn y Gogledd, er budd y boblogaeth leol a chymunedau lleol.
"Bydd cyfleoedd hefyd, drwy ein gwaith partneriaeth, ar gyfer datblygiadau o ran ymchwil ac arloesi. Bydd hyn yn cael effaith gadarnhaol ar recriwtio a dal gafael ar feddygon yn ogystal â gwella canlyniadau i gleifion. Rydym yn edrych ymlaen at barhau i weithio gyda Phrifysgol Ïã¸ÛÁùºÏ²Ê¹ÒÅÆ×ÊÁÏ i gyflenwi carfan newydd o feddygon cymwysedig a fydd yn helpu i ddarparu gofal iechyd yn y dyfodol."
Mae Ysgol Feddygol Gogledd Cymru yn adeiladu ar lwyddiant Rhaglen Meddygaeth Gogledd Cymru C21, a gyflwynwyd mewn partneriaeth â Phrifysgol Caerdydd. Bydd y rhaglen newydd ym Mangor yn parhau i ddilyn cwricwlwm meddygaeth C21 Prifysgol Caerdydd yn agos, yn dilyn cael cefnogaeth gref ar hyd y daith gan Ysgol Meddygaeth Prifysgol Caerdydd. Mae lansio Ysgol Feddygol Gogledd Cymru yn arwydd o ddyfodol mwy disglair i ofal iechyd yn y rhanbarth. Mae'r Ysgol Feddygol newydd nid yn unig yn cynrychioli buddsoddiad mewn addysg ond yn arwydd o ymrwymiad Prifysgol Ïã¸ÛÁùºÏ²Ê¹ÒÅÆ×ÊÁÏ i wella iechyd a lles cenedlaethau'r dyfodol.