香港六合彩挂牌资料

Fy ngwlad:
CGVC 2024 Attendees

Arbenigwyr Delweddu Data yn Rhannu Ymchwil ar Graffeg Gyfrifiadurol a Chyfrifiadura Gweledol 2024 yng Nghanol Llundain

Bu tri ymchwilydd o'r Ysgol Cyfrifiadureg a Pheirianneg yn cyflwyno eu hymchwil yng Nghynhadledd hirsefydlog Graffeg Gyfrifiadurol a Chyfrifiadura Gweledol () 2024 yn Llundain. Cyflwynasant eu hymchwil arloesol i gynulleidfa ryngwladol.听

Trefnir y digwyddiad gan Gymdeithas Ewrograffeg y Deyrnas Unedig ers 1983, pan gynhaliwyd y digwyddiad cyntaf ar 28-29 Mawrth 1983 ym Mhrifysgol Efrog. Daeth ymchwilwyr, diwydiant ac academyddion o'r byd cyfrifiadura gweledol ynghyd a chynnig llwyfan i drafodaethau blaengar yngl欧n 芒 graffeg gyfrifiadurol a delweddu data.

Cyflwynodd yr Athro Jonathan C. Roberts bapur llawn ynghylch authentic Assessment, ac eglurodd sut mae鈥檔 arwain myfyrwyr i greu gwaith celf delweddu data-celf drostynt eu hunain, a gaiff ei arddangos mewn arddangosfa gelf ddiwedd y flwyddyn. Cyflwynodd Mrs Rhiannon Owen, myfyrwraig PhD a ariannwyd gan raglen hyfforddiant doethurol Deallusrwydd Artiffisial, Dysgu Peirianyddol a Chyfrifiadura Uwch (AIMLAC) a ariennir gan UKRI, ei gwaith ar ganllawiau ar gyfer arddangos delweddu clir ar boster. Yn olaf, cyflwynodd Mr Aron Owen, myfyriwr PhD o'r ysgol, bynciau a gododd yn hwyr ar ffurf cyflwyniad poster, yngl欧n 芒 defnyddio Deallusrwydd Artiffisial i helpu dylunwyr delweddu greu gwahanol ffugiadau delweddau, gan gynnig cipolwg ar ei ganfyddiadau diweddaraf.

Creating Data Art: Authentic Learning and Visualisation Exhibition,
Jonathan C. Roberts [] []

Visual Storytelling: A Methodological Approach to Designing and Implementing a Visualization Poster
Rhiannon S. Owen and Jonathan C. Roberts听 [] [ ]

Towards a Generative AI Design Dialogue 听
Aron E Owen, Jonathan C. Roberts [] []听

Y tu hwnt i'r cyfnewid deallusol, bu鈥檙 ymchwilwyr yn mwynhau diwylliant cyfoethog Llundain. Ar 么l diwrnod cynhyrchiol yn y gynhadledd, aeth cynrychiolwyr am dro i weld golygfeydd hynod Llundain. Cerddasant heibio i Eglwys Gadeiriol eiconig Sant Pawl, a chroesi pont drawiadol y Mileniwm, a mwynhau golygfeydd nenlinell Llundain a cherdded ar lan Afon Tafwys. Ar eu hynt, cawsant hufen i芒 ac edmygu'r amgylchedd hanesyddol. Yn ddiweddarach, daethant hyd y South Bank, a mwynhau noson hamddenol o fyrgyrs a gemau, a gwneud yn fawr o'r awyrgylch bywiog.

Unwaith eto llwyddodd Cynhadledd 2024, sy'n adnabyddus am feithrin cydweithrediad rhwng ymchwilwyr a gweithwyr proffesiynol y diwydiant, i symud ymlaen ym maes cyfrifiadura gweledol. Bydd y papurau a gyflwynwyd ar gael yn fuan yn Llyfrgell Ddigidol Eurographics, gan gyfrannu at ddatblygiadau parhaus mewn delweddu a dadansoddi data.

Cefais brofiad gwych yn y Gynhadledd, lle cyflwynais fy mhapur ymchwil cyntaf. Bu鈥檔 anrhydedd imi hefyd dderbyn ysgoloriaeth er cof am yr Athro Nigel John, a fu'n ymwneud yn frwd 芒 chynadleddau EGUK yn y gorffennol ac a fu farw y llynedd er mawr tristwch. Trwy鈥檙 ysgoloriaeth honno y medrwn fod yn bresennol yn y gynhadledd.

Mrs Rhiannon Owen,  PhD student