Mae adar mudol yn adnabyddus am eu gallu i hedfan am filoedd o gilometrau i gyrraedd eu tiroedd magu neu aeafu. Canfu ymchwil gan Brifysgol 香港六合彩挂牌资料 a gyhoeddwyd gan fod yr adar, ac yn yr achos hwn, telor y cyrs Ewrasiaidd (Acrocephalus scirpaceus) yn defnyddio goledd a gogwydd magnetig y Ddaear yn unig i bennu eu lleoliad a'u cyfeiriad. Mae hynny鈥檔 herio'r gred hirsefydlog bod holl elfennau maes magnetig y Ddaear, yn enwedig dwysedd cyfan, yn hanfodol ar gyfer awyrlywio cywir.
Credai gwyddonwyr ers tro fod yr adar yn defnyddio system 鈥榤ap-a-chwmpawd': yn gyntaf maent yn pennu eu lleoliad gyda "map" ac yna maent yn defnyddio "cwmpawd" i鈥檞 cyfeirio eu hunain i'r cyfeiriad cywir. Fodd bynnag, bu union natur y 鈥榤ap鈥 yn destun dadl barhaus.
Mewn arbrawf manwl a gofalus, roedd y teloriaid yn agored i werthoedd goledd a gogwydd magnetig a newidiwyd yn artiffisial, sy鈥檔 efelychu鈥檙 dadleoli ar leoliad daearyddol gwahanol gan gadw dwysedd magnetig cyfan yn ddigyfnewid.
Er gwaethaf y 鈥榙adleoli rhithwir鈥, addasodd yr adar eu llwybrau mudol megis pe baent yn y lleoliad newydd, a dangos ymddygiad cydadferol. Mae'r ymateb hwnnw鈥檔 awgrymu y gall adar dynnu gwybodaeth leoliadol a chyfeiriadol o giwiau magnetig, hyd yn oed pan fo elfenau eraill maes magnetig y Ddaear, megis dwysedd cyfan, yn aros yn ddigyfnewid.
Rhoddodd yr ymchwil dystiolaeth gref fod adar mudol yn dibynnu ar oledd a gogwydd i bennu eu lleoliad, hyd yn oed pan fo'r ciwiau hynny鈥檔 gwrthdaro ag elfennau eraill y maes magnetig.
鈥淵r hyn sy鈥檔 ddiddorol yw bod y canfyddiadau鈥檔 datgelu nad oes angen holl elfennau maes magnetig y Ddaear ar yr adar o reidrwydd i bennu eu lleoliad,鈥 meddai'r Athro Richard Holland, sy'n arbenigo mewn ymddygiad anifeiliaid ac a arweiniodd yr astudiaeth.
鈥淕allant ddibynnu'n llwyr ar oledd a gogwydd, a ddefnyddir hefyd gyda chyfeiriadedd y cwmpawd, i dynnu eu lleoliad.鈥
Mae'r astudiaeth yn herio鈥檙 rhagdybiaethau blaenorol bod holl elfennau maes magnetig y Ddaear, yn enwedig y dwysedd cyfan, yn angenrheidiol ar gyfer awyrlywio cywir.
鈥淣i wyddys a yw adar yn defnyddio dwysedd cyfan maes magnetig y Ddaear i awyrlywio mewn cyd-destunau eraill, ond yr hyn yr ydym wedi'i ddangos yw bod y ddwy elfen hon - goledd a gogwydd magnetig - yn ddigon i ddarparu gwybodaeth leoliadol,鈥 esboniodd Richard.
Mae'r darganfyddiad hwn yn hybu dealltwriaeth o ran sut mae adar yn awyrlywio ac yn cefnogi'r ddamcaniaeth bod gan adar system lywio fewnol gymhleth a hyblyg. Mae'r mecanwaith hwn yn fodd iddynt addasu i newidiadau yn eu hamgylchedd, hyd yn oed os byddant yn dod ar draws amodau nad ydynt erioed wedi'u profi o'r blaen.
Mae'r canfyddiadau'n agor llwybrau newydd i ymchwil sy鈥檔 ymwneud 芒 llywio ymhlith anifeiliaid a gall fod goblygiadau i astudiaethau biolegol ehangach, gan gynnwys sut mae anifeiliaid yn rhyngweithio 芒'u hamgylchedd ac yn ei ddehongli.