Adroddiad yn dangos cyfleoedd wrth gyflwyno ardoll ymwelwyr yng Nghymru
Heddiw mae Prifysgol ϲʹ wedi cyhoeddi adroddiad ar effaith ardoll ymwelwyr o amgylch y byd, ar yr un diwrnod, ddydd Llun, 25 Tachwedd 2024, mae Llywodraeth Cymru yn cyflwyno Bil i’r Senedd er mwyn rhoi pwerau i Awdurdodau Lleol gyflwyno ardoll ymwelwyr.
Mae’r adroddiad, sydd wedi’i ariannu gan Lywodraeth Cymru, yn dadansoddi ardoll ymwelwyr mewn saith cyrchfan rhyngwladol. Mae’n nodi argymhellion clir ar sut y dylai Awdurdodau Lleol weithredu’r dreth newydd yma yng Nghymru. Mae’r rhain yn canolbwyntio ar sut y dylid talu’r refeniw o’r dreth, a sut y dylid gwerthuso effaith y gwariant hwnnw.
“Mae twristiaeth yn rhan bwysig o economi Cymru, ond ar hyn o bryd mae cyflogau isel a swyddi tymhorol yn gyffredin, ac nid yw wastad yn dod â manteision mawr i gymunedau” medd Dr Rhys ap Gwilym, Uwch Ddarlithydd mewn Economeg yn Ysgol Busnes ϲʹ. Cynhaliodd Rhys yr ymchwil gyda'i gydweithiwr Dr Linda Osti, Uwch Ddarlithydd mewn Rheoli Twristiaeth, Prifysgol ϲʹ.
“Mae gan yr Ardoll Ymwelwyr y potensial i drawsnewid y sector yng Nghymru, cyn belled â bod cynghorau yn dilyn yr arfer gorau rhyngwladol yr ydym wedi’i gyflwyno yn yr adroddiad hwn,” meddai Rhys.
Tynnodd Dr Linda Osti sylw at Sefydliadau Rheoli Cyrchfan (DMOs) yn Ne Tyrol, yr Eidal, a sefydlwyd i hwyluso eu treth dwristiaeth. “Mae DMOs ar lefel leol yn defnyddio refeniw ardoll er budd y sector twristiaeth ac er lles cymunedau lleol. Rydym wedi gweld enghreifftiau o’r cronfeydd hynny sy’n cefnogi tai fforddiadwy, trafnidiaeth gyhoeddus, a hyd yn oed noddi gorsafoedd radio lleol. Gallai sefydliadau o’r fath fod o fudd mawr i Gymru.”
Mae’r astudiaeth yn dadansoddi ardoll ymwelwyr mewn saith cyrchfan rhyngwladol ac yn bennu argymhellion clir ar sut y dylai Awdurdodau Lleol weithredu’r dreth newydd yma yng Nghymru. Mae’r rhain yn canolbwyntio ar sut y dylid talu’r refeniw o’r dreth, a sut y dylid gwerthuso effaith y gwariant hwnnw.
Dywedodd Linda, “dylai prosiectau a ariennir gyd-fynd ag amcanion clir, boed wedi’u hanelu at wella cynaliadwyedd y diwydiant twristiaeth neu gefnogi llesiant diwylliannol, cymdeithasol neu amgylcheddol y cymunedau sy’n eu cynnal.” Mae Rhys yn cytuno, ac mae’n galw hefyd am dryloywder o ran manylion gweithgareddau a ariennir i adeiladu ymddiriedaeth y cyhoedd a sicrhau atebolrwydd.