Mae un o lynnoedd d诺r croyw mwyaf y byd yn profi鈥檔 fodel defnyddiol i ragweld sut mae tywydd poeth yn sbarduno blymau syanofacteria a allai fod yn niweidiol mewn llynnoedd d诺r croyw.
Mae ewtroffeiddio, y cylch lle mae maetholion yn gorsymbylu twf neu 鈥榖lymau鈥 plancton neu syanofacteriaidd a allai fod yn niweidiol, mewn llynnoedd d诺r croyw yn broblem mewn 60% a mwy o鈥檙 ddyfroedd mewndirol byd-eang. Mi wnaiff y newid yn yr hinsawdd waethygu鈥檙 broblem, a鈥檙 flaenoriaeth inni felly yw lleihau mewnbynnau maetholion allanol er mwyn lleihau sail achosion blodau syanofacteraidd.
Mae astudiaeth o lyn yn Tsieina, sy鈥檔 ffynhonnell bwysig o dd诺r i fwy nag 20 miliwn o bobl ac i ddiwydiant, yn dangos y mecanweithiau rhwng tywydd poeth ar lynnoedd a 'blymau' syanofacteraidd a allai fod yn wenwynig.
Mae ymchwil Dr Iestyn Woolway o Brifysgol 香港六合彩挂牌资料 a chydweithwyr ymchwil yn Academi Gwyddorau Tsieina, Nanjing, 聽a Phrifysgol Aarhus, Denmarc, a gyhoeddwyd yn Science of the Total Environment () yn astudio'r tywydd poeth a brofwyd yn 2022 yn Llyn Taihu, un o lynnoedd d诺r croyw mwyaf Tsieina yn nelta Yangtze, ac mae'r syanofacteria dan sylw鈥檔 lluosi mewn nifer. (Mae syanofacteria鈥檔 debyg i blancton. O dan rai amodau gallant ffynnu mewn d诺r croyw a pheri niwed i blanhigion ac anifeiliaid eraill).
Cynnydd yn nhymheredd yr aer ar yr wyneb yw un o ganlyniadau mwyaf cydnabyddedig y newid yn yr hinsawdd o waith dyn.聽 Mewn llynnoedd, mae 'd诺r ffo' o weithgareddau dynol eraill yn gwaethygu pethau trwy ychwanegu maetholion i'r llynnoedd, ac mae'r rheini yn eu tro鈥檔 helpu'r syanobacteria ffynnu. Mae cynnydd yn nhymheredd d诺r wyneb y llyn yn effeithio ar holl amgylchedd y llyn.
Dywed Woolway,
鈥淵n ogystal 芒 sicrhau bod llai o dd诺r ffo鈥檔 mynd i dd诺r croyw yn sgil ein gweithgareddau, dylem anelu at fonitro systematig, rhagfynegi a rhybuddion cynnar i leihau effaith niweidiol tywydd poeth ar ecosystemau llynnoedd. Mae angen inni ddeall yn well y mecanweithiau a鈥檙 sbardunau mewn llynnoedd sydd 芒 lefelau maetholion gwahanol er mwyn llunio strategaethau i fynd i鈥檙 afael 芒 newid hinsawdd ac addasu iddo.鈥
Wrth egluro'r cefndir ychwanega Woolway,
鈥淢ae鈥檙 cyfan yn gylch dieflig mewn tywydd poeth. Mae tymheredd uwch yn lleihau鈥檙 cymysgu fertigol yn y golofn d诺r croyw. Mae hynny o fudd i鈥檙 syanobacteria sydd ar wyneb y d诺r sy鈥檔 ffurfio bl诺m trwchus ar yr wyneb. Mae'r bl诺m trwchus hynny, yn ei dro, yn cynyddu tymheredd y d诺r ychydig. Mae'r gwyntoedd is a brofir mewn tywydd poeth hefyd yn peri bod llai o gymysgu yn y golofn dd诺r a bod llai o ocsigen toddedig yn y d诺r. Yn ei dro, mae鈥檙 lefelau ocsigen toddedig isel ar waelod y llyn yn peri cynnydd yn y ffosfforws sy鈥檔 codi o鈥檙 gwaddod, ac mae hynny鈥檔 cefnogi twf pellach o fwy o syanofacteria.鈥
鈥淩hagwelir y bydd tywydd poeth yn cynyddu un ar ddeg gwaith yn ystod y ganrif hon, a bydd effeithiau negyddol dwys yn sgil hynny ar strwythur, swyddogaeth a gwasanaethau ecosystemau鈥檙 systemau dyfrol.鈥