DIWRNOD GRYMUSO CWNSELA
Ar 9 Mai, buodd t卯m MSc Cwnsela Prifysgol 香港六合彩挂牌资料, gyda chyllid gan y t卯m Byddwch Fentrus, yn cynnal 鈥淒iwrnod Grymuso Cwnsela.鈥 Bwriad y digwyddiad hwn oedd gwella gwybodaeth a sgiliau cwnselwyr cymwysedig, cwnselwyr dan hyfforddiant a darpar gwnselwyr, gan ganolbwyntio ar sgiliau cwnsela a sgiliau busnes.
Mae Byddwch Fentrus yn cefnogi myfyrwyr Prifysgol 香港六合彩挂牌资料 a graddedigion o Gymru i ddatblygu sgiliau menter neu i ddechrau busnesau.
Roedd y digwyddiad yn cynnwys siaradwyr gwadd a fu鈥檔 trafod meysydd arbenigol o fewn cwnsela, datblygu gyrfa, a chynllunio busnes. Roedd y prif siaradwyr Ken Kelly a Rory Lees-Oakes o "Counselling Tutor" yn pwysleisio pa mor bwysig yw dod o hyd i'ch niche. Rhannodd arbenigwyr eraill eu profiadau mewn meysydd megis materion LHDTC+, amrywiaeth, ac iechyd meddwl mewn chwaraeon. Roedd y cyflwynwyr yn cynnwys Jack Jackson (Gwasanaethau Llesiant y Brifysgol), James Donaldson (Chwaraeon El卯t a鈥檙 Cyfryngau), Neal Trotman (Iechyd Meddwl mewn Chwaraeon), a Danny Jones (Plant a Phobl Ifanc). Rhoddodd y siaradwyr fewnwelediadau i weithio gyda chleientiaid sy'n wynebu gwahanol heriau gan rannu eu profiadau o weithio mewn lleoliadau amrywiol, gan gynnwys ysgolion, prifysgolion, y fyddin, ac ymarfer preifat.
Yn ogystal, roedd y cyflwyniadau'n ymdrin 芒 chefnogaeth ariannol ar gyfer ymarfer preifat a datblygu modelau busnes 芒 ffocws arbenigol. Bu Alan Edwards, sef Pennaeth y Gwasanaethau Myfyrwyr Rhyngwladol, ynghyd 芒 chyn-fyfyrwyr rhyngwladol, yn trafod gofynion fisa a chyflogaeth i raddedigion.
Roedd y digwyddiad yn llwyddiant mawr, gyda 70 yn bresennol yn y cnawd a 100 yn bresennol ar-lein. Roedd yr adborth yn hynod gadarnhaol, gan amlygu effaith y digwyddiad ar gynllunio gyrfa a chyfleoedd rhwydweithio. Roedd y cyflwynwyr yn canmol trefniadaeth y digwyddiad a'i eiriolaeth dros therapyddion y dyfodol. Mae cynllunio ar gyfer Diwrnod Grymuso Cwnsela鈥檙 flwyddyn nesaf eisoes ar y gweill.
听