Mewn , mae ymchwilwyr ym Mhrifysgol Ïã¸ÛÁùºÏ²Ê¹ÒÅÆ×ÊÁÏ wedi bod yn dadansoddi trethi ar economïau ymwelwyr ac yn cymharu’r sefyllfa yng Nghymru â mannau eraill. Defnyddir y dadansoddiad fel tystiolaeth yn yr ymgynghoriad ar yr ardoll dwristiaeth yng Nghymru.Ìý
Wrth gymharu diwydiant twristiaeth Cymru â gweddill y Deyrnas Unedig a gwledydd Ewrop, mae rhai cymariaethau ac ystadegau diddorol wedi dod i'r amlwg. Mae dadansoddiad gan yr economegydd Dr Rhys ap Gwilym a’i gydweithwyr yn Ysgol Busnes Prifysgol Ïã¸ÛÁùºÏ²Ê¹ÒÅÆ×ÊÁÏ wedi tynnu sylw at y gwledydd sydd â sector twristiaeth o’r un faint a phwysigrwydd â Chymru.Ìý
Datgelodd y dadansoddiad mai Denmarc, Sweden, yr Iseldiroedd, Norwy a Ffrainc sydd â sector twristiaeth sydd fwyaf tebyg i sector twristiaeth Cymru. O ddewis y rhain fel 'cymaryddion', mae wedi dod i’r amlwg y byddai’n amgenach cymharu sector twristiaeth Cymru, yn economaidd, â'r pum gwlad hyn yn hytrach na'r sector cyfagos yn Lloegr, yr Alban ac Iwerddon. Seiliwyd y dadansoddiad ar nifer o ffactorau gan gynnwys canran y cynnyrch mewnwladol crynswth (CMC) a gyfrannwyd gan y sector a chanran y boblogaeth a gyflogir yn y sector twristiaeth.
³Ò·É±ð±ô²â²¹³ÜÌý
Cynhyrchodd y dadansoddiad hefyd ganlyniadau diddorol mewn perthynas â chapasiti. Roedd Cymru ar frig y tabl Ewropeaidd o ran capasiti llety i dwristiaid y pen.
Meddai Dr Rhys ap Gwilym: “Un canfyddiad sy’n peri syndod o’r data crai yw mai Cymru yw’r wlad sydd â’r nifer fwyaf o welyau i dwristiaid y pen o’r boblogaeth o unrhyw wlad Ewropeaidd. Mae llawer iawn o letyau Cymru mewn meysydd gwersylla a charafanau, yn hytrach na gwestai. Un canlyniad i hyn yw nad yw capasiti twristiaeth uchel Cymru yn trosi’n gyfraniadau uchel at gyflogaeth neu incwm.â€
Hefyd, roedd tebygrwydd rhwng Cymru a’r pum gwlad gymharol er gwaethaf y ffaith bod eu systemau treth yn wahanol iawn. Mae gan wledydd Sgandinafia refeniw treth cyffredinol uwch fel cyfran o CMC, a lefelau llawer uwch o wariant gan y llywodraeth. O'r pump, dim ond dwy, Ffrainc a'r Iseldiroedd, sy’n codi ardoll dwristiaeth.
“Mae ein dadansoddiad yn dangos bod micro-ddiwydiannau Cymru yn gwneud yn llawer gwell o dan system dreth y Deyrnas Unedig, na micro-ddiwydiannau yn yr economïau cymharol. ÌýFodd bynnag, mae menter fach i ganolig fel gwesty teuluol, gyda throsiant uwchlaw’r trothwy TAW, yn nes at y gwledydd cymharol o ran beichiau treth cyffredinol.â€
O ran y posibilrwydd o godi ardoll dwristiaeth yng Nghymru, dywedodd Rhys:
“Dim ond cyfran gymedrol (rhwng 5-15%) o’r baich treth cyffredinol yw’r ardoll dwristiaeth yn Ffrainc a’r Iseldiroedd. Yng Nghymru, os ydych yn credu bod y sector twristiaeth yn cael ei or-drethu, yna efallai y dylech ganolbwyntio ar lefel y TAW yn hytrach na’r ardoll dwristiaeth arfaethedig.â€Ìý
Mae Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd yn cynnal .Ìý Os daw i rym, gallai hyn alluogi awdurdodau lleol i godi ardoll dwristiaeth neu dreth ar bobl sy’n dod i ymweld ac yn aros am noson neu fwy.
Ìý