Roeddwn wrth fy modd yn astudio bioleg mewn prifysgol newydd i gael blas ar sut roedden nhw’n dysgu yn ogystal â darganfod pynciau newydd. Fy is-bwnc ar gyfer semester un oedd esblygiad dynol. Doeddwn i ddim yn siŵr beth i’w ddisgwyl pan gyrhaeddais fy narlith gyntaf ond cefais fy synnu pa mor ddiddorol y gallai dysgu am ein gwreiddiau fel rhywogaeth fod. Fy hoff agwedd o fewn yr is-bwnc yma oedd tarddiad ffisioleg ac anatomeg ddynol. Ymchwiliwyd yn fanwl a thrwyadl i wreiddiau rhywogaeth yr Homo sapien - Mwynheais yn arbennig edrych ar sut y gwnaethom ni esblygu wrth ymyl rhai o'n 'chwaer' rywogaethau megis Neanderthaliaid homo a Homo heildebbergensis. Un o'r rhannau difyr am y dosbarth oedd y gwaith grŵp a wnaethom ni. Cymerais ran mewn llawer o ddadleuon mewn trafodaethau grŵp, ac un o’m hoff bynciau i ddechrau trafodaeth oedd ‘a oedd iaith gan Neanderthaliaid?’.
Bu i astudio yn Leiden wirioneddol danio angerdd a diddordeb newydd ynof am esblygiad dynol ac efallai sut y gallwn i ddatblygu fy ngradd bioleg i'r maes hwn. Yn yr ail semester, cefais y cyfle i gwblhau interniaeth yn adran fioleg Leiden. Gweithiais gyda myfyrwraig PhD Danielle Crowley yn y labordy yn edrych ar amrywiad genynnau cloc o fewn crethyll tri phigyn wedi'u trin â golau artiffisial. Roedd yn gyfle anhygoel i weithio mewn labordy byd go iawn a gwneud fy nghyfraniad fy hun i bapur ymchwil.
Er fy mod yn gweld eisiau Prifysgol Ïã¸ÛÁùºÏ²Ê¹ÒÅÆ×ÊÁÏ ar adegau, roeddwn yn teimlo'n ffodus ac yn freintiedig gallu cael profiad o Fioleg mewn prifysgol newydd gydag amrywiaeth o ddarlithwyr