Elain Haf Davies
Dywedwch wrthym am eich profiad ym Mhrifysgol Ïã¸ÛÁùºÏ²Ê¹ÒÅÆ×ÊÁÏ….
Roedd fy mhrofiad ym Mhrifysgol Ïã¸ÛÁùºÏ²Ê¹ÒÅÆ×ÊÁÏ yn hynod gadarnhaol ac mi gefais nifer o gyfleoedd i ddatblygu’n bersonol ac yn broffesiynol dros bedair blynedd o astudio. Cefnogodd y Brifysgol fy nhwf personol yn ddirfawr trwy roi cyfleoedd imi ddatblygu fy hunanhyder, gwella fy sgiliau meddwl beirniadol ac annog meithrin perthnasoedd ystyrlon gyda myfyrwyr a busnesau eraill y bûm yn gweithio â nhw. Roedd darlithwyr Prifysgol Ïã¸ÛÁùºÏ²Ê¹ÒÅÆ×ÊÁÏ, yn benodol Dr Clair Doloriert, Dr Charlotte Rimmer a Dr Siwan Mitchelmore o’r cwrs Busnes a Marchnata yn hynod gefnogol ac roeddent ar gael bob amser i’m harwain i’r cyfeiriad cywir ac fy annog i ymestyn fy ngalluoedd i lwyddo’n academaidd. Ar y radd Dylunio Cynnyrch, cefais y cyfle i fynd ar dri lleoliad gwaith wyth wythnos dros dair blynedd a effeithiodd yn ddirfawr ar fy natblygiad proffesiynol trwy wella fy hyder a rhoi cyfle imi brofi damcaniaethau mewn bywyd go iawn.
Pam wnaethoch chi ddewis astudio ym Mhrifysgol Ïã¸ÛÁùºÏ²Ê¹ÒÅÆ×ÊÁÏ?
Er imi gael cynnig diamod i astudio ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd, dewisais Brifysgol Ïã¸ÛÁùºÏ²Ê¹ÒÅÆ×ÊÁÏ oherwydd ei bod yn agosach a bod cyfle i gael darlithwyr Cymraeg eu hiaith. Drwy fynychu’r diwrnod agoriadol a chwrdd â’r darlithwyr yn y cnawd, roeddwn yn gwybod mai Ïã¸ÛÁùºÏ²Ê¹ÒÅÆ×ÊÁÏ oedd y dewis gorau imi. Roedd y darlithwyr yn swnio’n hynod o gefnogol a brwdfrydig dros y cwrs.
Daeth y penderfyniad i astudio gradd meistr ym Mhrifysgol Ïã¸ÛÁùºÏ²Ê¹ÒÅÆ×ÊÁÏ yn naturiol oherwydd ar ôl profiad cadarnhaol wrth astudio ar gyfer fy ngradd baglor, Ïã¸ÛÁùºÏ²Ê¹ÒÅÆ×ÊÁÏ oedd yr unig ddewis a ystyriais yn hynny o beth. Roedd Ïã¸ÛÁùºÏ²Ê¹ÒÅÆ×ÊÁÏ yn ddigon agos imi allu byw gartref a chymudo bob dydd ac roedd y cyfan yn teimlo’n gyfforddus imi. Dewisais astudio gradd MA Busnes a Marchnata oherwydd byddwn yn graddio gyda chymhwyster deuol sef gradd Meistr Prifysgol Ïã¸ÛÁùºÏ²Ê¹ÒÅÆ×ÊÁÏ a Diploma Lefel 7 mewn Rheolaeth Strategol ac Arweinyddiaeth. Dewisais hefyd astudio’r cwrs ym Mhrifysgol Ïã¸ÛÁùºÏ²Ê¹ÒÅÆ×ÊÁÏ oherwydd ei bod yn cynnig amrywiaeth eang o bynciau i ddatblygu fy ngwybodaeth a’m sgiliau gan gynnwys Marchnata, Entrepreneuriaeth, Rheoli Adnoddau Dynol, Strategaeth a mwy.
Sut y datblygodd eich gyrfa ar ôl i chi raddio o Brifysgol Ïã¸ÛÁùºÏ²Ê¹ÒÅÆ×ÊÁÏ, a beth yw eich rôl yn y gwaith ar hyn o bryd?
Ar ôl graddio gyda gradd baglor yn 2021 ac ymgymryd â gradd meistr, daeth cyfle i weithio fel Hwylusydd Ôl-radd ar gyfer Menter Trwy Ddylunio ym Mhrifysgol Ïã¸ÛÁùºÏ²Ê¹ÒÅÆ×ÊÁÏ am 8 wythnos ac fe’m hanogwyd gan fy nhiwtor academaidd i wneud cais. Trwy weithio fel Hwylusydd Ôl-radd, cefais y profiad o gydlynu a chyflawni gweithgareddau i dîm amlddisgyblaethol o israddedigion ym Mhrifysgol Ïã¸ÛÁùºÏ²Ê¹ÒÅÆ×ÊÁÏ, i’w harwain a hwythau’n creu ac yn cyflwyno cysyniad busnes a chynnyrch/gwasanaeth i banel. Trwy gynnal gweithgareddau amrywiol, cefais gyfle gwych i gryfhau fy sgiliau arweinyddiaeth a datblygu fy hyder a meddwl yn greadigol.
Pan ddaeth y project 8 wythnos hwnnw i ben, cefais fy annog gan fy nhiwtor academaidd i wneud cais am swydd Cynorthwyydd Project a ddaeth i’r fei ar gyfer y ddwy Raglen Arwain Twf Busnes yn Ysgol Busnes Ïã¸ÛÁùºÏ²Ê¹ÒÅÆ×ÊÁÏ. Bûm yn llwyddiannus yn fy nghais a chefais gyfle i weithio i raglenni Arweinyddiaeth ION a Thwf Busnes 20Ugain yn rhan amser nes imi gwblhau fy ngradd meistr ac yna mynd yn llawn amser yn y rôl. Bu gweithio fel Cynorthwyydd Project ar y ddwy raglen Arwain Twf Busnes ym Mhrifysgol Ïã¸ÛÁùºÏ²Ê¹ÒÅÆ×ÊÁÏ yn brofiad hynod werthfawr ac unigryw na fyddai wedi digwydd pe na bawn i wedi astudio ym Mhrifysgol Ïã¸ÛÁùºÏ²Ê¹ÒÅÆ×ÊÁÏ yn fwy na thebyg. Bu gweithio mewn tîm mor wybodus a medrus yn help imi ddatblygu’n bersonol ac yn broffesiynol a byddaf yn fythol ddiolchgar i aelodau timau’r ddwy raglen am bopeth a ddysgais ganddynt dros flwyddyn a hanner ar y project.
Rwyf nawr yn cychwyn ar bennod newydd yn natblygiad fy ngyrfa trwy ddechrau ar swydd newydd yn M-SParc fel Hwylusydd Ymgysylltu Cychwyn Busnes gyda thîm Syniadau Mawr Cymru. Edrychaf ymlaen at gefnogi pobl yng Nghymru sy’n dechrau, yn rhedeg, ac yn tyfu eu busnesau drwy rannu’r adnoddau mwyaf effeithiol a’r wybodaeth gywiraf a sicrhau eu bod bob amser yn cael eu cefnogi gan y tîm.
Ym mha ffordd y gwnaeth astudio ym Mhrifysgol Ïã¸ÛÁùºÏ²Ê¹ÒÅÆ×ÊÁÏ wella eich cyflogadwyedd?
Fel rhan o radd Busnes a Marchnata, deuai’r darlithwyr â siaradwyr gwadd i mewn a oedd yn cynnig cipolwg gwych imi o’r hyn sydd ei angen i ddechrau a rhedeg busnes yng Nghymru a pha rwystrau y gallech eu hwynebu yn y broses honno. Mae’r Brifysgol hefyd yn cynnig gwaith achlysurol i’r myfyrwyr ac rwy’n argymell yn fawr i’r myfyrwyr fanteisio ar y cyfleoedd hynny. Trwy weithio fel Hwylusydd Ôl-radd cefais gyfleoedd lu i gydweithio â darlithwyr a myfyrwyr ac mi gefais i gipolwg ar waith hwylusydd a gafodd ddylanwad mawr ar fy llwybr gyrfa a ble rwyf arni’n awr. Bûm yn mynychu digwyddiadau cyflogadwyedd hefyd trwy gydol fy astudiaethau a gyda'r gwaith achlysurol bu’n help imi lunio CV da a rhoddodd awgrymiadau imi sut i wella fy sgiliau cyflogadwyedd fel y byddwn yn barod at fywyd gwaith.
Pa gyngor fyddech chi'n ei roi i fyfyrwyr sy'n astudio ym Mhrifysgol Ïã¸ÛÁùºÏ²Ê¹ÒÅÆ×ÊÁÏ?
Ceisiwch bob cyfle i ehangu eich sgiliau a’ch gwybodaeth boed hynny ar leoliadau gwaith, interniaethau haf, mynd i ddigwyddiadau neu rwydweithio gyda’r rhai o fewn y llwybr gyrfa o’ch dewis. Canolbwyntiwch ar feithrin eich sgiliau cyflogadwyedd yn ystod eich cyfnod yn y Brifysgol oherwydd maent yn hynod bwysig i’ch helpu chi baratoi at y byd go iawn ac mae llawer o gyfleoedd ar gael gan y Brifysgol i hwyluso’r broses honno o addysg hyd at gyflogaeth. Yn olaf, byddwn hefyd yn cynghori pob myfyriwr i fwynhau pob munud, gwneud ffrindiau newydd a gwneud yn siŵr eich bod yn gwneud yn fawr o'ch amser yng Ngogledd Cymru. Mae’n lle hardd ac mae cynifer o bethau i'w gweld a'u gwneud.
Mewn brawddeg, beth oedd eich hoff beth am astudio ym Mhrifysgol Ïã¸ÛÁùºÏ²Ê¹ÒÅÆ×ÊÁÏ? Fy hoff beth am astudio ym Mhrifysgol Ïã¸ÛÁùºÏ²Ê¹ÒÅÆ×ÊÁÏ oedd yr awyrgylch cartrefol. Bu’n fodd i feithrin cyfeillgarwch gydol oes yn ogystal â hwyluso cyfoethogi dysgu academaidd.