Mae Llio Wyn Owen, o Ynys Môn, yn astudio Athroniaeth a Chrefydd ym Mangor.
Rhannwch y dudalen hon
Mae Llio Wyn Owen, o Ynys Môn, yn astudio Athroniaeth a Chrefydd ym Mangor.
Pam dewis Ïã¸ÛÁùºÏ²Ê¹ÒÅÆ×ÊÁÏ?
Rydw i wrth fy modd efo ‘adra’ - o ran y golygfeydd a’r bywyd sydd yma, felly Ïã¸ÛÁùºÏ²Ê¹ÒÅÆ×ÊÁÏ oedd y lle i mi.
Y Cwrs...
Mae’r Ysgol Athroniaeth a Chrefydd yn un fechan, a hynny’n beth braf - mae gan y darlithwyr ddigon o amser i bawb, ac maent wastad yn help mawr, heb sôn am yr hwyl rydym ni gyd yn ei gael bob dydd. Rydw i’n edrych ymlaen at fynd i bob darlith.
Byw mewn Neuadd
A minnau’n ferch o Sir Fôn, galla’ i ddweud wrthych chi mai dod yma i fyw mewn neuadd yw’r peth gorau i’w wneud. Fel aelod o Undeb Myfyrwyr Cymraeg Ïã¸ÛÁùºÏ²Ê¹ÒÅÆ×ÊÁÏ (UMCB) oedd yn byw yn neuadd JMJ am ddwy flynedd cyn symud i dÅ· myfyriwr, rydw i wedi cael profiad wnaeth newid fy mywyd. Mi wnes i gyfarfod y rhan fwyaf o’m ffrindiau gorau pan oeddwn yn byw yn neuadd JMJ.
Ïã¸ÛÁùºÏ²Ê¹ÒÅÆ×ÊÁÏ...
Mae Ïã¸ÛÁùºÏ²Ê¹ÒÅÆ×ÊÁÏ yn lle gwych i astudio. Gan mai dinas fechan yw Ïã¸ÛÁùºÏ²Ê¹ÒÅÆ×ÊÁÏ, mae myfyrwyr yn adnabod ei gilydd – drwy eu cwrs neu’r neuaddau, drwy un o’r cymdeithasau neu drwy nosweithiau allan.
Mae bod yn Gymraes ym Mangor yn anhygoel. Mae modd astudio llawer o gyrsiau trwy gyfrwng y Gymraeg, mae bod yn rhan o neuadd JMJ yn brofiad bythgofiadwy, ac mae’r gymuned yn un gartrefol iawn.
Fel myfyrwraig nid wyf yn difaru dim am fy mhenderfyniad i ddod i astudio a byw ym Mangor.