Sicrhewch eich bod yn ystyried yr holl聽ofynion mynediad isod聽a'ch bod yn eu cynnwys yn eich datganiad personol. Sylwer nad yw'r cwrs hwn ar gael i fyfyrwyr rhyngwladol.
Rydym yn eich annog i wneud ceisiadau cynnar i gael mynediad i'r rhaglen. Dylid gwneud ceisiadau gan ddefnyddio Prifysgol 香港六合彩挂牌资料 ond mae croeso i chi wneud ymholiadau anffurfiol.
Sylwer os gwelwch yn dda bod lle i nifer cyfyngedig ar y cwrs hwn.
Gofynion Mynediad
Mae'r holl ofynion mynediad聽yn gyfartal a dylid eu bod wedi eu cyflawni cyn eich bod yn gwneud cais am y cwrs. Dylid sicrhau eich bod yn cynnwys pob un o'r gofynion mynediad yn eich datganiad personol.聽
- Rhaid i bob ymgeisydd ddangos dealltwriaeth o oblygiadau derbyn lle wedi ei gyllido yng Nghymru.
- Rhaid i bob ymgeisydd ddangos dealltwriaeth glir ac eang o Ffisiotherapi, gydag adfyfyrdod ar brofiad gwaith diweddar mewn Ffisiotherapi neu amgylcheddau gofal iechyd cysylltiedig.
- I wneud cais am y Diploma 脭l-radd mewn Ffisiotherapi, rhaid i bob ymgeisydd fod wedi cael gradd 2.2 o leiaf (neu鈥檙 hyn sy鈥檔 cyfateb dramor) mewn maes astudio isradd perthnasol. I weld os yw eich astudiaethau blaenorol yn berthnasol, rydym yn eich cynghori i edrych ar y modiwlau o fewn y rhaglen rydych wedi ei chwblhau ac egluro ar eich ffurflen gais pam eu bod yn eich paratoi ar gyfer astudio'r rhaglen hon.
- Bydd graddau uwch (neu鈥檙 hyn sy鈥檔 cyfateb dramor) yn cael eu hystyried.
- Rhaid i bob ymgeisydd fod wedi graddio o'r astudiaeth hon yn ystod y 5 mlynedd ddiwethaf.
- I鈥檙 rhai nad ydynt yn siarad Cymraeg neu Saesneg fel iaith gyntaf, yr isafswm gofynnol o ran yr iaith Saesneg yw: IELTS 7.0 yn gyffredinol gydag o leiaf 6.5 ym mhob cydran (neu gyfwerth).
- Bydd pob cais yn cael ei adolygu ar sail unigol.
Pryd i wneud cais?聽
Mae gennym un rhaglen Ffisiotherapi y flwyddyn ac ar hyn o bryd ac mae'r rhaglen yn rhedeg rhwng mis Ionawr a Rhagfyr.聽
Rydym yn derbyn ceisiadau trwy'r flwyddyn, ond byddwn yn eich cynghori i anfon eich cais yn gynnar gan fod lle i nifer cyfyngedig ar y cwrs hwn.聽Bydd hyn hefyd yn rhoi cyfle i chi wneud trefniadau ariannol a/neu lety ac i chi fedru cael gafael ar drawsgrifiadau a geirda os bydd angen. Bydd hyn hefyd yn rhoi mwy o amser i chi gwrdd ag unrhyw amodau y byddem yn ei osod ar eich cynnig i gael eich derbyn i astudio鈥檙 cwrs.
Ein proses ddethol ar gyfer y cwrs
Os yw eich cais yn llwyddiannus, byddwch yn cael eich gwahodd i ddigwyddiad dethol.聽
Bydd tri gweithgaredd yn y digwyddiad dethol:
- Tasg ysgrifenedig, a gyflwynir o flaen llaw.
- Gweithgaredd gr诺p.
- Cyfweliad personol.
Wedi'r digwyddiad dethol, os rydych wedi bod yn llwyddiannus byddwch yn cael cynnig lle ar y cwrs. Bydd angen ymateb i'r cynnig o fewn amser penodol (bydd yr amser penodol yn cael ei roi i chi gyda'r cynnig). Os na fyddwch yn ymateb o fewn yr amser penodol, bydd eich cynnig am le ar y cwrs yn annilys ac yn cael ei gynnig i ymgeisydd arall.聽
Angen cymorth i wneud cais?
Os oes gennych unrhyw ymholiad ychwanegol am y rhaglen yna cysylltwch 芒 chyfarwyddwr y rhaglen,聽Jonathan Flynn听苍别耻听postgraduate@bangor.ac.uk.