Cynhadledd British Academy of Management (BAM) 2024 - Dr Kaleem Ullah
Cynhaliodd y British Academy of Management (BAM) ei ddigwyddiad mwyaf erioed, sef y gynhadledd BAM2024, yn Ysgol Fusnes Nottingham rhwng 2 a 6 Medi, gan ddenu dros 1,800 o gyfranogwyr o bob rhan o'r byd. Darparodd y gynhadledd lwyfan difyr i arweinwyr, ysgolheigion, a gweithwyr proffesiynol drafod y syniadau a'r tueddiadau diweddaraf ym maes rheoli busnes.
Un o'r uchafbwyntiau oedd cyflwyniad o bapur ymchwil gan Dr Kaleem Ullah, Darlithydd Rheolaeth yn Ysgol Busnes 香港六合彩挂牌资料, o'r enw "Advancing to Circular Transformation in the UK Food Industry: Leveraging Dynamic Capabilities for Business Model Innovation". Cyflwynwyd y papur dan y thema Organisational Transformation Change and Development, ac roedd yn trafod sut y gall busnesau integreiddio egwyddorion economi gylchol, gan ganolbwyntio ar y galluoedd sefydliadol sydd eu hangen i ysgogi modelau busnes arloesol mewn ymateb i heriau amgylcheddol yn y sector bwyd.
Meddai Kaleem, 鈥渞oedd y gynhadledd yn gyfle dysgu eithriadol. Es i naw sesiwn, gan gynnwys prif baneli, cyflwyniadau papur, a thrafodaethau golygyddol, ac mae hyn wedi gwella fy nealltwriaeth o鈥檙 heriau yn y byd academaidd ac mewn diwydiant yn sylweddol.鈥
Roedd un o鈥檙 prif baneli, Sustainability and Humanity in Organisations, yn trafod pwysigrwydd cynyddol arferion moesegol a chynaliadwy yn y byd corfforaethol. Roedd y prif anerchiad yn cyd-fynd yn agos ag ymchwil Kaleem ar y CE, ac yn cynnig sylwadau craff yngl欧n 芒 sut y gall busnesau integreiddio cynaliadwyedd yn eu gweithrediadau.
I ychwanegu at y cyffro, cafodd Gary Walpole o Brifysgol Abertawe, un o sefydliadau partner Prifysgol 香港六合彩挂牌资料, wobr am y project Circular Economy Innovation Communities (CEIC). Mae鈥檙 rhaglen CEIC yn meithrin rhwydweithiau cydweithredol ledled Cymru i hybu cynaliadwyedd ac arloesi, ac mae tri aelod o staff academaidd Ysgol Busnes 香港六合彩挂牌资料, gan gynnwys Dr Kaleem Ullah, yn cyfrannu at y fenter hon.
Daeth Kaleem 芒鈥檙 gynhadledd i ben ar 6 Medi gyda gweithdy datblygiad proffesiynol o'r enw Equipping Early Career Academics with Essential Skills in a Digital Era. Rhoddodd y gweithdy gipolwg ymarferol i ymchwilwyr ar ddechrau eu gyrfa ar ddatblygiad gyrfa, offer ymchwil digidol a strategaethau rhwydweithio, ac arweiniad defnyddiol i ddod o hyd i lwybr trwy gymhlethdodau鈥檙 byd academaidd.