Rhoi’r gorau iddi yn dawel: Ffenomen newydd neu ddim ond hen win mewn poteli newydd?
Mae'r haf yn aml yn gyfle i weithwyr ymlacio ychydig wrth iddynt gymryd eu gwyliau blynyddol. Ond beth os daw’r agwedd hon o ddirwyn gwaith i ben, neu roi'r gorau iddi’n dawel (‘quiet quitting’) fel y cyfeiriwyd ato’n ddiweddar, yn ‘normal newydd’ iddynt? Mae rhoi’r gorau iddi’n dawel wedi dod yn boblogaidd trwy amrywiol lwyfannau ar y cyfryngau cymdeithasol megis LinkedIn, Tiktok, Facebook ac Instagram. Ar yr olwg gyntaf, mae rhoi’r gorau iddi’n dawel yn swnio braidd yn negyddol, gan awgrymu o bosibl bod gweithwyr yn dirwyn eu gwaith i ben ac yn colli diddordeb yn eu tasgau dyddiol, ac o bosibl hyd yn oed yn ymddieithrio oddi wrth eu cydweithwyr a’u cyflogwyr. Ond a yw rhoi’r gorau iddi’n dawel yn 'ffenomen newydd' neu ddim ond yn enw newydd ar rywbeth rydyn ni wedi bod yn siarad amdano eisoes; hen win mewn poteli newydd fel maen nhw'n ei ddweud? Mae Dr Clair Doloriet, Uwch Ddarlithydd mewn Rheoli Adnoddau Dynol yn Ysgol Busnes Ïã¸ÛÁùºÏ²Ê¹ÒÅÆ×ÊÁÏ, yn ymuno â’r podlediad ‘Penny for your Thoughts’ y mis hwn i daflu goleuni ar beth yw hyn ac a yw mor negyddol a niweidiol ag y mae’n swnio.
Mae Dr Clair Doloriert yn Uwch Ddarlithydd yn Ysgol Busnes Ïã¸ÛÁùºÏ²Ê¹ÒÅÆ×ÊÁÏ ac yn arbenigo mewn Ymddygiad Sefydliadol a Rheoli Adnoddau Dynol. Hi yw Pennaeth Israddedigion Blwyddyn 1 ac mae hefyd yn eistedd ar fwrdd Cymru y Sefydliad Rheolaeth Siartredig: un o bartneriaid allweddol yr Ysgol Busnes. Mae ei diddordebau ymchwil yn cynnwys ymgysylltu â gweithwyr, awtoethnograffeg a rhannu gwybodaeth.