Bydd enw Cymro a fudodd i America o ogledd Cymru yn cael ei ychwanegu at y National Abolitionist Hall of Fame. Ymchwil gan yr Athro Jerry Hunter, Americanwr sydd wedi ymgartrefu yng Nghymru, a amlygodd waith y pregethwr o Gymru, y Parch Robert Everett, yr oedd ei negeseuon yn annog cymunedau i gefnogi'r mudiad gwrth-gaethwasiaeth. O ddysgu am yr arwr lleol hwn, galwodd nifer o gymdeithasau Cymreig Gogledd America ar iddo gael ei ychwanegu at yr oriel genedlaethol o anfarwolion y mudiad hwnnw.
Disgrifiwyd y Parchedig Robert Everett fel un o鈥檙 Cymry mwyaf dylanwadol yn America yn ei gyfnod. Bydd yn ymuno 芒 Harriet Tubman a John Brown yn y National Abolition Hall of Fame and Museum, yn dilyn seremoni a dathliadau a gynhelir y penwythnos hwn (22-23 Hydref). Mae鈥檙 amgueddfa鈥檔 anrhydeddu鈥檙 bobl a ymgyrchodd i ddiddymu caethwasiaeth, gan roi sylw i鈥檙 gwaith a wnaethant ac i etifeddiaeth y frwydr honno. Maent yn ychwanegu enwau at oriel yr anfarwolion bob dwy flynedd.
Yn wreiddiol o Cincinnati, Ohio, yr Athro Jerry Hunter o Brifysgol 香港六合彩挂牌资料 yw鈥檙 awdurdod pennaf ar lenyddiaeth Cymry America. Ei ymchwil i lenyddiaeth Gymraeg yn America a daflodd oleuni ar waith y Parchedig Everett gan ddwyn hynny i sylw cymdeithasau Cymreig America. Yr Athro Hunter yw awdur I ddeffro ysbryd y wlad sef hanes yr ymgyrchu a wnaeth Robert Everett yn erbyn caethwasiaeth yn America.
Dywed yr Athro Hunter, sydd yn annerch y cyfarfod yn America drwy fideo:
鈥淭rwy ddarllen deunydd Cymraeg a gyhoeddwyd yng ngogledd America yn ystod y cyfnod, daeth yn amlwg fod Robert Everett yn un o arweinwyr moesol, crefyddol a deallusol y gymuned Gymreig-Americanaidd. Mae'n debyg iddo wneud mwy na neb arall i radicaleiddio Americanwyr Cymraeg eu hiaith a'u dwyn i mewn i鈥檙 mudiad gwrth-gaethwasiaeth.
Ar y pryd, roedd gan America lawer o gymunedau Cymraeg bywiog, a oedd yn cynnal diwydiant cyhoeddi Cymraeg gan gynnwys amryw o bapurau newydd a chyfnodolion. Yn y gymdeithas honno, roedd y Parch Everett yn ymgyrchydd diflino, gan hyd yn oed gyhoeddi 'ymgyrch 10 pwynt' i gapeli a grwpiau eraill ei dilyn. Diddymu caethwasiaeth oedd ei brif nod, er ei fod hefyd yn cefnogi hawliau merched, heddychiaeth a dirwest. Bu鈥檔 rhaid iddo weithio trwy gyfyng-gyngor moesol mewnol fel heddychwr, a phenderfynodd yn y diwedd fod diddymu caethwasiaeth yn bwysicach na heddwch, ac felly y daeth i gefnogi Rhyfel Cartref 1861-65, sef gwrthdaro a welai fel crws芒d yn erbyn caethwasiaeth.鈥
鈥淵 Parch Everett oedd golygydd 'Y Cenhadwr Americanaidd', (cylchgrawn misol enwad yr annibynwyr) a oedd yn cynnwys deunydd crefyddol, diwylliannol a newyddion a fyddai鈥檔 apelio at gynulleidfa ehangach o ddarllenwyr Cymraeg eu hiaith yn America. O鈥檙 rhifyn cyntaf un, defnyddiodd y cylchgrawn misol i gyhoeddi deunydd gwrth-gaethwasiaeth ac i radicaleiddio a denu Cymry America at yr achos.鈥
Datgelodd papurau鈥檙 Parch Robert Everett hefyd iddo ymh茅l 芒 chyfieithu ysgrifau鈥檙 mudiad gwrth-gaethwasiaeth i鈥檙 Gymraeg gan gynnwys Caban F鈥橢wythr Twm a'i fod yn gweithio fel Gorsaf Feistr ar y Rheilffordd Danddaearol yn cynorthwyo caethweision oedd wedi dianc.
Ni chafodd ei radicaliaeth groeso ym mhobman, a chafodd ei feirniadu am bregethu gwleidyddiaeth o鈥檙 pulpud, ond fel y dadleua鈥檙 Athro Hunter, roedd ei radicaliaeth yn rhan gynhenid o鈥檙 modd yr oedd yn diffinio crefydd anghydffurfiol.
Dywedodd Ted Engle, sy鈥檔 Americanwr o dras Cymreig ac yn aelod o鈥檙 gr诺p a wnaeth yr enwebiad:
鈥淔e wnes i fynychu鈥檙 North American Festival of Wales yn 2017 a chael fy nghyfareddu gan gyflwyniad bywiog iawn yr Athro Jerry Hunter am Dr Everett.
Roeddwn i a鈥檓 brawd, sy鈥檔 hanesydd amatur a chanddo ddiddordeb yn y rhyfel cartref, mewn un ffordd, yn teimlo embaras nad oeddem yn gwybod mewn gwirionedd pa mor ddylanwadol oedd Everett i'r Rhyfel Cartref ac i鈥檙 mudiad dros ddiddymu caethwasiaeth, er ein bod yn frodorion o Oneida County.聽 Mae llawer o hyn wedi cael ei anghofio hyd yn oed yn ein hardal ni, sydd 芒 gwreiddiau dwfn Cymreig, a fedrem ni ddim credu nad oeddem ni鈥檔 gwybod am hyn.
Cafodd y project i ychwanegu enw鈥檙 Parchedig Everett at yr oriel ei noddi gan y Saint David鈥檚 Society of Utica a鈥檙 Remsen Steuben Historical Society, ac aethpwyd ati i gasglu dogfennaeth i gefnogi鈥檙 cais.
Mae nifer o weithgareddau bellach ar y gweill: mae'r teulu Everett wrthi鈥檔 casglu hanes y teulu, ac yn ddiweddar cafodd safle eglwys y Parchedig Everett ei chofrestru鈥檔 safle hanesyddol gan Dalaith Efrog Newydd. Mae'r gymdeithas hanes leol hefyd wedi llunio arddangosfa am y Parchedig Everett yn eu pencadlys yn Utica. Ein gobaith ydy gallu datblygu mwy o ddiddordeb yng Nghymru ymhlith pobl Canol Efrog Newydd.鈥