Mae'r byd yr ydym yn byw ynddo yn aml yn cael ei rannu gan ddefnyddio gwahaniaeth deuaidd trefol-gwledig, er gwaethaf graddiant enfawr o batrymau anheddu mewn dinasoedd ac o'u hamgylch - yn amrywio o ardaloedd trefol i ardaloedd gwledig anghysbell. Mae ymchwil newydd a arweinir drwy broject ymchwil ar y cyd rhwng y Deyrnas Unedig ac India yn ystyried trefoli drwy edrych ar newidiadau mewn seilwaith naturiol, seilwaith peirianyddol a seilwaith sefydliadol. Mae'r astudiaeth, sy'n canolbwyntio ar y de byd-eang, yn awgrymu bod newid cyflym mewn ardaloedd maestrefol (a elwir yn ardaloedd 'peri-trefol') yn golygu bod gan bobl sy'n byw yn yr ardaloedd hynny ansawdd bywyd gwaeth na phobl sy'n byw mewn ardaloedd trefol ac ardaloedd gwledig.
鈥淏ydd poblogaeth drefol y byd yn parhau i dyfu gan arwain at blaned gynyddol drefol, fydd yn aml yn arwain at ehangu trefol, wrth i ddinasoedd ymestyn tuag at allan gan lyncu鈥檙 tir o'u hamgylch. Mae'r ehangu hwn yn digwydd yn arbennig o gyflym mewn gwledydd sy'n datblygu yn Asia ac Affrica,鈥 meddai'r Athro Kenneth Lynch (Prifysgol Swydd Gaerloyw).听
Meddai鈥檙 cydawdur yr Athro Simon Willcock o Brifysgol 香港六合彩挂牌资料 a Rothamsted Research ,听
鈥淲rth i ardaloedd trefol ehangu, mae鈥檙 nodweddion a鈥檙 gwasanaethau sydd ar gael yn yr ardaloedd hynny yn newid. Er enghraifft, mae natur a chynnyrch naturiol ar gael yn fwy uniongyrchol yn aml mewn ardaloedd gwledig, gyda lefelau is mewn ardaloedd trefol, tra bod y gwrthwyneb yn wir mewn seilwaith adeiledig. Mae hyn weithiau hefyd yn cyd-fynd 芒 newid o arweinyddiaeth leol, draddodiadol mewn lleoliadau gwledig, i lywodraethu mwy canolog mewn dinasoedd.鈥
Mae鈥檙 ymchwil yn cyflwyno theori newydd o gynnwrf peri-trefol, fel yr eglura Dr Paul Hutchings o Brifysgol Leeds:,
鈥淢ae cyfradd difrodi natur a chost adeiladu seilwaith newydd yn ysgogwyr mawr wrth bennu ansawdd bywyd pobl sy鈥檔 byw mewn ardaloedd peri-drefol. Er enghraifft, pan fydd cost amgylcheddol uchel i echdynnu cynhyrchion o natur, yna dim ond niferoedd bach o bobl y gall natur ymdopi 芒 hwy. Yn yr un modd, pan fydd cost adeiladu seilwaith hefyd yn uchel, yna nid yw鈥檔 economaidd hyfyw oni bai ei fod yn cefnogi cymunedau mwy. Mewn sefyllfa fel hon, mae adnoddau sy鈥檔 dod o fyd natur yn debygol o ddiflannu cyn y gellir eu disodli gyda seilwaith adeiledig.鈥
鈥淢ae tystiolaeth yn cefnogi hyn. Er enghraifft, mae iechyd plant yn nwyrain Affrica ar ei isaf yn y cymunedau hynny sy鈥檔 byw rhwng y ddinas a chefn gwlad, tra bod astudiaeth yn Ne Affrica wedi canfod bod tua dwy ran o dair o ddinasyddion trefol a gwledig yn adrodd bod ansawdd eu bywyd wedi gwella dros y pum mlynedd diwethaf, ond dim ond hanner yr ymatebwyr a nododd welliant o鈥檙 fath mewn ardaloedd peri-drefol鈥 meddai'r Athro Kenneth Lynch. 听
Mae鈥檙 Athro Simon Willcock yn esbonio cyfyngiadau'r ddamcaniaeth,
鈥淢ae鈥檙 math hwn o brofiad negyddol mewn ardaloedd peri-drefol yn fwy yn achos rhai gwasanaethau nag eraill, ac yn amrywio rhwng ardaloedd daearyddol. Er enghraifft, mae'r rhan fwyaf o fwyd yn cael ei dyfu mewn ardaloedd gwledig, ond gellir gwneud hyn hefyd mewn dinasoedd. Gellir cludo bwyd hefyd ar hyd y ffordd mewn dinasoedd yn gymharol hawdd. Ond mae'n debygol y bydd gwahaniaethau mawr rhwng grwpiau sy'n byw yn y gwahanol fathau o ardaloedd. Er enghraifft, mae gan aelwydydd sydd ag incwm uwch a chymunedau sy'n byw mewn ardaloedd peri-drefol well mynediad at yr adnoddau prin. Gallant brynu eu d诺r, trydan, gwasanaethau glanweithdra eu hunain ac yn y blaen.鈥
Meddai Dr Paul Hutchings,
鈥淕ellir osgoi鈥檙 ffordd anwastad rhwng seilwaith naturiol a seilwaith adeiledig. Gellir gwarchod rhywfaint o seilwaith naturiol trwy gydol y broses drefoli trwy gynllunio da sy'n ei gwneud yn ofynnol i ddiogelu mannau gwyrdd. Yn ogystal 芒 hyn, gellir rhoi cymhorthdal i wasanaethau, megis cyfleustodau d诺r trefol, fel y gellir eu darparu i bobl mewn ardaloedd peri-drefol. Dylai cynllunwyr trefol a gwledig, dylunwyr a phenseiri gydweithio i achub y blaen ar yr anghenion mewn ardaloedd sydd newydd eu hehangu, a gweithredu鈥檔 gyflym i sicrhau nad yw ansawdd bywyd y bobl sy鈥檔 byw yno yn dirywio.鈥
听