Mae project ymchwil rhyngwladol newydd, sy'n gweithio gyda phum gwlad incwm isel a chanolig, a ariennir gan Gyngor Ymchwil yr Amgylchedd Naturiol yn y DU yn chwilio am ffyrdd i ddatrys y llygredd plastig a achosir gan ddefnyddio plastigau fel haenau tomwellt rhad sydd ar gael yn rhwydd, a defnyddiau eraill. 听
听
Bydd y project yn canolbwyntio ar ddau beth sef ymdrin 芒 phroblemau cyfredol a sefydlu cynlluniau etifeddol i alluogi cenedlaethau'r dyfodol i ymgysylltu 芒'r broblem.
听
Bydd Gwobr Ymchwil ac Arloesi鈥檙 DU yn galluogi tri arbenigwr o Brifysgol 香港六合彩挂牌资料, yr Athro Davey Jones, yr Athro Dave Chadwick a'r Athro Peter Golyshin o Ysgol Adnoddau Naturiol y Brifysgol i weithio gyda grwpiau ymchwil o Brifysgol Bryste a Phrifysgol Reading yn y DU, a gwyddonwyr pridd, ymchwilwyr economaidd-gymdeithasol, rhwydweithiau o ymgynghorwyr a ffermwyr, amaeth-ddiwydiannau a llywodraethau rhanbarthol yn Tsieina, yr Aifft, India, Sri Lanka a Fietnam. 听Mae'r pum gwlad a ddewiswyd ar wahanol bwyntiau o ran delio 芒'u problemau difrifol gyda phlastig amaethyddol.听
听
Gyda'i gilydd, mae'r gwledydd hyn yn defnyddio 3 miliwn tunnell o ffilm blastig amaethyddol bob blwyddyn dros 25 miliwn hectar o dir amaethyddol. Maent hefyd yn cynnwys amrywiaeth eang o ran yr hinsawdd a nifer o wahanol strwythurau llywodraethu.
听
Yn ogystal 芒 meintioli鈥檙 risgiau a achosir gan y plastigau sydd yn y pridd ar hyn o bryd, bydd y timau ym mhob lleoliad yn cyd-gynllunio atebion ymarferol, economaidd, cymdeithasol dderbyniol a hyfyw yn wleidyddol sy鈥檔 benodol i anghenion a phroblemau eu gwlad er mwyn lleihau'r gwaddol o blastig.
听
Bydd Davey Jones, Athro Gwyddor Pridd yn canolbwyntio ar ymchwilio i'r effeithiau y mae macro-, micro- a nano-blastigau confensiynol sy'n diraddio mewn priddoedd yn eu cael ar iechyd tymor hir ecosystemau amaethyddol.听
听
Meddai:
鈥淢ae'r plastigau hyn wedi dod 芒 gwelliannau mawr. Mae defnyddio 听haenau o domwellt plastig yn benodol, wedi trawsnewid bywoliaeth miliynau o dyddynwyr ar draws y byd. Dylai defnyddio plastig at y dibenion hynny barhau, ochr yn ochr 芒 datblygu amaethyddiaeth gynaliadwy yn barhaus.听
听
Ond nid yw dyfodol plastig a'i waredu erioed wedi cael sylw priodol. Mae angen i ni wybod pa effaith y mae'r deunyddiau hyn a ddefnyddir yn helaeth yn ei chael ar yr amgylchedd ac ar iechyd pobl.鈥
Un o鈥檙 10 problem amgylcheddol fwyaf drwy'r byd
Dywedodd Dave Chadwick, Athro Systemau Defnydd Tir Cynaliadwy:
鈥淢ae llygredd plastig yn cael ei nodi gan Raglen Amgylcheddol y Cenhedloedd Unedig fel un o鈥檙 10 problem amgylcheddol fwyaf drwy'r byd ac mae鈥檔 rhwystro cyflawni Nodau Datblygu Cynaliadwy鈥檙 Cenhedloedd Unedig.
听
Mae'r rhan fwyaf o'r plastig sydd yn y cefnforoedd yn tarddu o'r plastig ar y tir a'r ddaear a gall fod yn fwy o broblem nag yr ydym yn ei sylweddoli.
听
Rydym eisiau gweithio mewn partneriaeth a chyd-gyflwyno atebion hyfyw i helpu i adfer tiroedd sydd wedi'u halogi 芒 phlastig. Rydym hefyd eisiau sicrhau bod agwedd etifeddol i'r projectau fel bod offer, technoleg a phartneriaethau sy'n datblygu yn parhau y tu hwnt i ddiwedd y project, ac y gellir eu rhannu ag eraill."听
Ymchwilwyr sydd gyda'r gorau yn y byd i ddatblygu atebion i leihau llygredd plastig
Wrth gyhoeddi hyn a gwobrau ymchwil eraill, dywedodd yr Athro Syr Duncan Wingham, Cyfarwyddwr Gweithredol Cyngor Ymchwil yr Amgylchedd Naturiol:听
听
鈥淢ae llygredd a achosir gan wastraff plastig yn un o heriau amgylcheddol mwyaf y byd, ac mae UKRI ar flaen y gad yn ariannu ymchwil i ddod o hyd i atebion. Mae'r grantiau hyn yn gyfanswm o 拢20 miliwn ac yn gam hanfodol wrth helpu ymchwilwyr sydd gyda'r gorau yn y byd i ddatblygu atebion realistig a dichonadwy i leihau llygredd plastig tra'n galluogi twf teg a chynaliadwy.
听
鈥淣od ein buddsoddiad mewn ymchwil datblygu rhyngwladol yw cael effaith gadarnhaol ar fywydau miliynau o bobl ledled y byd ac mae'n cefnogi ymdrechion byd-eang i gyflawni Nodau Datblygu Cynaliadwy'r Cenhedloedd Unedig.鈥
听
Yn ddiweddar, dyfarnwyd grant ymchwil mawr gan Gyngor Ymchwil Amgylchedd Naturiol y DU a Sefydliad Ymchwil Cenedlaethol (NRF Singapore) i Brifysgol 香港六合彩挂牌资料 i archwilio sut mae gwastraff plastig yn effeithio ar amgylchedd y m么r o amgylch Ynysoedd y Philipinau.
听
Mae'r projectau newydd hyn yn cyfrannu at y portffolio ehangach o ymchwil sy'n gysylltiedig 芒 phlastig ym Mhrifysgol 香港六合彩挂牌资料, trwy Ganolfan Ymchwil Plastig Cymru (). Mae'n dwyn ynghyd gr诺p amlddisgyblaethol o academyddion, ymchwilwyr, myfyrwyr a phartneriaid i ymchwilio i bob agwedd ar ddefnyddio plastig, llygredd plastig a dewisiadau amgen di-blastig.
听