Mae RILL, sydd yn bresennol ar gael drwy gyfrwng y Gymraeg a Saesneg, yn rhaglen hynod effeithiol sy鈥檔 gwella sgiliau iaith a llythrennedd disgyblion ysgol gynradd. Mae鈥檙 rhaglen 20 wythnos wedi ei ddylunio ar gyfer plant 7-9 oed, ac yn targedu鈥檙 rheiny sydd angen cymorth ychwanegol.
Mae RILL, a lansiwyd yn wreiddiol mewn ymateb i鈥檙 sialensiau addysgol a鈥檜 hachoswyd gan y pandemig COVID-19, bellach yn cael ei ddefnyddio ar lawr y dosbarth i gefnogi dysgwyr Cymraeg a Saesneg eu hiaith. Mae RILL yn seiliedig ar waith ymchwil ac wedi ei brofi鈥檔 drylwyr i sicrhau effeithiolrwydd drwy hap-dreialon dan reolaeth. Mae鈥檙 rhaglen eisoes wedi arddangos llwyddiant sylweddol o ran datblygu gallu darllen disgyblion, gan ddangos gwelliant ymysg disgyblion o gartrefi Cymraeg a di-gymraeg.
Dangosodd yr ymchwil y bu i'r disgyblion a gymerodd rhan yn rhaglen RILL brofi gwelliant sylweddol i鈥檞 deilliannau llythrennedd o gymharu 芒鈥檙 disgyblion yn y gr诺p rheoli, a dderbyniodd y rhaglen ymyrraeth yn ddiweddarach. Mae hyn yn destun o effeithiolrwydd y rhaglen o ran cyflymu datblygiad sgiliau iaith a llythrennedd. Mae鈥檙 canfyddiadau hyn yn amlygu gallu RILL i ddarparu cefnogaeth hanfodol i鈥檙 disgyblion sy鈥檔 wynebu鈥檙 anawsterau llythrennedd mwyaf difrifol, gan eu galluogi i wneud cynnydd ystyrlon mewn cyfnod cymharol brin o amser.
Dywedodd Yr Athro Manon Jones, sy鈥檔 arwain ar raglen RILL, 鈥淢ae鈥檙 dystiolaeth gadarn sy鈥檔 arddangos effaith barhaol RILL ar sgiliau llythrennedd disgyblion yn y Gymraeg a Saesneg yn galonogol dros ben. Mae llwyddiant y rhaglen o ran cyrraedd disgyblion o gefndiroedd ieithyddol amrywiol yn amlygu ei botensial o ran mynd i鈥檙 afael ag anghyfartaledd llythrennedd, gan sicrhau bod pob plentyn yn derbyn cyfle i ddatblygu, waeth bynnag eu man cychwyn鈥.
Hyd yma, mae鈥檙 t卯m ymchwil wedi cynnal sawl hap-dreial wrth ddatblygu RILL, gan gydweithio gyda 183 o ysgolion ledled Cymru, a sicrhau cyfraniad bron i 700 o ddisgyblion. Yn ychwanegol, hyfforddwyd 366 o ymarferwyr addysg yngl欧n 芒鈥檙 wyddor sy鈥檔 ymwneud 芒 darllen, yn ogystal 芒 pharthed sut i wneud defnydd effeithiol o raglen RILL. Cynhaliwyd treialon llwyddiannus yn y Gymraeg a Saesneg, a hynny yn ystod y pandemig (o bell) ac wedi鈥檙 pandemig.
Dywedodd dwy o鈥檙 ysgolion a gymerodd rhan:
Ysgol Rhosneigr, Ynys M么n:听鈥淢ae rhaglen RILL wedi bod yn llwyddiant ysgubol yn ein hysgol ni! Wedi'i gynllunio i wneud y dysgu'n hwyl ac yn rhyngweithiol, rydym wedi gweld cynnydd yn sgiliau iaith ein disgyblion a hwb i鈥檞 hyder. Mae strwythur dyddiol y rhaglen, er ei fod yn gyson, yn cynnwys amrywiaeth o gemau a gweithgareddau difyr sy'n cadw diddordeb a chymhelliant y plant. Byddwn yn ei argymell i unrhyw addysgwr sydd am ddatblygu sgiliau darllen a llafaredd.鈥
Ysgol Abererch, Gwynedd:听"Roedd y disgyblion yn edrych ymlaen at y sesiynau RILL bob wythnos ac yn mwynhau gweithio drwy'r unedau. Roedd fformat y rhaglen yn apelio, yn lliwgar ac yn hwyliog, a'r disgyblion yn magu hyder gyda'r cysondeb yn y ffordd o gyflwyno'r gwaith. Mae'r gr诺p RILL wedi datblygu eu sgiliau llythrennedd i gyd - mae effaith y rhaglen ar eu gwaith ysgrifennu yn glir, yn enwedig wrth weld yr eirfa newydd yn cael eu defnyddio yng ngwaith y dosbarth. Mae hi鈥檔 wych cael rhaglen fel hyn ar gael yn y Gymraeg."
Yn ystod y camau nesaf, bydd t卯m RILL yn cydweithio gydag OxEd & Assessment, cwmni sy鈥檔 arweinydd yn y maes o gynnig offer addysgol, er mwyn datblygu llwyfan digidol ar gyfer dibenion penodol RILL, a sicrhau y bydd y rhaglen yn fwy hygyrch ar lefel cenedlaethol. Bydd y cydweithrediad hwn yn galluogi鈥檙 rhaglen i gyrraedd mwy o ddisgyblion ledled Cymru, a bydd gwerthusiadau pellach i benderfynu sut i鈥檞 ddefnyddio鈥檔 ehangach i gefnogi鈥檙 rheiny sydd ag anawsterau darllen yn y Gymraeg a Saesneg.
Meddai Charles Hulme, Cymrawd yr Academi Brydeinig, Athro Emeritws Seicoleg ac Addysg ym Mhrifysgol Rhydychen a sylfaenydd a Phrif Weithredwr OxEd & Assessment: 鈥淩wy鈥檔 hynod falch o gael cydweithio gydag yr Athro Manon Jones a鈥檌 th卯m ym Mhrifysgol 香港六合彩挂牌资料 er mwyn gwerthuso effeithiolrwydd rhaglen RILL ymhellach. Mae gan y rhaglen botensial i wneud gwahaniaeth go iawn o ran sgiliau iaith a darllen plant yng Nghymru, ac mewn ardaloedd eraill ledled y byd.鈥
Dywedodd Lynne Neagle, Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg: 鈥淩wy鈥檔 hynod falch o weld yr effaith sylweddol y mae鈥檙 rhaglen wedi ei gael ar sgiliau llythrennedd a darllen. Mae pob dysgwr yn haeddu鈥檙 addysg orau bosib, ac rwy鈥檔 falch y bydd y gwaith hwn, gyda chyllid ychwanegol gan Lywodraeth Cymru, o fudd i fwy o blant a phobl ifanc"
听