Cefnogaeth, Cyngor ac Adnoddau
Y Tim Gwaith Achos Myfyrwyr
Mae'r Tim Gwaith Achos Myfyrwyr wedi'i hyfforddi'n arbennig i ymateb i ddatgeliadu ac sy'n gallu darparu opsiynau adrodd a chyfeirio at gymorth.roi cyngor a chefnogaeth arbenigol i chi. Hefyd, mae sawl aelod o'r Tîm Cefnogi Myfyrwyr hefyd wedi'u hyfforddi i dderbyn datgeliadau am drais rhywiol, aflonyddu a throseddau casineb a gallant roi cyngor i chi ar nifer o faterion eraill.
Ebost: achosionmyfyrwy@bangor.ac.uk
Gwasanaethau Myfyrwyr - Neuadd Rathbone, Ffordd y Coleg, Ïã¸ÛÁùºÏ²Ê¹ÒÅÆ×ÊÁÏ, LL57 2DG
(Mae'r dderbynfa ar agor rhwng 9 a 5 o ddydd Llun i ddydd Gwener).
Gwasaneth Lles Myfyrwyr
Mae'r Gwasanaeth Lles yn rhan o'r Gwasanaeth Cymorth a Lles Myfyrwyr sydd wedi'i leoli o fewn Gwasanaethau Myfyrwyr. Mae gennym ni gwnselwyr proffesiynol cymwysedig, gweithwyr iechyd meddwl proffesiynol ac arbenigwyr gwybodaeth sydd â phrofiad o helpu myfyrwyr i ddelio â phob math o faterion ymarferol ac emosiynol megis materion yn ymwneud ag astudio, trawma, perthnasoedd, rheoleiddio emosiynol, materion iechyd meddwl yn ymwneud ag anabledd, hygyrchedd, aflonyddu , cynhwysiant a llawer mwy.
Cysylltwch a gwasanaethaulle@bangor.ac.uk
Ffôn: 01248 388520
Amethyst (Canolfan Atgyfeirio Ymosodiadau Rhyw Gogledd Cymru)
Mae Amethyst yn sefydliad sydd ag amrywiaeth o weithwyr proffesiynol sydd wedi eu hyfforddi i roi cymorth, cefnogaeth a gwybodaeth i unigolion sydd wedi cael eu treisio neu wedi dioddef ymosodiad rhyw, yn ddiweddar neu yn y gorffennol. Gall Amethyst ddarparu gwasanaethau a chyngor heb unrhyw reidrwydd i roi gwybod am drosedd a gallwch hefyd gael mynediad at sgrinio am heintiau a drosglwyddir yn rhywiol trwy eu gwasanaeth. Mae eu gwasanaeth yn gyfrinachol. Am ragor o wybodaeth, ewch i'w neu ffoniwch hwy'n gyfrinachol.
E-bost: BCU.Amethyst@wales.nhs.uk (yn cael ei fonitro yn ystod oriau swyddfa yn unig)
Ffôn: 0808 156 3658
Canolfan Gymorth Trais a Cham-drin Rhywiol (Gogledd Cymru)
Mae yn cynnig cefnogaeth arbenigol annibynnol i alluogi pobl i weithio trwy eu profiad o drais a/neu drais rhywiol. Os ydych wedi cael eich effeithio gan drais rhywiol, boed yn ddiweddar neu amser maith yn ôl, ac yr hoffech siarad gyda rhywun am y peth, gallwch ffonio'r llinell gymorth sy'n agored 24 awr y dydd, 7 niwrnod yr wythnos, ar 0808 80 10 800 a siarad gyda rhywun unrhyw bryd.
E-bost: info@rasawales.org.uk
Ffôn: 0808 80 10 800
Rape Crisis
Elusen genedlaethol sy'n rhoi gwybodaeth am drais ac ymosodiadau rhyw, gyda manylion eich Canolfan Argyfwng Trais agosaf os oes angen cefnogaeth arnoch. Am fwy o wybodaeth, ewch i’w .
Ffôn: 0808 802 9999 (llinell gymorth am ddim, 12-2.30pm a 7-9.30pm)
NAPAC
Mae'r (a elwir hefyd yn RASAS - Gwasanaeth Trais a Cham-drin Rhywiol) yn cynnig cwnsela, llinell gymorth a chefnogaeth ymarferol ac emosiynol i ddynion a menywod 14+ ar draws gogledd Cymru sydd wedi profi neu gael eu heffeithio gan unrhyw ffurf ar drais rhywiol yn ystod eu plentyndod.
Ffôn: 0808 801 0331 (am ddim o ffonau gyda llinell dir a ffonau symudol)
SurvivorsUK
Mae Survivors UK yn helpu dynion sy'n oedolion sydd wedi cael eu treisio. Gallwch sgwrsio â hwy ar y ffôn, ar-lein neu drwy negeseuon testun. Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar eu .
Ffôn: 020 3598 3898 (Llun-Gwener: 10.30am-9pm, Sadwrn-Sul: 10am-6pm)
Testun: 0203322 1860
What’s App: 07491 816064
BAWSO
Mae Bawso yn ddarparwr cefnogaeth Cymru gyfan sydd wedi ei achredu gan Lywodraeth Cymru ac sy'n darparu gwasanaethau arbenigol i bobl o gefndiroedd du a lleiafrifoedd ethnig sy'n cael eu heffeithio gan gam-drin yn y cartref a phob math arall o gamdriniaeth. Am fwy o wybodaeth, ewch i’w .
Ffôn: 0800 731 8147 (24 awr)
Muslim Women’s Helpline
Mae'r a'r yn rhoi cyngor arbenigol i ferched Mwslimaidd sydd wedi dioddef trais rhywiol.
E-bost: info@mwnhelpline.co.uk
Ffôn: 0800 999 5786
Testun: 07415 206 936
Cymorth i Ddioddefwyr
Mae Cymorth i Ddioddefwyr yn cynnig cefnogaeth a chyngor i bobl sydd wedi dioddef troseddau.
Ffôn: 0808 1689 111
Llinell Gymorth Gogledd Cymru: 0300 30 30 159 (ar agor o 8am tan 8pm, Llun – Gwener a 9am – 1pm ddydd Sadwrn).
Bullying UK
Mae Bullying UK yn cynnig cyngor cyffredinol ar bob math o fwlio ac mae wedi ei anelu'n arbennig at bobl ifanc ac oedolion ifanc a theuluoedd.
Llinell Gymorth: 0808 800 2222
True Vision
Mae gwefan True Vision yn cynnig gwybodaeth am droseddau casineb ar bob ffurf a sut gallwch adrodd amdanynt.
Rhagor o Wybodaeth
Adroddiad yr UCM "That's What She Said: Women Students' Experiences of 'Lad Culture' in Higher Education" yn 2012 yn trafod profiadau myfyrwyr sy'n ferched o 'lad culture' ar y campws.
Mae'r "Everyday Sexism Project" yn catalogio enghreifftiau o rywiaeth a brofir gan ferched o ddydd i ddydd, yn cynnwys aflonyddu rhywiol. Mae'n rhoi cyfle i ferched rannu eu straeon a chodi ymwybyddiaeth am rywiaeth.
Marciau Cudd
Mae ymgyrch UCM Cymru , yn mynd i'r afael â thrais, ymosodiadau rhyw, a thrais yn y cartref y mae myfyrwyr sy'n ferched yn ei brofi. Cynhaliodd arolwg rhwng mis Awst 2009 a mis Mawrth 2010 oedd yn cynnwys 2,000 o fyfyrwyr sy'n ferched yn cofnodi eu profiadau o aflonyddu, stelcio, trais ac ymosodiad rhywiol. Cliciwch yma i weld y canlyniadau. Am ragor o wybodaeth am yr ymgyrch 'Marciau Cudd', ewch i wefan .
'Byw Heb Ofn'
Yn 2012, lansiodd Llywodraeth Cymru'r ymgyrch 'Byw Heb Ofn' sy'n mynd i'r afael â thrais yn y cartref. Am ragor o wybodaeth am yr ymgyrch 'Byw Heb Ofn', ewch i Llywodraeth Cymru.
Mae eu fideo yn cynnwys gwybodaeth ynglŷn â thrais ac ymosodiadau rhyw.
'Adennill y Campws'
Yn 2014, lansiodd Merched UCM Cymru'r ymgyrch , sy'n mynd i'r afael â thrais yn erbyn menywod. Cynhyrchodd yr ymgyrch y pedwar fideo canlynol sy'n mynd i'r afael ag agweddau gwahanol ar drais rhywiol. Cewch ragor o wybodaeth ar eu .
am gamdriniaeth yn y cartref.
am drais a'r diwylliant o feio'r dioddefwr.
yn sôn am effaith stelcian.
yn sôn am gydsyniad rhywiol a thrais.