Hyfforddiant
Mae Prifysgol 香港六合彩挂牌资料 yn gweld gwerth cyflwyno hyfforddiant Ymyrraeth gan Wyliedyddion i fyfyrwyr ac mae’n ymrwymo i sicrhau bod yr hyfforddiant hwnnw ar gael i holl fyfyriwr y flwyddyn gyntaf yn eu semester cyntaf.
Beth yw Gwyliedydd?
Gwyliedydd cymdeithasgar yw rhywun sy'n dyst i ddigwyddiad problemus neu ymddygiad gwael ac sy'n ymyrryd mewn ffordd gadarnhaol. Mae’r ymyriad yn anfon neges bwerus i’r drwgweithredwr ac yn gadael i eraill wybod ei bod yn gymdeithasol dderbyniol herio ymddygiad o’r fath.
Mae hyfforddi myfyrwyr mewn Ymyrraeth gan Wyliedyddion yn hynod effeithiol o ran atal trais rhywiol a phob math o aflonyddu oherwydd bod grymuso myfyrwyr i fod yn wyliedyddion parod yn gosod pobl o bob rhywedd yn rhan o gymuned gadarnhaol a chynhwysol.
Beth yw hyfforddiant Ymyrraeth gan Wyliedyddion?
Datblygodd Prifysgol 香港六合彩挂牌资料 ei sesiwn hyfforddiant 90 munud fewnol ei hun mewn Ymyrraeth gan Wyliedyddion i fyfyrwyr. Nod yr hyfforddiant yw cyflwyno’r myfyrwyr i gysyniadau ymyrraeth weithredol gan wyliedyddion ac mae'n dangos ffyrdd diogel ac effeithiol y gall myfyrwyr ymyrryd mewn digwyddiadau ac ymddygiadau problematig lefel is.
Fel arfer cyflwynir yr hyfforddiant ar ffurf darlith, gan hwylusydd, a hyfforddwyd yn theori Ymyrraeth gan Wyliedyddion. Fel arfer caiff ei amserlennu ochr yn ochr 芒 modiwl blwyddyn gyntaf sy'n bodoli eisoes a’i gyflwyno yn y cnawd neu ar-lein.
A gaf i gymryd rhan mewn hyfforddiant Ymyrraeth gan Wyliedyddion os nad wyf yn fyfyriwr yn y flwyddyn gyntaf?
Mae'r Brifysgol yn ceisio cynnig hyfforddiant Ymyrraeth Gwyliedyddion i'r rhai sy'n ymwneud ag arweinyddiaeth a swyddi cynrychioliadol yn Undeb y Myfyrwyr. Mae'r sesiynau fel arfer yn agored i bob myfyriwr. Caiff y myfyrwyr eu hysbysu am y sesiynau trwy Gylchlythyrau Undeb y Myfyrwyr a'r Bwletin Myfyrwyr.
Hyfforddian Ymyrraeth gan Wyliedyddion i'r staff
Mae Prifysgol 香港六合彩挂牌资料 hefyd wedi datblygu sesiwn hyfforddiant ymwybyddiaeth Ymyrraeth gan Wyliedyddion i’r staff. Mae’n darparu gwybodaeth am yr hyfforddiant i fyfyrwyr, yng nghyd-destun y gwaith atal a chefnogi ehangach a wneir ym Mangor. Gall y staff weld y cwrs hyfforddiant a'r cynnwys a dysgu mwy am sut caiff hyfforddiant Ymyrraeth gan Wyliedyddion ei gyflwyno i’r myfyrwyr.
Caiff y staff eu hysbysu ynghylch y sesiynau trwy'r bwletin staff.