Yr Is-Ganghellor sy’n cadeirio Bwrdd Gweithredu y Brifysgol. Mae'r tîm yn cynnwys:
Ìý Yr AthroÌýEdmund Burke
Is-Ganghellor
ÌýÌývc@bangor.ac.uk
Ìý Prifysgol Ïã¸ÛÁùºÏ²Ê¹ÒÅÆ×ÊÁÏ
Mae’r Athro Burke wedi treulio ei holl yrfa ym maes addysg uwch ar drywydd rhagoriaeth academaidd. Mae wedi dal swyddi uwch ym Mhrifysgol Nottingham, Prifysgol Stirling, Prifysgol y Frenhines Mary yn Llundain yn ogystal, yn fwyaf diweddar, ag ym Mhrifysgol Caerlŷr. Mae ganddo broffil ymchwil rhyngwladol nodedig mewn Ymchwil Weithredol. Mae ei ymchwil yn ymwneud â methodolegau cefnogi penderfyniadau deallus mewn amgylcheddau cymhleth ar y rhyngwyneb rhwng cyfrifiadureg a mathemateg. Mae'n Gymrawd o'r Academi Beirianneg Frenhinol ac yn Llywydd y Gymdeithas Ymchwil Weithredol.
Fel arweinydd sefydliadol, mae wedi dangos gweledigaeth strategol ac effeithiolrwydd gweithredol drwy sbarduno mentrau newydd, rheoli rhaglenni newid cymhleth a chreu twf sylweddol a chynaliadwy.
Uwch Gynorthwyydd Gweithredol i'r Is-Ganghellor, Kelly Goswell-Parry Ìýklg20fbt@bangor.ac.uk
Ìý Proffil Yr Athro Oliver Turnbull
ÌýDirprwy Is-Ganghellor
ÌýÌýheather.roberts@bangor.ac.uk
Ìý Prifysgol Ïã¸ÛÁùºÏ²Ê¹ÒÅÆ×ÊÁÏ
Yr Athro Oliver Turnbull yw’r Dirprwy i’r Is-ganghellor Prifysgol Ïã¸ÛÁùºÏ²Ê¹ÒÅÆ×ÊÁÏ ac yn gyfrifol am y broses gynllunio gan gynnwys dyrannu adnoddau a chynllunio cyfalaf, perfformiad academaidd trwy fod yn rheolwr llinell i’r Deoniaid, ymwneud ag Undebau Llafur y Campws, y casgliad celf a’r archifau, mewnbwn i ddarpariaeth Ysgol Feddygol Gogledd Cymru trwy fod yn rheolwr llinell i Ddeon y Gwyddorau Dynol.Ìý Mae’r Dirprwy i’r Is-ganghellor hefyd yn dirprwyo ar ran yr Is-ganghellor pan fo angen.
Fel academydd, mae'r Athro Turnbull yn niwroseicolegydd gyda diddordeb mewn emosiwn a'i ganlyniadau niferus i fywyd meddyliol. Mae ei ddiddordebau'n cynnwys: dysgu ar sail emosiwn, a'r profiad y byddwn yn ei ddisgrifio fel 'greddf'; swyddogaeth emosiwn mewn credoau ffals, yn arbennig mewn cleifion niwrolegol; a niwrowyddoniaeth seicotherapi.
Mae’n awdur nifer o erthyglau gwyddonol ar y pynciau hyn, ynghyd â'r llyfr gwyddoniaeth poblogaidd The Brain and the Inner World. Mae'n parhau i fod yn ymchwilydd a darlithydd gweithredol ac ef yw arweinydd ysgol haf Visceral Mind y Brifysgol, lle mae'n arbenigo mewn dysgu niwroanatomi, yn enwedig trwy luniadau anatomegol a dyrannu ymennydd.
Cynorthwyydd Gweithredol, Heather RobertsÌýheather.roberts@bangor.ac.uk
Ìý Proffil Yr Athro Nichola Callow
ÌýDirprwy Is-Ganghellor (Addysg a Phrofiad Myfyrwyr)
Ìý Prifysgol Ïã¸ÛÁùºÏ²Ê¹ÒÅÆ×ÊÁÏ
Yr Athro Nichola Callow yw’r Dirprwy Is-ganghellor (Addysg a Phrofiad Myfyrwyr).
Fel Dirprwy Is-Ganghellor, mae ganddi gyfrifoldeb strategol dros addysgu a dysgu, y profiad myfyrwyr, cyflogadwyedd myfyrwyr, gwneud cyfraniad academaidd i faes recriwtio myfyrwyr, a rhoi mewnbwn i ddarpariaeth Ysgol Feddygol Gogledd Cymru trwy ymgysylltu a Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.
Graddiodd gyda gradd BSc mewn Addysg Gorfforol a Seicoleg, TAR mewn Gweithgareddau Awyr Agored a Gwyddoniaeth a PhD mewn Seicoleg Chwaraeon o Brifysgol Ïã¸ÛÁùºÏ²Ê¹ÒÅÆ×ÊÁÏ yn 1991, 1992 a 2000. Derbyniodd Gadair Bersonol yn 2012.
Mae Nichola yn Seicolegydd Siartredig Cymdeithas Seicoleg Prydain ac yn aelod gweithgar a chyfrannol i Sefydliad Seicoleg Perfformiad Elitaidd Ysgol Gwyddorau Dynol ac Ymddygiad.Mae ganddi enw da yn rhyngwladol am ei hymchwil yn ymwneud â delweddaeth a pherfformiad chwaraeon, ac mae hefyd yn gwneud ymchwil ym meysydd arweinyddiaeth, dynameg grŵp a gwytnwch. Mae gwedd drawsfudol i'w hymchwil (theori i ymarfer) ar lefel elît a phroffesiynol ac yn ddiweddar mae wedi sicrhau cyllid ymchwil sylweddol gan City Football Services, sydd wedi bod yn cydweithio gyda Clwb Pêl-droed Manchester City.
Cynorthwyydd Gweithredol, Donna WilliamsÌýd.l.williams@bangor.ac.uk
Dirprwy Is-Ganghellor (Arweinyddiaeth Academaidd)
ÌýÌýkaren.williams@bangor.ac.uk
Ìý Prifysgol Ïã¸ÛÁùºÏ²Ê¹ÒÅÆ×ÊÁÏ
Yr Athro Andrew Edwards yw’r Dirprwy Is-Ganghellor (Arweinyddiaeth Academaidd).
Dechreuodd Yr Athro Andrew Edwards fel academydd yn yr Ysgol Hanes cyn cymryd rolau arweinyddol megis bod yn gyd-gyfarwyddwr y Sefydliad Cymreig dros Faterion Cymdeithasol a Diwylliannol (WISCA) ac yn Gyfarwyddwr Addysgu a Dysgu Coleg y Celfyddydau a'r Dyniaethau. Yn 2012, cafodd ei benodi’n Ddeon y Celfyddydau a’r Dyniaethau, ac ehangodd cylch gorchwyl y swydd honno i gynnwys Busnes yn 2017.
Yn 2020, penodwyd Andrew yn Ddirprwy Is-ganghellor gyda throsolwg dros y Gymraeg, Ymgysylltu Dinesig, Partneriaethau Strategol a Chydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant. Yn y swydd honno, dangosodd allu eithriadol i reoli portffolios amrywiol a chymhleth, gan fod yn llysgennad cadarnhaol ar ran y Brifysgol yng ngwledydd Prydain ac yn rhyngwladol.
Ymunodd Andrew â Phrifysgol Ïã¸ÛÁùºÏ²Ê¹ÒÅÆ×ÊÁÏ yn 1994 fel myfyriwr israddedig mewn Hanes. Enillodd MA mewn Hanes Llafur yn 1998 a chwblhaodd ei PhD yma yn 2002.
Ei swydd academaidd gyntaf oedd fel Darlithydd mewn Hanes Modern. Fe’i dyrchafwyd yn Uwch Ddarlithydd yn 2011 a dyfarnwyd Cymrodoriaeth Ddysgu Prifysgol Ïã¸ÛÁùºÏ²Ê¹ÒÅÆ×ÊÁÏ iddo yn 2012 am gyfraniad eithriadol i’r amgylchedd addysgu. Dyfarnwyd Cadair Bersonol iddo yn 2015. Mae ei ymchwil yn canolbwyntio ar newid gwleidyddol ym Mhrydain ar ôl 1945, hanes datganoli Cymreig a newid cymdeithasol yng Nghymru ar ôl y rhyfel.
Mae Andrew yn Gymrawd y Gymdeithas Hanes Frenhinol a'r Academi Addysg Uwch.
Cynorthwyydd Gweithredol, Karen WilliamsÌýkaren.williams@bangor.ac.uk
Ìý Proffil Yr Athro Paul Spencer
ÌýDirprwy Is-Ganghellor (Ymchwil)
ÌýÌýheather.roberts@bangor.ac.uk
Ìý Prifysgol Ïã¸ÛÁùºÏ²Ê¹ÒÅÆ×ÊÁÏ
Yr Athro Paul Spencer yw’r Dirprwy Is-ganghellor (Ymchwil).
Fel Dirprwy Is-Ganghellor, mae gan Paul gyfrifoldeb strategol dros wella ansawdd ymchwil a pharatoi ar gyfer y Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil nesaf, cynyddu incwm grantiau ymchwil a grantiau diwydiannol, cynnal ac adeiladu rhwydwaith ymchwil ddiwydiannol y Brifysgol, cynnal ac adeiladu rhwydweithiau partneriaethau ymchwil, portffolio arloesi’r Brifysgol, a Bargen Twf y Gogledd.
Derbyniodd Paul radd B.Sc. mewn Ffiseg Gymhwysol a gradd Ph.D. mewn Peirianneg Electronig o Brifysgol Caerfaddon yn 1990 a 1994. Bu'n gynorthwyydd ymchwil ar nifer o brosiectau ymchwil ag ariannwyd gan EPSRC ym Mhrifysgol Caerfaddon cyn symud i swydd darlithydd ym Mhrifysgol Ïã¸ÛÁùºÏ²Ê¹ÒÅÆ×ÊÁÏ yn 1996. Daeth yn Uwch Ddarlithydd yn 2003 a Derbyniodd Gadair Bersonol yn 2006. Yn 2007 fe’i penodwyd yn Bennaeth yr Ysgol Peirianneg Electronig, swydd a ddaliodd am saith mlynedd. Yn 2009 fe’i penodwyd yn Bennaeth Coleg y Gwyddorau Ffisegol a Chymhwysol ac yn 2017 fe’i penodwyd yn Ddeon Coleg y Gwyddorau Amgylcheddol a Pheirianneg.
Prif ddiddordebau ymchwil Paul yw deinameg laser lled-ddargludyddion, effeithiau adborth optegol, lluosogi curiadau, a phriodweddau tonnau optegol dyfeisiau optoelectroneg. Mae wedi bod yn awdur ar fwy na 100 o bapurau cyfnodolion a 140 o bapurau cynhadledd ac mae’n adolygwr rheolaidd o gyfnodolion archifol. Yn 2000 enillodd wobr peirianneg orau Gwyddoniaeth, Peirianneg a Thechnoleg (SET) ac mae hefyd yn Gymrawd y Sefydliad Ffiseg.
Cynorthwyydd Gweithredol, Heather RobertsÌýheather.roberts@bangor.ac.uk
ÌýYr Athro Enlli Thomas
ÌýDiprwy Is-Ganghellor / Pennaeth y Coleg (Celfyddydau, Dyniaethau a Gwyddorau)
ÌýÌýffion.h.jones@bangor.ac.uk
Ìý Prifysgol Ïã¸ÛÁùºÏ²Ê¹ÒÅÆ×ÊÁÏ
Mae Enlli Thomas yn Ddirprwy Is-Ganghellor/Pennaeth Coleg y Celfyddydau, Dyniaethau a Gwyddorau Cymdeithasol. Yn ei rôl, mae’n gyfrifol am ddarparu arweinyddiaeth, gweledigaeth a chyfeiriad strategol ac academaidd i’r Coleg, gan weithio ar y cyd fel aelod o Bwyllgor Gwaith y brifysgol i gyflawni blaenoriaethau a strategaeth sefydliadol.
Cyn y swydd hon, roedd Enlli yn Ddirprwy Is-ganghellor Cynorthwyol dros y Gymraeg. Mae’n eistedd ar Fwrdd Cyfarwyddwyr y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, ac yn Gadeirydd Bwrdd Academaidd y Coleg. Mae’n aelod o Gyngor Partneriaeth y Gymraeg, Llywodraeth Cymru – bwrdd cynghori arbenigol sy’n rhoi cyngor ac adborth i’r Gweinidog sy’n gyfrifol am y Gymraeg.
Mae hi’n Athro Ymchwil mewn Addysg, ac yn Athro Gwadd ym Mhrifysgol Umeå, Sweden ers 2018. Mae ei phrif ddiddordebau ymchwil a’i harbenigedd yn cynnwys archwiliadau seicoieithyddol o brosesau caffael iaith yn ddwyieithog, gan gynnwys caffaeliad plant o strwythurau cymhleth o dan amodau mewnbwn iaith leiafrifol, asesiadau iaith dwyieithog (seicometrig), a dulliau addysgol o drosglwyddo, caffael a defnyddio iaith.
Dyrannwyd medal nodedig Hugh Owen gan Gymdeithas Ddysgedig Cymru (LSW) iddi yn 2019 am ymchwil addysgol eithriadol yng Nghymru, a daeth yn Gymrawd etholedig o’r LSW yn 2023.
Ìý
Ìý Yr Athro Mike Larvin
ÌýDiprwy Is-Ganghellor / Pennaeth y Coleg (Meddygaeth ac Iechyd)
Ìý Prifysgol Ïã¸ÛÁùºÏ²Ê¹ÒÅÆ×ÊÁÏ
Ganwyd a magwyd Mike yng Ngogledd Ddwyrain Lloegr.Ìý Cychwynnodd ei yrfa mewn radio leol, ond gadawodd i astudio Seicoleg, ac yna’n ddiweddarach, Meddygaeth yn Ysbyty Guy’s, Llundain –y cyntaf o’i deulu i raddio.Ìý Yn ddiweddarach ennillodd ddoethuriaeth ymchwil o Brifysgol Leeds a chwblhau ei hyfforddiant mewn Llawfeddygaeth a Thrawsblaniad Iau a Phancreas yn swydd Efrog, gydag chymrodoriaeth ar ymweliad yn yr UDA, Sweden a’r Almaen.
Ym 1993 fe’i penodwyd yn Llawfeddyg Ymgynghorol yn Ysbyty Athrofaol Lewisham ac yn Uwch Ddarlithydd Clinigol yn ysgol feddygol Ysbyty Guy’s.Ìý Ym 1996 dychwelodd i Leeds fel Cyfarwyddwr Cynorthwyol Sefydliad Therapi Llai Ymyrrol a death yn Gyfarwyddwr Llawfeddygaeth ar gyfer Ysbytai Addysgu Leeds unedig.Ìý Ym 1997 fe’I etholowyd yn Athro Hunterian gan Goleg Brenhinol Llawfeddygon Lloegr.Ìý Ym 2002 ymunodd â Phrifysgol Nottingham fel Athro Llawfeddygaeth ac fel aelod o tîm datblygu Ysgol Feddygol Mynediad i Raddedigion, gan ymuno hefyd â’r gwasanaeth Cancr Pancreatig rhanbarthol a sefydlu Gwasanaeth Llawfeddygol Bariatrig Dwyrain Canolbarth Lloegr.
Ym 2012 symudodd i’r Iwerddon fel Pennaeth Ysgol Feddygol newydd Prifysgol Limerick ac roedd yn benodiad gweinidogol i Fwrdd Nyrsio a Bydwreigaeth Iwerddon.Ìý Ym 2017 daeth yn Ddeon Coleg Brenhinol y Llawfeddygon yn ysgol feddygol newydd Iwerddon yn Kuala Lumpur, Malaysia, cyn dychwelyd i’r DU ym 2021 fel Pennaeth Gweithredol cyn Ysgol Gwyddorau Meddygol ac Iechyd Prifysgol Ïã¸ÛÁùºÏ²Ê¹ÒÅÆ×ÊÁÏ a Llawfeddyg Ymgynghorol Anrhydeddus i Betsi Cadwaladr.Ìý Ymunodd â’r Bwrdd Iechyd fel aelod annibynnol ym mis Ebrill 2023.
Ar ôl bod yn rhan o nifer o ddatblygiadau o ysgolion meddygol newydd yn y DU a thramor, mae Mike yn arwain ar ddatblygiad Ysgol Feddygol newydd Gogledd Cymru, sydd ar fin derbyn ei fyfyrwyr cyntaf ym mis Medi 2024.Ìý Mae’n credo bod hyn yn agwedd hanfodol ar genhadaeth ddinesig y Brifysgol ac a fydd o gymorth i ddatrys diffygion rhanbarthol mewn staffio meddygol a gofal iechyd ac a fydd yn gwella mynediad at ofal iechyd ar draws Gogledd Cymru, yn arbennig felly i siaradwyr Cymraeg.
Ìý Yr Athro Morag McDonald
ÌýDiprwy Is-Ganghellor / Pennaeth y Coleg (Gwyddoniaeth a Pheirianneg)
Ìý Prifysgol Ïã¸ÛÁùºÏ²Ê¹ÒÅÆ×ÊÁÏ
Mae Morag yn Ddirprwy Is-ganghellor/Pennaeth y Coleg Gwyddoniaeth a Pheirianneg. Yn rhan o’i gwaith mae hi’n gyfrifol am ddarparu arweiniad, cyfeiriad a gweledigaeth strategol ac academaidd i'r Coleg ac am arwain ar ddatblygiadau strategol sy’n cyfateb i strategaeth gyffredinol y brifysgol. Fel aelod o Fwrdd Gweithredol y Brifysgol, mae Morag yn cydweithio â Dirprwy Is-gangellorion y Colegau a'r Bwrdd Gweithredol ehangach ar flaenoriaethau sefydliadol a chyflawni Strategaeth 2030.
Mae gan Morag radd israddedig mewn Amaethyddiaeth a Gwyddor yr Amgylchedd (Castellnewydd) a PhD mewn Coedwigaeth (Caeredin). Dilynwyd hyn gan gymrodoriaethau ôl-ddoethurol ym Mhrifysgol British Columbia yng Nghanada cyn ymuno â Phrifysgol Ïã¸ÛÁùºÏ²Ê¹ÒÅÆ×ÊÁÏ yn 1991. O 1992 i 1998 bu’n gweithio ym Mhrifysgol India'r Gorllewin yn Jamaica. Ar ôl dychwelyd i Fangor, parhaodd â gyrfa ymchwil ryngwladol gyda diddordebau eang mewn effeithiau aflonyddwch anthropogenig a naturiol ar ecosystemau coedwigoedd trofannol. Mae’n Gomisiynydd a Dirprwy Gadeirydd Comisiwn Ysgoloriaeth y Gymanwlad yn y Deyrnas Unedig; yn Ymarferydd y Sefydliad Rheoli ac Asesu Amgylcheddol; yn Uwch Gymrawd yr Academi Addysg Uwch, ac yn Gymrawd y Gymdeithas Ddaearyddol Frenhinol.
Ìý Mr Martyn Riddleston
Prif Swyddog CyllidÌýÌý
Ìý Prifysgol Ïã¸ÛÁùºÏ²Ê¹ÒÅÆ×ÊÁÏ
Mr Martyn Riddleston yw’r Prif Swyddog Cyllid ac mae ganddo gyfrifoldeb strategol dros bob agwedd ar berfformiad, cynllunio a rheolaeth ariannol, datblygiad strategaeth ariannol y Brifysgol, goruchwylio’r strategaeth pensiynau, cynrychioli’r Brifysgol fel y cyflogwr mewn perthynas â Chynllun Pensiwn ac Aswiriant Prifysgol Ïã¸ÛÁùºÏ²Ê¹ÒÅÆ×ÊÁÏ, y berthynas a banciau a rhoddwyr benthyg, goruchwylio’r strategaeth gaffael ac is-gwmnïau a chwmnïau cyd-fentro’r Brifysgol. Ìý
Cyn ymuno a Phrifysgol Ïã¸ÛÁùºÏ²Ê¹ÒÅÆ×ÊÁÏ, bu Martyn mewn swyddi uwch ym Mhrifysgol CaerlÅ·r lle roedd yn Brif Swyddog Cyllid, yn Gyfarwyddwr Cyllid ac yn Brif Swyddog Gweithredu.
Mae'n gyfrifydd siartredig a dechreuodd ei yrfa gyda KPMG yn gweithio gyda chleientiaid archwilio ac ar drafodion corfforaethol yn y DU ac Ewrop. Mae wedi gweithio yn y sector Addysg Uwch ers 20 mlynedd.
Y tu allan i’r Brifysgol mae Martyn yn ymddiriedolwr elusen ac yn aelod o grŵp pensiynau cenedlaethol.
Cynorthwyydd Gweithredol, Bethan NelsonÌýb.nelson@bangor.ac.uk
Ìý Mrs Tracy Hibbert
ÌýPrif Swyddog Pobl
ÌýÌýrhian.roberts@bangor.ac.uk
Ìý Prifysgol Ïã¸ÛÁùºÏ²Ê¹ÒÅÆ×ÊÁÏ
Mrs Tracy Hibbert yw’r Prif Swyddog Pobl, a mae ganddi gyfrifoldeb strategol dros ddarparu cyngor, arweiniad ac arweinyddiaeth ar draws y Brifysgol ym mhob maes allweddol sy’n ymwneud ag adnoddau dynol, gweithrediadau pobl, llesiant, datblygu sefydliadol, recriwtio a dal gafael ar bobl, a darparu cyngor ynglyn â chydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant. Ìý
Ar hyn o bryd mae Tracy yn Gadeirydd Adnoddau Dynol Prifysgolion (UHR) Cymru, y sefydliad proffesiynol ar gyfer ymarferwyr Adnoddau Dynol yn y sector addysg uwch, ac mae’n aelod o Bwyllgor Gweithredu UHR. Hi hefyd yw Cadeirydd Grŵp Hysbysebu’r Prifysgolion (consortiwm o 39 o Brifysgolion yn gweithio gyda’i gilydd i gaffael hysbysebion recriwtio cost-effeithiol ar gyfer y sector) ac mae’n Gymrawd o’r CIPD (Y corff proffesiynol ar gyfer AD).
Mae gan Tracy Hibbert brofiad helaeth o weithio yn y sector addysg uwch, a chyn hynny bu’n gweithio i’r Swyddfa Gartref.
Cynorthwyydd Gweithredol, Rhian RobertsÌýrhian.roberts@bangor.ac.ukÌý
Ìý Mr Mike Wilson
Prif Swyddog Strategaeth a Chynllunio
Ìý Prifysgol Ïã¸ÛÁùºÏ²Ê¹ÒÅÆ×ÊÁÏ
Mr Mike Wilson yw’r Prif Swyddog Strategaeth a Chynllunio ac mae ganddo gyfrifoldeb strategol dros baratoi a monitro cynllun strategol y Brifysgol ac is-strategaethau cysylltiedig, prosesau cynllunio busnes a monitro, sicrwydd risg, gwybodaeth fusnes, ffurflenni statudol (e.e. HESA / CCAUC / SLC) a Pholisi Ffioedd Dysgu. Mae Mike hefyd yn goruchwylio’r Gwasanaeth Cymorth Integredig Ymchwil ac Effaith (IRIS) ac mae’n arwain ar gefnogi ymchwil ac effaith, a darparu cefnogaeth ar gyfer projectau a phartneriaethau strategol.Ìý
Mae Michael wedi gweithio mewn Addysg Uwch ers dros ugain mlynedd gyda phrofiad sylweddol o weithio'n agos gydag uwch dimau rheoli ar draws pob agwedd ar y portffolio strategol a chynllunio busnes.
Cynorthwyydd Gweithredol, Jaci PenningtonÌýj.pennington@bangor.ac.uk
Ìý Mr Michael Flanagan
Prid Swyddog Gweithredu
Ìý Prifysgol Ïã¸ÛÁùºÏ²Ê¹ÒÅÆ×ÊÁÏ
Prif Swyddog Gweithredu Prifysgol Ïã¸ÛÁùºÏ²Ê¹ÒÅÆ×ÊÁÏ yw Mr Michael Flanagan
Mae gan Michael gyfrifoldeb strategol am arwain gwasanaeth proffesiynol cydlynol (gan gynnwys Canolfan Bedwyr, Gwasanaethau Digidol, Gwasanaethau Campws ac Ystadau, Adnoddau Dynol, Marchnata, Recriwtio a Chyfathrebu a Gwasanaethau Myfyrwyr), yn ogystal â chyfrifoldeb dros iechyd, diogelwch a rheoli argyfyngau a goruchwylio trwyddedau allweddol y Brifysgol.
Cymhwysodd Michael yn wreiddiol fel syrfëwr a bu’n gweithio fel Cyfarwyddwr Ystadau a Gwasanaethau Digidol ym Mhrifysgol Caerlŷr cyn symud i Fangor. Cyn hynny, bu'n aelod o dîm Gweithredol Prifysgol Greenwich, a chyn hynny’n gyfarwyddwr ac ymgynghorydd i’r London Legacy Development Corporation mewn perthynas â phrif gynllunio a hyfywedd ar gyfer blaenoriaethau adfywio maer Llundain. Bu’n arwain ar reoli ystadau a chyfleusterau Parc Olympaidd y Frenhines Elisabeth a’r stadiwm Olympaidd ac mae wedi arwain gwaith isadeiledd a digidol integredig gyda dau gyngor yn Llundain.
Cynorthwyydd Gweithredol, Ms Bethan NelsonÌý b.nelson@bangor.ac.uk
Ìý Mrs Patricia Murchie
ÌýPrif Swyddog MarchnataÌý
Ìý Prifysgol Ïã¸ÛÁùºÏ²Ê¹ÒÅÆ×ÊÁÏ
Ìý Mrs Gwenan Hine
Ysgrifennydd y Brifysgol
ÌýÌýkaren.williams@bangor.ac.uk
Ìý Prifysgol Ïã¸ÛÁùºÏ²Ê¹ÒÅÆ×ÊÁÏ
Mrs Gwenan Hine yw Ysgrifennydd y Brifysgol, ac mae ganddi gyfrifoldeb strategol dros bob agwedd ar lywodraethiant y Brifysgol, gan gynnwys darparu trosolwg, cyngor a chefnogaeth i’r Cyngor, y Senedd, y Llys, y Bwrdd Gweithredol ac Is-bwyllgorau’r Cyngor (y Pwyllgor Cyllid a Strategaeth, y Pwyllgor Archwilio a Risg, y Pwyllgor Enwebiadau a Llywodraethu, Pwyllgor Materion y Gymraeg a’r Pwyllgor Pobl a Diwylliant). Yn ogystal mae Gwenan yn arwain ar ddarpariaeth a gweithrediad strategol ac effeithiol yn Swyddfa’r Is-ganghellor, darparu gwasanaethau cyfreithiol a chydymffurfiaeth â chontractau a gofynion gwybodaeth, diogelu a Prevent, ymddygiad myfyrwyr a chwynion, llywodraethu a moeseg ymchwil ac ordinhadau, rheoliadau a pholisïau. Gwenan sy’n goruchwylio proses Graddau Er Anrhydedd y Brifysgol, a’r Pwyllgor Enwebiadau Anrhydeddau Cenedlaethol.
Mae Gwenan wedi treulio rhan fwyaf o’i gyrfa yn gweithio yn y sector addysg uwch, cyn hynny bu’n gweithio i’r BBC yn Llundain ac i gyhoeddwyr Harper Collins. Derbyniodd Gwenan BA mewn Addysg o Goleg Prifysgol Gogledd Cymru yn 1986.
Cynorthwyydd Gweithredol, Karen Williams Ìýkaren.williams@bangor.ac.uk