Ïã¸ÛÁùºÏ²Ê¹ÒÅÆ×ÊÁÏ

Fy ngwlad:

Mannau Arloesi

Ein LABordai

Mae ein cyfleuster chwe llawr wedi ei rannu’n nifer o leoedd gwaith cysylltiedig neu ‘LABiau’.

coLAB

Mae hwn yn fan dysgu creadigol, hyblyg y gellir ei ad-drefnu’n rhwydd i wneud lle i grwpiau a thimau o wahanol faint. Mae gan arloeswyr sy’n defnyddio’r coLAB le i drafod syniadau a gallant hefyd ddefnyddio cyfarpar sganio, argraffu a sgriniau arddangos mawr yn ogystal ag offer crefft a modelu.

fabLAB

Mae’r fabLAB yn fan lle gwireddir syniadau. Gall arloeswyr ddefnyddio amrywiaeth o offer a thechnolegau sy’n eu galluogi i brototeipio eu cynnyrch mewn cyfnod byr. Mae’r offer hyn yn cynnwys meddalwedd argraffu 3D, sganio a phroffilio.

hackLAB

Yn y hackLAB gall arloeswyr ddefnyddio llwyfannau caledwedd a meddalwedd ffynhonnell agored i archwilio sut bydd eu cynnyrch yn addasu ac ymateb i newidiadau yn yr amgylchedd. Mae’n fan lle caiff syniadau eu profi go iawn.

mediaLAB

Mae’r mediaLAB yn canolbwyntio ar ddatblygu deunydd marchnata o ansawdd i gynnyrch a gwasanaethau ein harloeswyr. Mae’n gartref i dechnoleg ac offer ffotograffiaeth, fideo, animeiddio a dylunio graffig.

whiteBOX

Mae’r whiteBOX yn arddangos cynnyrch a gwasanaethau ein harloeswyr. Mae’n fan lle gellwch weld a rhoi cynnig ar gynnyrch arloesol sy’n barod i’r farchnad. Gobeithiwn y bydd cynnwys amrywiol, creadigol a llwyddiannus y whiteBOX yn ennyn eich chwilfrydedd ac yn eich ysbrydoli.