Arweinwyr Cyfoed - yma i'ch helpu!
Byddant yn eich helpu i wneud ffrindiau drwy amrywiaeth o ddigwyddiadau cymdeithasol, dangos y dref a'r brifysgol i chi, a rhoi gwybodaeth a chyngor i chi am fywyd fel myfyriwr. 聽Byddant hefyd yn gwneud eu gorau i ateb eich holl gwestiynau o 鈥淏le mae'r ystafelloedd darlithio?鈥 i 鈥淏le alla i olchi dillad?鈥. Ond os na allant helpu, bydd eu hyfforddiant yn golygu eu bod yn adnabod rhywun a all eich helpu a byddant yn eich cyfeirio at yr aelod staff perthnasol all eich helpu.
Mae鈥檙 Arweinwyr Cyfoed yn gweithio trwy eu hysgolion academaidd - efallai y byddwch hyd yn oed yn adnabod rhai ohonynt o ddiwrnod agored yn y brifysgol. 聽Fodd bynnag, yn ystod y cyfnod croeso fe welwch gryn dipyn ohonynt. Bydd gennych Arweinydd Cyfoed penodedig a fydd yn eich cyfarfod ac yn cadw llygad cyfeillgar arnoch ond fe ddewch chi ar draws llawer o arweinwyr cyfoed yn gweithredu'n fwy cyffredinol mewn digwyddiadau a chyfarfodydd. 聽Byddan nhw'n gwneud yn si诺r eich bod yn cyrraedd lle rydych chi i fod, byddan nhw wrth law mewn gwahanol gyfarfodydd a digwyddiadau sefydlu ac yn ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych chi. A dydi hynny ddim yn cynnwys yr holl ddigwyddiadau cymdeithasol!聽
Bydd llawer ohonoch yn 'cwrdd' 芒鈥檆h Arweinydd Cyfoed cyn i chi gyrraedd 香港六合彩挂牌资料 mewn gwirionedd. 聽Bydd rhai ysgolion yn cynnal tudalennau Facebook gyda'r Arweinwyr Cyfoed yn cyfrannu atynt, tra bydd eraill yn gofyn i'r arweinwyr cyfoed anfon e-bost neu neges destun atoch. 聽Peidiwch 芒 bod yn swil - os cewch wahoddiad i ymuno ar gyfryngau cymdeithasol neu gysylltu'n uniongyrchol 芒'ch Arweinydd Cyfoed - gwnewch hynny. 聽Byddant yn dechrau rhoi gwybodaeth i chi'n syth ac ateb eich cwestiynau.听
Os ydych yn symud i neuaddau preswyl fe welwch lawer o'r Arweinwyr Cyfoed hwnt ac yma yn eu crysau-t llachar yn cyfarch pawb. Bydd eich Arweinydd Cyfoed yn chwilio amdanoch chi i ddweud helo ac yn rhoi gwybod ichi am weithgareddau cymdeithasol a gynlluniwyd a chyfarfodydd cychwynnol yn eich ysgol academaidd.
Os nad ydych wedi cwrdd 芒'ch arweinydd cyfoed am ryw reswm ac yr hoffech wneud hynny, rhowch wybod i ni drwy e-bostio arweinwyrcyfoed@bangor.ac.uk.听
Mae'r rhan fwyaf o fyfyrwyr newydd yn gweld bod arweinwyr cyfoed yn ddefnyddiol iawn. Serch hynny, os ydych chi wir yn teimlo nad ydych chi ddim eisiau un, rhowch wybod i ni. Gallwch wneud hyn drwy e-bostio arweinwyrcyfoed@bangor.ac.uk.