Mae ein hymchwil yn yr Ysgol Seicoleg yn adlewyrchu dau ddull allweddol. Ein dull allweddol cyntaf yw datblygu ac astudio ymyriadau i hyrwyddo llesiant, o blentyndod cynnar i oedran h欧n. Roedd ymyriad wrth wraidd agenda鈥檙 ysgol pan gafodd ei sefydlu fwy na 50 mlynedd yn 么l, ac mae鈥檔 parhau i fod yn ganolog i鈥檔 hunaniaeth ymchwil heddiw. Ein hail ddull allweddol yw niwrowyddoniaeth wybyddol, lle rydym wedi buddsoddi'n helaeth mewn staff ac adnoddau ymchwil arbenigol, i ymchwilio i ganfyddiad a gweithredu; iaith a datblygiad; a gwybyddiaeth gymdeithasol.听
Ar hyn o bryd mae gennym bedwar gr诺p ymchwil eang:
Canfyddiad a Gweithredu
Mae'r gr诺p hwn yn edrych ar sut rydym yn tynnu gwybodaeth o'r amgylchedd ac yn defnyddio'r wybodaeth hon i arwain ein gweithredoedd, a sut mae rhyngweithio o'r fath yn arwain at ddysgu a'r cof. Mae astudiaethau'n edrych ar y llif gwybodaeth o ganfyddiad, megis adnabod gwrthrychau, sut mae sylw a symudiadau llygaid yn arwain y broses o ddewis gweithredu, sut y gellir newid ymateb rhwng gwahanol briodweddau ysgogiad, sut mae gweithredoedd yn cael eu cyfeirio trwy ofod 3D a sut mae systemau'r cof yn rhyngweithio. Mae'r gr诺p yn defnyddio gwahanol fesurau ymddygiadol megis recordio symudiadau llaw a llygaid, technegau niwroddelweddu fel EEG a fMRI, yn ogystal ag astudio cleifion gydag anafiadau yn yr ymennydd a thrin ymatebion niwral gydag ysgogiad magnetig trawsgreuanol (TMS) ac ysgogiad cyfredol uniongyrchol (DCS).
Iaith a Datblygiad
Mae'r gr诺p yn defnyddio nifer o wahanol ddulliau niwrowyddoniaeth ymddygiadol, niwroseicolegol a gwybyddol i astudio rhyngweithiad iaith a gwybyddiaeth drwy gydol oes. Mae projectau ymchwil yn cynnwys ymchwil lefel sylfaenol a thrafodol gyda babanod, plant ac oedolion uniaith a dwyieithog. 听Mae pynciau ymchwil cyfredol yn cynnwys datblygiad ffonolegol a geirfaol, adnabod geiriau, prosesu semantig, llythrennedd, rhaglenni triniaeth ar gyfer affasia mewn pobl ddwyieithog, manteision gwybyddol i ddwyieithrwydd, preimio traws-iaith ac ymyrraeth mewn pobl ddwyieithog.听
Gwybyddiaeth Gymdeithasol a Niwrowyddoniaeth
Mae'r gr诺p hwn yn ymchwilio i gwestiynau ymchwil sy'n ymwneud 芒 sut mae'r ymennydd yn gwneud synnwyr o'r byd cymdeithasol. Mae'r gr诺p yn canolbwyntio ar y canfyddiad o bobl eraill - eu hwynebau, cyrff, lleisiau; deall ystyr gweithredoedd eraill; ar ddysgu cymdeithasol; ar anhwylderau gwybyddiaeth gymdeithasol; ac ar emosiwn a鈥檙 cof.
Ymyrraeth, Lles a Seicoleg Glinigol
Ffocws eang y gr诺p hwn yw cymhwyso gwybodaeth seicolegol i ddeall a gwella lles seicolegol mewn sawl cyd-destun. Mae amrywiaeth o gwestiynau cymhwysol yn ysgogi'r ymchwil yn y gr诺p hwn, gyda llawer yn ymdrin 芒'r angen i newid ymddygiad mewn iechyd (e.e. diet, bwyta ac alcohol) a lleoliadau galwedigaethol, ond hefyd prosesau datblygu a dysgu nodweddiadol drwy gydol oes (e.e. dementia). Mae seicoleg iechyd hefyd yn ganolbwynt pwysig i'r gr诺p hwn yn ogystal 芒 defnyddio ymyriadau seicolegol (e.e. rhaglenni sy'n seiliedig ar ymwybyddiaeth ofalgar) mewn nifer o wahanol boblogaethau.
听